Mae'r BSc (Anrh) Deieteteg a Maetheg Ddynol yn gofyn am gwblhau a phasio tri lleoliad clinigol.
Lleoliad 1 am chwe wythnos yn ystod blwyddyn 2 y rhaglen (Mai - Mehefin).
PlLleoliad 2 am 8 wythnos ar ddechrau blwyddyn 3 y rhaglen (Medi - Hydref)
Lleoliad 3 am 14 wythnos yn ystod blwyddyn 3 (Ionawr - Ebrill).
Mae pob lleoliad yn gofyn i fyfyrwyr ddangos cymwyseddau mewn sgiliau dieteteg penodol. Mae gan Leoliad 2 a 3 elfennau wedi'u hasesu ar lefel 6 sy'n cyfrannu at y dosbarthiad gradd terfynol. Mae gan Leoliad 2 20 credyd academaidd ac mae lleoliad 3 yn cynnwys 40 credyd academaidd.
Mae pob modiwl yn un craidd heb unrhyw opsiynau
Blwyddyn Un (Lefel 4):
- Biocemeg Rhagarweiniol (20 Credyd)
- Anatomeg a Ffisioleg Ddynol (20 credyd)
- Astudiaethau Bwyd (10 Credyd)
- Cyflwyniad i Faetheg Iechyd Cyhoeddus (20 Credyd)
- Maetheg (Maetholion Micro a Micro) (20 credyd)
- Sgiliau ac Astudiaethau Proffesiynol ar gyfer Deietegwyr (yn cynnwys ymweliadau ysbyty / arlwyo) (20 Credyd)
- Ymarfer Cydweithredol Cyfoes (10 Credyd
Blwyddyn Dau (Lefel 5):
- Maetheg ar gyfer y Boblogaeth a Chylch Bywyd (20 Credyd)
- Seicoleg Iechyd (10 Credyd)
- Cymdeithaseg Iechyd (10 Credyd)
- Cyfathrebu ar gyfer Deietegwyr (20 Credyd)
- Egwyddorion Deieteteg (20 Credyd)
- Deieteteg Arbenigol (20 Credyd)
- Biocemeg a Ffisioleg Maethegol 1 (10 Credyd)
- Sgiliau Ymchwil i Ddietegwyr (10 Credyd)
Blynyddoedd Tri (Lefel 6):
- Materion Cyfoes mewn Deieteteg ac Iechyd y Cyhoedd (30 Credyd)
- Prosiect Traethawd Hir (30 Credyd)
Mae'r BSc (Anrh) Deieteteg a Maetheg Ddynol yn cynnwys ystod o ddulliau addysgu trwy gydol y rhaglen. Rydym yn dechrau adeiladu sgiliau mewn dieteteg o'r flwyddyn gyntaf gyda phwyslais ar asesu maethol a sgiliau myfyriol.
Bydd ymweliadau â lleoliad proffesiynol y GIG yn ystod y flwyddyn hon yn helpu dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth broffesiynol o'r rôl. Yn yr ail flwyddyn rydym yn defnyddio astudiaethau achos ac ymarferion cegin i ddysgu therapi dieteteg.
IYn ogystal, rydym yn efelychu ymgynghoriadau a sesiynau addysgu grŵp er mwyn meithrin sgiliau cyfathrebu. Yn ystod y flwyddyn gyntaf mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn dysgu rhyngbroffesiynol. Maent hefyd yn cynnal ymchwil fanwl i bwnc a ddewiswyd
i gwblhau eu traethawd hir, y maent yn ei rannu mewn cyflwyniad poster ar ddiwedd y cwrs.
Dylai fod gan ymgeiswyr bum gradd TGAU gan gynnwys Iaith Saesneg, Mathemateg* a Gwyddoniaeth gradd C neu'n uwch / gradd 4 neu'n uwch (ar gyfer ymgeiswyr sydd â TGAU newydd eu diwygio yn Lloegr) ynghyd â 112 pwyntiau o 3 Safon Uwch o leiaf (neu gyfwerth). Gall cynigion nodweddiadol gynnwys:
- 120 pwynt o 3 Safon Uwch o leiaf i gynnwys gradd B mewn Bioleg a Chemeg
- Diploma Estynedig Cenedlaethol RQF BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth (yn ymwneud â Bioleg a Chemeg) DDD
- 120 pwynt o 3 ‘Advanced Highers’ yr Alban o leiaf i gynnwys gradd C mewn Bioleg a Chemeg
- 120 pwynt o'r ‘‘Irish Leaving Certifiicate’ Lefel Uwch i gynnwys Bioleg a Chemeg ar radd H2
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: i gynnwys 15 Rhagoriaeth mewn credydau Bioleg a Chemeg, a Theilyngdod yn y credydau lefel 3 sy'n weddill
Sylwch ei bod yn ofyniad proffesiynol bod gan bob ymgeisydd radd TGAU gradd C neu gyfwerth mewn Iaith Saesneg a Mathemateg*. Rhaid i ymgeiswyr sy'n siarad Saesneg fel ail iaith feddu ar Saesneg yn ddigonol, gyda sgôr IELTS o 7, gydag o leiaf 6.5 ym mhob elfen.
