Cardiff School of Sport and Health Sciences>Cyrsiau>Iechyd Digidol - BSc (Anrh) / Gradd MSci

Iechyd Digidol - BSc (Anrh) / Gradd MSci

 

Ffeithiau allweddol

Cod UCAS: Mae dau lwybr cais a phwynt ymadael wrth wneud cais am y cwrs hwn - llwybr BSc ac MSci. I'r rhai sy'n dymuno gwneud cais am y BSc tair blynedd, gwnewch gais gan ddefnyddio Cod B854 UCAS. I'r rhai sy'n dymuno gwneud cais am y radd Meistr integredig 4 blynedd, gwnewch gais gan ddefnyddio cod BAS4 UCAS.   

Lleoliad Astudio: 
Campws Llandaff

Ysgol:
Cyflwynir gan Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd ac Ysgol Dchnolegau Caerdydd, gyda mewnbwn gan Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd.

Hyd y Cwrs:
Pedair blynedd yn llawn amser.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd gyffrous hon mewn Iechyd Digidol yn paratoi myfyrwyr i fod yn rhan o'r sector Iechyd Digidol sy'n ehangu. Mae'n cynnwys dysgu am dechnoleg - gan gynnwys caledwedd, cronfeydd data, rheoli gwybodaeth a phensaernïaeth systemau - yn benodol o safbwynt gofal iechyd. Er enghraifft, yn ogystal â dysgu am sut y gellir defnyddio technoleg i wella iechyd, byddwch yn dysgu am yr hyn sy'n achosi afiechyd, a sut mae iechyd a chlefyd yn cael eu diffinio a'u mesur. 

Bydd hyn yn hyrwyddo creadigrwydd wrth ystyried y newidynnau y gellir eu mesur at ddibenion helpu i ddeall a gwella iechyd a llesiant, i ddylanwadu ar ymddygiadau iechyd, triniaethau a chanlyniadau. Nodwedd unigryw o'r radd Iechyd Digidol yw cynnwys modiwlau ar ddylunio defnyddiwr-ganolog, a fydd yn sicrhau eich bod yn gallu dylunio rhyngwynebau greddfol ac apelgar y gall pobl ymgysylltu â nhw'n hawdd ac y byddant am eu defnyddio. 

Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys ymgysylltu diwydiannol a lleoliadau, gyda phwyslais ar fynd i'r afael â materion bywyd go iawn, i feithrin datblygiad datryswyr problemau gweithredol, sy'n gallu datblygu atebion technegol i heriau clinigol ac iechyd. Bydd hyn yn rhoi'r sgiliau, y wybodaeth a'r profiad i raddedigion helpu i gyflawni'r hyn y mae iechyd digidol yn ei addo. 

Mae'r rhaglen hon yn ddibynnol ar ddilysiad ar gyfer mynediad Medi 2020 a gall y wybodaeth a ddarperir newid. Rhaid dilysu pob rhaglen newydd yn y Brifysgol, er mwyn sicrhau bod y rhaglen arfaethedig yn cyd-fynd â Chenhadaeth y Brifysgol a'i chynnwys yn adlewyrchu lefelau priodol o safonau ac ansawdd academaidd.

Y Sector Iechyd Digidol

Mae chwyldro’n digwydd yn y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu, a'r ffordd y gallwn gymryd cyfrifoldeb am ein hiechyd ein hunain. Mae Iechyd Digidol yn ddiwydiant sy'n eistedd yn uniongyrchol rhwng y sectorau iechyd a gofal, a thechnoleg gwybodaeth a symudol. Amcangyfrifwyd mai gwerth byd-eang y diwydiant hwn oedd £23 biliwn yn 2018, ac mae hyn yn tyfu'n sylweddol flwyddyn ar ôl blwyddyn. 

Mae llawer o weithwyr iechyd proffesiynol, a nifer cynyddol o'r boblogaeth, eisoes yn defnyddio apiau ar eu ffonau symudol neu eu ‘smartwatches’ i fonitro eu hiechyd ac i dracio iechyd a pherfformiad. Gall hyn fod trwy apiau er enghraifft ar ffonau symudol, trwy apiau arbenigol er enghraifft ar gyfer rhedwyr neu feicwyr, neu trwy synwyryddion mewn esgidiau pêl-droed neu esgidiau rhedeg. 

