Bydd myfyrwyr yn astudio'r modiwlau canlynol ym mlwyddyn un:
• Gwerthusiad Beirniadol (10 credyd)
Yn cyflwyno'r broses o ymarfer ar sail tystiolaeth ac yn gosod y llwyfan ar gyfer archwiliad
gwrthrychol ar ymchwil a damcaniaethau cyhoeddedig. Mae'r sgil hon yn hanfodol ar gyfer
pob modiwl dilynol, lle mae angen gwerthuso damcaniaethau cystadleuol yn wrthrychol.
• Dadansoddiad cerddediad (10 credyd)
Yn cynnwys arfarniad o'r materion damcaniaethol ac ymarferol sy'n ymwneud â gwahanol
ddulliau dadansoddi cerddediad, gan ystyried y meini prawf ar gyfer y system glinigol /
ymchwil orau posibl, a defnyddioldeb clinigol y cynnyrch gwybodaeth a geir o
dechnolegau amrywiol.
• Sail Patholegol Anhwylderau Cyhyrysgerbydol (10 credyd)
Yn ystyried y prosesau patholegol sy'n sail i ddatblygiad ystod o anhwylderau
cyhyrysgerbydol yr aelodau isaf, gan bwysleisio gwerth y wybodaeth yma wrth ddeall
mynegiant anhwylderau penodol, a chysylltu â chyfleoedd i gael triniaeth./p>
• Dysgu Seiliedig ar Waith: Archwiliad a Diagnosis Cyhyrysgerbydol (20 credyd)
Yn darparu fframwaith ble y gall myfyrwyr osod eu bwriadau dysgu eu hunain mewn
perthynas ag arholi a diagnosis. Gall y rhain gael eu hangori'n benodol i ymarfer neu
ddyheadau gyrfa, a rhaid i fyfyrwyr ddatblygu, cwblhau ac adrodd ar gyfres o
weithgareddau sydd wedi'u cynllunio i gyflawni'r bwriadau dysgu.
A detholiad o'r modiwlau canlynol ym mlwyddyn dau:
• Chwaraeon, Biomecaneg ac Anafiadau (10 credyd) / Chwaraeon, Biomecaneg a Rheoli
Anafiadau (20 credyd)
Yn cyfeirio at ddau fodiwl sy'n canolbwyntio ar egwyddorion biomecaneg a'u cymhwysiad i
faes anafiadau chwaraeon. Mae'r 10 credyd cyntaf, y gellir eu hastudio ar eu pennau eu
hunain, yn canolbwyntio ar ddatblygu anaf tra bod yr ail 10 credyd yn canolbwyntio ar
oblygiadau materion biomecanyddol i reoli anafiadau.
• Cyflwyniad i Therapi Chwistrellu (10 credyd)*
Mae Therapi Chwistrellu yn canolbwyntio ar bigiadau steroid i'r droed a'r ffêr, ond mae'n cynnwys rôl anesthetig diagnostig lleol a viscoychwanegiad.
•Therapiwteg Cyhyrysgerbydol: Modiwl dysgu seiledig ar waith (20 credyd)
Yn darparu fframwaith ble y gall myfyrwyr osod eu bwriadau dysgu eu hunain mewn perthynas â therapiwteg cyhyrysgerbydol. Gall y rhain gael eu hangori'n benodol i ymarfer neu ddyheadau gyrfa, a rhaid i fyfyrwyr ddatblygu, gwblhau ac adrodd ar gyfres o weithgareddau sydd wedi'u cynllunio i gyflawni'r bwriadau dysgu.
• Ffarmacoleg ar gyfer Podiatryddion (10 credyd)
Mae ffarmacoleg wedi'i achredu gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, ac mae cyfranogwyr llwyddiannus yn gymwys i gael eu hanodi ar y gofrestr sy'n caniatáu mynediad i'r fformiwlari cyfyngedig o feddyginiaethau sydd ar gael i Podiatryddion trwy'r gorchymyn eithrio. Mae hyn yn darparu mynediad i depomedrone, steroid chwistrelladwy, ac felly'n cefnogi'r modiwl Therapi Chwistrellu.
• Dulliau ymchwil (20 credyd)
Mae Dylunio a Dulliau Ymchwil Cymhwysol yn fodiwl amlddisgyblaethol 20 credyd a ddarperir gan dîm o staff yr ysgol gwyddorau cymdeithasol ac iechyd. Mae'n ystyried rôl dyluniadau ymchwil ansoddol a meintiol ac thechnegau ystadegol amrywiol. Yn y drydedd flwyddyn bydd myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect ymchwil 60 credyd, a fydd yn cynnwys datblygu cynnig ymchwil wedi'i asesu a chyflwyno adroddiad ymchwil.
