Skip to main content

Addysg (Cymru) MA / MA Addysg (Cymru)

​​

Mae’r MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) hwn yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol sy’n arwain y sector ar gyfer gweithwyr proffesiynol yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch arweinwyr.

Mae’r opsiynau astudio canlynol ar gael:

- MA Addysg (Cymru)

- MA Addysg (Cymru) Anghenion Dysgu Ychwanegol

- MA Addysg (Cymru) Arweinyddiaeth

- MA Addysg (Cymru) Cwricwlwm

- MA Addysg (Cymru) Ecwiti mewn Addysg

Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi’i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gydweithio’n uniongyrchol ag amrywiaeth o ran ddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i wella ei wybodaeth broffesiynol, ymwneud ag ymchwil, a gwella eu hymarfer proffesiynol.

Mae’r cwrs yn gymwys am gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwystra.


Sgyrsiau Cwrs Ar-lein

Os ydych chi’n ystyried gwneud cais am y cwrs hwn, ymunwch â’r cyflwyniad i’r MA Addysg (Cymru):

  • Mai 15fed rhwng 4yp-5yh, ymunwch yma.
  • Mehefin 11eg rhwng 4yp-5yh, ymunwch yma.
  • Gorffennaf 10fed rhwng 4yp-5yh, ymunwch yma.

Anogir darpar fyfyrwyr i gysylltu â​ Dr Rhiannon Packer:

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Cynnwys y Cwrs

Mae'r cwrs yn 3 blynedd yn rhan-amser. Nid oes opsiwn amser llawn.

BLWYDDYN UN

Mae myfyrwyr sydd wedi cwblhau TAR â 60 credyd ar Lefel 7 yn debygol o gael eu heithrio o'r flwyddyn astudio gyntaf. Bydd y myfyrwyr hynny nad oes ganddynt y wobr hon yn astudio tri modiwl yn y flwyddyn gyntaf:

  • Addysgeg ac Ymarfer (20 credyd)
  • Cydweithio ac Ymarfer Proffesiynol (20 credyd)
  • Arfer sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth (20 credyd)


BLWYDDYN DAU

Ym mlwyddyn 2, bydd myfyrwyr MA Addysg (Cymru) yn cymryd modiwl Sgiliau Ymholiad Ymchwil craidd, ochr yn ochr ag unrhyw 2 fodiwl dewisol. Mae'r holl fodiwlau yn 20 credyd.

Modiwlau dewisol MA Addysg (Cymru):

  • Arweinyddiaeth a Rheoli ADY
  • Ymarfer Dosbarth Cynhwysol
  • Arwain a Rheoli Gweithwyr Proffesiynol Addysg
  • Arwain Newid Sefydliadol
  • Dylunio a Gwireddu Cwricwlwm
  • Archwilio Addysgeg
  • Lles Emosiynol a Meddwl
  • Ecwiti ac Amrywiaeth
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol, Rhagoriaeth mewn Ymarfer
  • Arwain o fewn ac ar draws Systemau Addysg
  • Arweinyddiaeth ac Arloesi’r Cwricwlwm
  • Ymateb i Effeithiau Tlodi ac Anfantais ym maes Addysg


Ym mlwyddyn dau, bydd myfyrwyr sy'n astudio'r llwybrau arbenigol (Anghenion Dysgu Ychwanegol / Arweinyddiaeth / Cwricwlwm / Ecwiti mewn Addysg) yn cymryd modiwl Sgiliau Ymchwilio Uwch craidd, ochr yn ochr ag unrhyw 2 fodiwl dewisol o ddewis o 3. Mae'r holl fodiwlau yn 20 credyd.

Modiwlau dewisol Llwybr Arbenigol:

Anghenion Dysgu Ychwanegol

  • Ymarfer Cynhwysol yn yr Ystafell Ddosbarth
  • Arwain a Rheoli ADY
  • ADY: Rhagoriaeth mewn Ymarfer


Arweinyddiaeth

  • Arwain a Rheoli Gweithwyr Addysg Proffesiynol
  • Arwain a Rheoli Gweithwyr Addysg Proffesiynol
  • Arwain o fewn ac ar draws Systemau Addysg


Cwricwlwm

  • Archwilio Addysgeg
  • Cynllunio a Gwireddu Cwricwlwm
  • Arweinyddiaeth ac Arloesi'r Cwricwlwm


Ecwiti mewn Addysg

  • Iechyd Emosiynol, Iechyd Meddwl a Lles
  • Tegwch ac Amrywiaeth
  • Arwain o fewn ac ar draws Systemau Addysg


BLWYDDYN TRI

Bydd y drydedd flwyddyn a'r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar y modiwl Traethawd Hir craidd (60 credyd).

Dysgu ac Addysgu

Dysgu

Bydd 200 awr o astudio fesul modiwl 20 credyd, a bydd 22 ohonynt yn oriau cyswllt. Bydd dysgu yn gyfuniad o ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd y gweithgareddau'n gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithgareddau grŵp a gweithgareddau unigol.

Bydd myfyrwyr yn ymuno â'u cyfoedion ar yr un cwrs yn y chwe phrifysgol arall ar gyfer rhai sesiynau cydamserol ar-lein i ddatblygu cymuned ddysgu genedlaethol.