*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru sy'n sefyll y TGAU Mathemateg diwygiedig, byddwn yn derbyn naill ai TGAU Mathemateg neu Mathemateg - Rhifedd.
derbyn naill ai TGAU Mathemateg neu Mathemateg - Rhifedd. Os ydych chi'n astudio cyfuniadau o'r uchod neu os nad yw'ch cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu edrychwch ar dudalen Chwilio am Gwrs UCAS
am y gofynion mynediad. Mae rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad, gan gynnwys cymwysterau o'r UE ar gael trwy glicio yma
O ran y datganiad personol rydym yn chwilio am dystiolaeth o brofiad gwaith a gwybodaeth am waith dietegydd, ynghyd â thystiolaeth o sgiliau cyfathrebu.
Yn anffodus, oherwydd niferoedd cyfyngedig, ni ellir gwarantu lle i ymgeiswyr sy'n dewis y brifysgol fel dewis Yswiriant.
Os na fyddwch yn cwrdd â'r gofynion mynediad uchod, mae'r 'Rhaglen Sylfaen sy'n arwain at BSc Gwyddorau Iechyd' ar gael fel blwyddyn amser llawn a bydd yn darparu cymhwyster perthnasol i chi a fydd yn caniatáu i chi symud ymlaen i'r radd hon ar ôl ei chwblhau'n llwyddiannus. Rhoddir ystyriaeth i unrhyw ymgeisydd a oedd wedi cyflawni o leiaf 70% yn gyffredinol i gynnwys lleiafswm o 65% yn y modiwlau Bioleg a Chemeg, lle mae cais gan UCAS wedi'i dderbyn.
Diwrnodau Profiad:
Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, nid oes rhaid i’r rhai sy'n gwneud cais i'r BSc (Anrh) Maeth a Dieteg Ddynol ar gyfer mynediad yn 2021/22 fynychu’r Diwrnod Profiad Dieteg.
Y Weithdrefn Ddethol a Chyfweliadau
Mae mynediad i'r rhaglen hon ar yr amod bod ymgeiswyr yn llwyddiannus mewn cyfweliad.
Mae'r dethol ar gyfer cyfweliad yn seiliedig ar y wybodaeth a gyflwynir ar ffurflen gais UCAS. Gwahoddir ymgeiswyr sy'n cwrdd â'r gofynion mynediad i ymgymryd â chyfweliad strwythuredig, sydd wedi'i gynllunio i asesu gwerthoedd un o weithwyr y GIG yn y dyfodol. Yn ogystal, cynhelir asesiad o sgiliau cyfathrebu ymgeiswyr a'u dealltwriaeth o'r proffesiwn.
Gwiriadau DBS a Iechyd Galwedigaethol
Rhaid i bob myfyriwr gynnal gwiriadau imiwneiddio ac iechyd priodol cyn mynediad ac mae angen datgeliad DBS Uwch wedi'i gwblhau. Rydym hefyd yn argymell bod ymgeiswyr yn cofrestru gyda'r Gwasanaeth Diweddaru, felly mae'r datgeliad DBS yn parhau i fod yn gyfredol trwy gydol yr astudiaethau a gall gwmpasu lleoliadau gwaith, os yn berthnasol. Mae mwy o fanylion am weithdrefnau cofnodion troseddol ar gael yn www.cardiffmet.ac.uk/dbs. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am wiriadau iechyd galwedigaethol trwy ymweld â www.cardiffmet.ac.uk/ohq.
Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Gan nad yw'n bosibl darparu lleoliadau i fyfyrwyr o'r tu allan i'r UE, nid yw'n bosibl ystyried myfyrwyr rhyngwladol ar gyfer y rhaglen hon.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn ar-lein i UCAS: www.ucas.com. .Am wybodaeth pellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais:
www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.
Dysgu Blaenorol Cydnabyddedig (RPL) a Throsglwyddo Credyd
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn trosglwyddo credyd o sefydliad arall gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais ar dudalen RPL. Cysylltwch â Derbyniadau gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am RPL.
Myfyrwyr aeddfed
Ymgeisydd aeddfed yw unrhyw un dros 21 oed nad aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr aeddfed a gellir cael mwy o gyngor a gwybodaethyma.