Mae Iechyd Digidol yn canolbwyntio ar y wyddoniaeth y tu ôl i'r technolegau hyn ac yn ystyried sut y gallant wneud mwy, sut y gellir eu defnyddio mewn ystod eang o leoliadau, a sut y gellir eu cynllunio orau i ennyn diddordeb defnyddwyr. Mae'n cwmpasu datblygu caledwedd, y systemau cefndir a chronfeydd data, a'r rhyngwynebau sy'n sicrhau y gall defnyddwyr ymgysylltu'n reddfol â, deall a defnyddio data.  

Mae'n cynnwys is-ddisgyblaethau fel gofal iechyd Tele, Dadansoddeg Iechyd, a Systemau Iechyd Digidol, a gyda'i gilydd mae'r rhain yn cyflwyno llawer o gyfleoedd i wella gofal. Gall hyn fod mewn sefyllfaoedd clinigol ac ysbytai ('pwynt gofal'), a hefyd trwy ystod eang o dechnolegau y gall y cyhoedd eu defnyddio i ddeall a gwella eu hiechyd eu hunain.

Cynnwys y Cwrs

Cyflwynir y radd Iechyd Digidol dros 4 blynedd fel Meistr integredig (MSci) gyda phwynt ymadael ar ddiwedd 3 blynedd o BSc (Anrh). Ar ôl dwy flynedd o astudio, ac yn amodol ar gyflawni'r lefel ofynnol o gyrhaeddiad academaidd, gall myfyrwyr ddewis symud ymlaen i'r Meistr Integredig, neu gwblhau 3edd flwyddyn i adael gyda'r BSc (Anrh). 

Mae Blwyddyn 1 yn cyflwyno egwyddorion allweddol sy'n gysylltiedig â dwy ddisgyblaeth iechyd a thechnoleg ddigidol. Bydd modiwlau sy'n canolbwyntio ar dechnoleg yn darparu sylfaen ar gyfer deall sut i ddatblygu datrysiadau digidol ar gyfer gwella iechyd, gyda modiwlau sy'n ymdrin â Phensaernïaeth a Systemau Gweithredu, Meddwl Cyfrifiadol, ac Egwyddorion Rhaglennu. 

Bydd modiwlau sy'n canolbwyntio ar iechyd yn datblygu dealltwriaeth o iechyd a chlefydau, gan ganolbwyntio ar ddeall diffiniadau a phenderfynyddion y ddau, anatomeg ddynol a ffisioleg, a biofarcwyr iechyd a chlefydau. Bydd hyn yn cynnwys technoleg a dosbarthiadau biofeddygol mewn labordy. 

Mae Blwyddyn 2 yn datblygu'r ddwy ddisgyblaeth, gan symud tuag at integreiddio'r ddwy ddisgyblaeth graidd yn well. Mae ffocws ar ddatrys problemau yn weithredol, gyda modiwlau iechyd yn canolbwyntio ar asesu a gwella iechyd y boblogaeth, ffisioleg ymarfer corff clinigol a lles ffisiolegol a sgiliau labordy a dadansoddi data. 

Bydd sgiliau technolegol yn cael eu datblygu mewn perthynas â saernïo meddalwedd, technolegau symudol a gwe a chyfrifiadura corfforol. Mae modiwl ar Ddylunio sy'n Canolbwyntio ar y Person wedi'i gynnwys, ac mae ffocws cymhwysol ar ddatrys problemau senario sy'n gysylltiedig ag iechyd. 

Mae Blwyddyn 3 yn parhau â'r thema integreiddio a chymhwyso'r ddwy ddisgyblaeth. Bydd Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Person yn cael ei ddatblygu ymhellach, a bydd ffocws ar ymyriadau ar gyfer iechyd a datblygu cynaliadwy, technoleg iechyd digidol cymhwysol, proffesiynoldeb a moeseg ym maes iechyd digidol (20).  Ymgymerir â  phrosiect sy'n cael ei lywio gan friffiau a dderbynnir gan bartneriaid yn y diwydiant. 

Bydd myfyrwyr sy'n ymgymryd â'r MSci yn astudio 50% o gredydau ar lefel Meistr i baratoi ar gyfer pedwaredd flwyddyn ar y lefel honno. 

