Astudiaeth Achos - Burts The Bakers Ltd

Cefndir 


Wedi'i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae Burts The Bakers wedi bod yn busnes teuluol ers 1945. Gan gyflogi chwe aelod o staff, mae'r cwmni'n cynhyrchu ystod o gacennau brand Burts, mins peis, Viennese whirls a bisgedi brau hwylus y mae'n eu cyflenwi i gyfanwerthwyr, dosbarthwyr a manwerthwyr annibynnol ledled y DU, Ewrop ac UDA. 

Yn angerddol am gynhyrchu cynhyrchion o ansawdd uchel, enillodd Burts’ Wobrau Bwyd Cymru 2017 am Fecws Cyfanwerthol y Flwyddyn.

Cymorth gan ZERO2FIVE 

Burts Viennese mince pies

Symudodd Burts i uned weithgynhyrchu newydd ym mis Gorffennaf 2020 a chefnogodd ZERO2FIVE y cwmni i sicrhau y byddai ei ddyluniad a'i brosesau yn cwrdd â gofynion ardystiad trydydd parti SALSA.

Wrth baratoi ar gyfer archwiliad SALSA y cwmni, bu technolegydd ZERO2FIVE yn mentora'r cwmni, gan rannu ystod o wybodaeth ac arbenigedd technegol. Cefnogodd ZERO2FIVE y cwmni i adolygu a datblygu Cynllun HACCP a System Rheoli Ansawdd newydd, cynllunio a darparu cyrsiau hyfforddi pwrpasol ac adolygu prosesau a gweithdrefnau cynhyrchu'r cwmni yn unol ag arferion gweithgynhyrchu da, deddfwriaeth a safon SALSA. 


Manteision y cymorth 

Gyda chefnogaeth ZERO2FIVE, llwyddodd Burts The Bakers i basio eu harchwiliad SALSA ym mis Mawrth 2021. Mae cael yr ardystiad hwn wedi bod yn hanfodol i'r cwmni sicrhau cwsmeriaid newydd, lansio cynhyrchion newydd, a datblygu sgiliau a diwylliant diogelwch bwyd ei weithlu. 

Dywedodd Charlotte Burt, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Burts The Baker: 

“Mae'r help a'r gefnogaeth gan ZERO2FIVE wedi bod yn gwbl amhrisiadwy. Dros gyfnod o chwe mis, fe wnaethant ein helpu i sefydlu a chychwyn yr holl brosesau i gael ardystiad SALSA. Mae llawer o waith caled gan y ddwy ochr wedi rhoi’r busnes mewn sefyllfa dda ar gyfer twf yn y dyfodol.”

“Mae'r technolegwyr yn ZERO2FIVE yn hynod wybodus a chymwynasgar gydag agwedd gadarnhaol at beth bynnag sy angen ei wneud - nid oedd dim yn ormod o drafferth. Mae Burts the Bakers yn cynllunio i ehangu ac wrth wneud hynny byddwn yn troi at ZERO2FIVE i gael cefnogaeth bellach. "