*Mae cymeradwyaeth gan Gymdeithas y Ceiropodyddion a Podiatryddion yn cael ei cheisio ar gyfer cymeradwyo modiwlau a fyddai’n dod, hyd nes y cwblheir log o bigiadau ychwanegol wedi ei fentora, ag yswiriant i berfformio pigiadau steroid i’r droed.
Cliciwch ymai awrlwytho dadansoddiad llawn a throsolwg o'r rhaglen.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Bydd myfyrwyr sy'n cofrestru ar y rhaglen hon eisoes yn gweithio ym maes gofal iechyd. Fodd bynnag, bydd y sylfaen wybodaeth uwch, a'r dull myfyriol, beirniadol o ymarfer sy'n dilyn yn gwella potensial datblygu gyrfa. Ar gyfer gweithwyr y GIG gall hyn fod yn gysylltiedig â chymhwyster ar gyfer swyddi band uwch o dan 'Agenda ar gyfer Newid' - gan symud tuag at rolau ymarferwyr â chwmpas estynedig. I'r rhai mewn practis preifat daw mwy o hyder a gallu wrth drin amrywiaeth ehangach o gleifion ag ystod ehangach o anhwylderau.
Gofynion Mynediad
Y rhagofyniad yw aelodaeth o broffesiwn gofal iechyd sy'n gymwys i gael gwaith yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y DU, neu'r hyn sy'n cyfateb yn rhyngwladol. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf blwyddyn o ymarfer ôl-radd; llwyth achosion cyhyrysgerbydol a darparu tystiolaeth o weithgareddau DPP sy'n ymwneud â diagnosis / rheolaeth cyhyrysgerbydol. Dylid darparu canolwyr boddhaol, sy’n cadarnhau’r llwyth gwaith cyhyrysgerbydol ac yn cefnogi'r cais, ochr yn ochr â'r cais.
Ffeithiau Allweddol
Wedi'i achredu gan: Mae achrediad gan Gymdeithas y Ceiropodyddion a Podiatryddion yn cael ei geisio er mwyn darparu yswiriant ar gyfer myfyrwyr sy'n cwblhau'r modiwl Therapi Chwistrellu yn llwyddiannus ac wedi hynny yn cwblhau cofnod boddhaol o oddeutu 10 pigiad wedi'i fentora.
Campws: Llandaf
Ysgol: Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Hyd y Cwrs: Tair mlynedd yn rhan-amser. Presenoldeb: Cyflwynir y rhaglen dros gyfres o flociau cyswllt byrion. Ym mlwyddyn un mae hyn yn cynnwys 3-4 bloc cyswllt, ac ym mlwyddyn 2 mae angen pedwar. Mae'r blociau cyswllt hyn fel arfer ym mis Medi, Ionawr a Mawrth / Ebrill. Mae'r gwir ddyddiadau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn.
Asesu::
Asesir myfyrwyr yn barhaus gan ddefnyddio dyddiaduron dysgu, astudiaethau achos, traethodau a chyflwyniadau. Er mwyn cyflawni'r gofynion ar gyfer dyfarnu MSc, rhaid i fyfyrwyr gwblhau'r modiwl traethawd hir, sy'n cynnwys amddiffyniad llafar o'r fethodoleg arfaethedig, adolygiad llenyddiaeth sy'n nodi adolygiad beirniadol o gefndir y prosiect, ac erthygl yn addas i'w gyhoeddi sy'n adrodd ar y astudiaeth ymchwil.
Y Broses Ddethol:
Ffurflen gais, CV, tystlythyrau ategol a chyfweliad.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i'r brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth . Am wybodaeth pellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais: www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.
Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Cyn gwneud cais, dylai myfyrwyr rhyngwladol (y rhai o’r tu allan i'r UE), gysylltu â'r Swyddfa Ryngwladol yn Met Caerdydd i drafod y gweithdrefnau angenrheidiol mewn perthynas ag astudio gyda ni. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/international.
Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Ewch i www.cardiffmet.ac.uk/fees.
Ysgoloriaethau Ôl-raddedig:
Mae'r brifysgol hefyd yn cynnig cynllun ysgoloriaeth ôl-raddedig i helpu myfyrwyr tra yn y brifysgol. I weld a ydych chi'n gymwys, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/scholarships.
Cysylltu â Ni
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Recriwtio Myfyrwyr ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch courses@cardiffmet.ac.uk
Ar gyfer ymholiadau ynghylch cyrsiau penodol, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen Ian Mathieson:
E-bost: imathieson@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2041 6864