Mae Blwyddyn 4  yn datblygu cymhwysiad iechyd digidol ymhellach i broblemau'r byd go iawn ac yn ymestyn graddfa'r heriau hyn i lefel y boblogaeth. Bydd technoleg synhwyrydd yn cael ei chyflwyno, a bydd fframweithiau ar gyfer iechyd y cyhoedd yn cael eu defnyddio trwy leoliad a phrosiect sy'n dwyn ynghyd sawl thema o'r rhaglen i ddatblygu cynnyrch iechyd digidol wedi eu hanelu at broblemau diffiniedig mewn poblogaethau penodol. 
Pwysleisir arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn arwain datblygiad graddedigion creadigol, beirniadol adeiladol, ac ymarferol alluog.

Dysgu ac Addysgu

Defnyddir ystod o ddulliau dysgu ac addysgu ar y cwrs, gan gynnwys darlithoedd, sesiynau tiwtorial, gweithdai, seminarau a gwaith grŵp. Mabwysiadir dull datrys problemau, gyda gwaith grŵp yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau datrys problemau mewn perthynas â senarios bywyd go iawn. Cynhelir sesiynau ymarferol mewn labordy yn yr Ysgol Dechnolegau - sy'n ymwneud â datblygu sgiliau wrth ddatblygu meddalwedd a chaledwedd - a'r Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd - sy'n ymwneud â deall ac ennill profiad o fesur gwahanol farcwyr iechyd, afiechyd a pherfformiad swyddogaethol. Mae'r gweithgareddau hyn yn cael eu llywio gan friffiau a ddarperir gan randdeiliaid gan gynnwys y GIG, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Rhwydwaith Gwyddorau Bywyd MediWales. 

Cyflwynir y rhaglen gan staff o'r Ysgol Dechnolegau a’r Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd, gyda chynnwys arbenigol hefyd yn cael ei ddarparu gan yr Ysgol Celf a Dylunio mewn perthynas â Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Person. Mae gan y staff technolegau arbenigedd mewn datblygu caledwedd a meddalwedd, tra bod gan staff y Gwyddorau Iechyd arbenigedd mewn diffinio a mesur iechyd, afiechyd a pherfformiad swyddogaethol, ac mewn perthynas â darparu ac asesu ystod o ymyriadau o lefel poblogaeth i lefel unigol. Mae grwpiau ymchwil ffyniannus ym mhob maes, sy'n gwella'r amgylchedd y cyflwynir y rhaglen ynddo. 

Defnyddir Moodle, Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol, i wella darpariaeth ac ymgysylltiad.  

Cefnogir pob myfyriwr gan diwtor personol, sy'n darparu arweiniad academaidd a bugeiliol trwy'r cyfnod astudio.

Asesu

Am y rheswm hwn, mae asesiad wedi'i gynllunio i fesur i ba raddau y gall y myfyriwr fodloni deilliannau dysgu arfaethedig pob modiwl. Asesir y canlyniadau dysgu hyn o fewn modiwlau'r rhaglen gan ddefnyddio ystod o ddulliau gan gynnwys: 

  • Arholiadau; 
  • Traethodau, gan gynnwys llenyddiaeth ac adolygiadau beirniadol;  
  • Gwaith labordy ymarferol, gan gynnwys eu hymddygiad a'u riportio;  
  • Astudiaethau achos;  
  • Prosiectau grŵp;  
  • Cyflwyniadau poster a llafar;  
  • Datblygu apiau neu ymyriadau iechyd digidol / symudol eraill, yn enwedig mewn perthynas â phrosiect ymchwil y flwyddyn olaf. 

Darperir yr amserlen asesu ar ddechrau'r rhaglen. Darperir briffiau asesu gan arweinwyr modiwlau. Rhoddir adborth ar bob asesiad. Bydd hyn bob amser yn cynnwys cydran ysgrifenedig o adborth ac yn dibynnu ar fformat yr asesiad gall hefyd gynnwys sylwebaeth amser real, er enghraifft mewn perthynas â chyflwyniadau a gwaith grŵp. Mae tiwtoriaid personol yn darparu adborth ar berfformiad cyffredinol sy'n tynnu ar berfformiad ar draws pob asesiad.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae'r radd Meistr integredig hon mewn Iechyd Digidol yn paratoi graddedigion ar gyfer ystod o yrfaoedd ym maes iechyd a gofal ar draws amrywiol leoliadau lle ceisir gwella iechyd wedi'i wella gan dechnoleg, a rheoli prosiectau mewn meysydd o'r fath. Mae hyn yn cynnwys y GIG a sefydliadau Iechyd y Cyhoedd, sefydliadau sector preifat sy'n datblygu technolegau digidol i'w defnyddio wrth hybu iechyd, a sefydliadau'r 3ydd sector sy'n cynnwys elusennau, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol. Bydd y rhaglen hefyd yn arwain at gyfleoedd i astudio ymhellach, o ran ymchwil (PhD) a rheolaeth ac arweinyddiaeth (e.e. MBA).

