Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Gwasanaethau>Authentic Curry Company astudiaeth achos

Authentic Curries & World Foods - Astudiaeth Achos

Authentic Curry Company logo

Cefndir 

Mae Authentic Curries and World Foods yn cynhyrchu amrywiaeth o brydau parod gan ddefnyddio dulliau coginio cartref ar gyfer manwerthwyr, bwytai, tafarndai, awdurdodau lleol a chaffis cadwyn archfarchnadoedd mawr. Mae 30 o weithwyr y cwmni yn cynhyrchu dros 100 o wahanol gynhyrchion yn eu ffatri Ardystiedig Diogelwch Bwyd BRCGS, Gradd AA, yn Rhondda Cynon Taf.

Sefydlodd David Smith a Paul Trotman y cwmni ym 1996 ar ôl i Paul aros ym motel David yn Sir Benfro a gweld sut roedd cwsmeriaid yn teithio ymhell ac agos i flasu cyri David. Gwelodd y ddau botensial mewn menter fusnes ar y cyd a phenderfynwyd sefydlu The Authentic Curry Company. 

Cymorth gan ZERO2FIVE 

Mae gan Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE hanes hir o ddarparu Authentic Curries and World Foods gyda chymorth technegol mewn meysydd fel archwilio mewnol yn erbyn safonau Diogelwch Bwyd BRCGS a hyfforddiant mewn HACCP a diogelwch bwyd sylfaenol. 

Oherwydd arferion gwaith newydd yn deillio o COVID-19, cyflwynodd technolegydd ZERO2FIVE archwilio mewnol o bell yn erbyn BRCGS. Helpodd hyn y cwmni i baratoi ar gyfer eu harchwiliad BRCGS anghysbell cyntaf ym mis Mai 2021, a basiodd y cwmni’n llwyddiannus gyda Gradd AA. 

Yn hytrach na chyflwyno’r hyfforddiant diogelwch bwyd wyneb yn wyneb arferol i aelodau staff, datblygodd technolegydd ZERO2FIVE lyfrynnau hyfforddi yr oedd y rheolwr technegol yn Authentic Curry yn gallu eu defnyddio’n uniongyrchol gydag aelodau staff ar y safle.

Yn olaf, gwnaeth Authentic Curries ddefnydd da o becyn cymorth COVID-19 Arloesi Bwyd Cymru i sicrhau eu bod yn dilyn arfer gorau o ran canllawiau a chyfyngiadau pandemig.

Authentic Curry Company

Manteision y cymorth 

O ganlyniad i’r cwmni yn cynnal eu hardystiad Diogelwch Bwyd BRCGS maent wedi llwyddo i sicrhau dau gwsmer ychwanegol, lansio 15 cynnyrch newydd a chadw gwerthiant o dros hanner miliwn o bunnoedd. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o brydau calorïau isel i awdurdod iechyd lleol a phrydau carbohydrad isel i fusnes  ar-lein yng Nghymru sy’n helpu eu cwsmeriaid i ddilyn deietau carbohydrad is. 

Paul Trotman, Rheolwr Gyfarwyddwr Authentic Curries: “Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan ZERO2FIVE wir wedi bod o fudd i ni. Mae wedi bod yn amhrisiadwy cael arbenigedd o’r tu allan, yn dod i mewn ac yn ein harchwilio i baratoi ar gyfer BRCGS. Mae’r holl gyfranogiad yr ydym wedi’i gael gyda Phrifysgol Met Caerdydd wedi bod yn anhygoel ac mae’n helpu pethau i redeg yn llawer mwy esmwyth.”