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Dylai fod gan ymgeiswyr bum gradd TGAU gan gynnwys Iaith Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth* gradd C neu'n uwch (gradd 4 neu'n uwch ar gyfer ymgeiswyr sydd â TGAU newydd eu diwygio yn Lloegr) ynghyd â 112 pwynt o 2 Safon Uwch o leiaf (neu gyfwerth). 

Gall cynigion nodweddiadol gynnwys: 

  • 112 pwynt o o 3 Safon Uwch o leiaf i gynnwys graddau BB, un i fod mewn pwnc Gwyddoniaeth/Technoleg; mae Bagloriaeth Cymru - Tystysgrif Her Sgiliau Uwch yn cael ei ystyried yn drydydd pwnc 

  • Diploma Estynedig Cenedlaethol RQF BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt DMM (Gwyddoniaeth Gymhwysol) 

  • 112 pwynt o'r ‘Irish Leaving Certifiicate’ Lefel Uwch gyda graddau 2 x H2, un i fod mewn pwnc sy'n gysylltiedig â Gwyddoniaeth/Technoleg Bwyd. Dim ond gydag isafswm gradd H4 y caiff pynciau Lefel Uwch eu hystyried 

  • 112 pwynt o o leiaf 2 ‘Advanced Higher’ yr Alban i gynnwys graddau CC, un i fod mewn pwnc Gwyddoniaeth/Technoleg 

  • 112 pwynt o'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn pwnc perthnasol      

*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru sy'n eistedd y TGAU Mathemateg diwygiedig, byddwn yn derbyn naill ai TGAU  Mathemateg neu Fathemateg - Rhifedd.  

Os ydych chi'n astudio cyfuniadau o'r uchod neu os nad yw'ch cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu edrychwch ar dudalen Chwilio am Gwrs UCAS am y gofynion mynediad. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein gofynion mynediad, gan gynnwys cymwysterau o'r UE trwy glicio yma.  

Mae ymgeiswyr nad oes ganddynt gymhwyster mynediad arferol yn cael eu cyfweld a'u hystyried yn unigol ar sail eu cefndir dysgu blaenorol neu waith. Ar gyfer ymgeiswyr sydd yn ymgymryd â 2 Safon Uwch neu gyfwerth yn unig, bydd hyn yn cael ei ystyried ynghyd â gweddill y proffil academaidd ac efallai y byddwn yn gwneud cynnig wedi'i raddio yn lle cynnig yn defnyddio Tariff UCAS.  

Ymgeiswyr Rhyngwladol  
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r Tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.  

Y Broses Ddethol: 
Mae'r dewis fel arfer ar sail cais UCAS wedi'i gwblhau a chyfweliad lle bo hynny'n berthnasol.  

Sut i Wneud Cais: 
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn ar-lein i UCAS ar www.ucas.com. Am wybodaeth bellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais: www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply. 

Dysgu Blaenorol Cydnabyddedig (RPL) a Throsglwyddo Credyd i Flwyddyn 2 & 3 
Os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo credyd o sefydliad arall i astudio yn Met Caerdydd ar gyfer cwrs sy'n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a/neu 3, gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach am hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL. Cysylltwch â Derbyniadau am unrhyw ymholiadau sydd gennych ar RPL.  

Myfyrwyr Aeddfed 
Ymgeisydd aeddfed yw unrhyw un dros  21 oed nad aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr aeddfed a gellir dod o hyd i gyngor a gwybodaeth bellach yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyn ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau sy’n benodol i’r cwrs, cysylltwch â: 
E-bost: imathieson@cardiffmet.ac.uk



Gellir dod o hyd i’r telerau ac amodau llawn sy’n ymwneud â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd trwy ymweld â www.metcaerdydd.ac.uk/terms