Asesiad

Mae asesiadau i gyd yn aseiniadau gwaith cwrs a chânt eu cyflwyno ar ddiwedd pob modiwl. Bydd un asesiad i bob modiwl.


Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Wedi'i gynllunio ar gyfer athrawon cymwys ar bob cam gyrfa.


Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Gofynion Mynediad

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar Statws Athro Cymwysedig a bod yn gyflogedig yn y sector addysg orfodol yng Nghymru ar hyn o bryd. Gwiriwch yr adran Gwybodaeth Ffioedd a Chyllid.

Edrychwch ar ein tudalen Dogfennau Ategol Gorfodol i gael mwy o wybodaeth am ddogfennau gorfodol y bydd angen i chi eu darparu wrth wneud cais am y cwrs hwn. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Tystiolaeth o SAC
  • Geirda gan Bennaeth
  • Ffurflen Gais Ategol
  • Ffurflen Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol
  • Ffurflen Prawf o Breswyliad yng Nghymru


Sut i wneud cais

Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i'r brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais.

Oherwydd cymhlethdod y broses ymgeisio ac ariannu ar gyfer yr MA Addysg Genedlaethol (Cymru), byddwn yn ymdrechu i gyfathrebu a yw'ch cais wedi bod yn llwyddiannus cyn gynted â phosibl, ond ar hyn o bryd ni allwn ddarparu amserlen fanwl ar gyfer ymateb. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am statws eich cais ar unrhyw adeg, cysylltwch â ni ar directapplications@cardiffmet.ac.uk


Ffioedd a Gwybodaeth Ariannu

Ffioedd Dysgu

£6,500
Gellir ystyried ymgeiswyr ar gyfer lleoedd a ariennir ar yr amod bod y meini prawf cymhwyster yn cael eu bodloni.

Meini Prawf Cymhwyster ar gyfer Lleoedd a Ariennir

Rhaid i bob ymgeisydd fodloni gofynion mynediad academaidd y rhaglen. I fod yn gymwys ar gyfer cyllid Llywodraeth Cymru rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf ariannu.

Sylwch: Nid oes unrhyw gymwysterau Gradd Meistr mewn Addysg eraill a gynigir gan SAU yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn.


Dyddiadau Cau Ceisiadau Cyllido

Bydd y rhain yn cael eu dyrannu gan y Panel Dyfarnu Cyllid Cenedlaethol yn unol â'r dyddiadau isod:

12 Mai 2023

14 Gorffennaf 2023

15 Medi 2023

Oherwydd cymhlethdod y broses ymgeisio ac ariannu ar gyfer yr MA Addysg Genedlaethol (Cymru), byddwn yn ymdrechu i gyfathrebu a yw'ch cais wedi bod yn llwyddiannus cyn gynted â phosibl, ond ar hyn o bryd ni allwn ddarparu amserlen fanwl ar gyfer ymateb. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am statws eich cais ar unrhyw adeg, cysylltwch â ni ar directapplications@cardiffmet.ac.uk.

Lleoedd cyfyngedig sydd i’r cyllid ar gyfer y rhaglen hon fesul SAU a bydd yn cael ei ddyrannu gan y Panel Dyfarnu Cyllid. Gwneir dyraniadau cyllid ar sail blaenoriaeth, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl i gael y siawns fwyaf o fod yn llwyddiannus.

Cwestiynau Cyffredin Derbyniadau

Ar gyfer pwy mae'r rhaglen hon?

Mae'r MA Addysg Genedlaethol (Cymru) yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol, ac un sy'n arwain y sector, ar gyfer ymarferwyr addysgol proffesiynol yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch-arweinwyr. Mae'r dirwedd addysgol yng Nghymru yn newid yn gyflym. Yn ogystal â meistroli set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi a hwyluso dysgu myfyrwyr, mae addysgu'n galw am y gallu i ymchwilio i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA Addysg Genedlaethol (Cymru), a ddatblygwyd ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy ymgysylltu'n uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn sicrhau y bydd gan yr holl ymarferwyr addysg proffesiynol yng Nghymru yr un cyfle o safon uchel i wella eu gwybodaeth broffesiynol, ymgymryd ag ymchwil a gwella eu hymarfer proffesiynol.

Ydy'r cwrs yn gofyn am ddosbarthiad gradd penodol ar lefel israddedig?
Nid yw'r cwrs yn gofyn am ddosbarthiad gradd penodol ar lefel israddedig. Mae'r gofynion mynediad fel y nodir uchod.

Beth yw’r dyddiadau cau ymgeisio?
Caiff ceisiadau eu hadolygu drwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, byddem yn argymell yn gryf eich bod chi’n ymgeisio dim hwyrach na phythefnos cyn dechrau’r cwrs, sydd tua’r 1af Medi bob blwyddyn. Mae hyn fel bod gennym amser i brosesu eich cais a’i anfon i’r panel. Mae’r dyddiadau cau ymgeisio am gyllid i’w cadarnhau.

Beth yw Cydnabyddiaeth am Ddysgu Blaenorol?
Cydnabyddiaeth am Ddysgu Blaenorol yw'r broses o gydnabod dysgu a gyflawnwyd gan unigolyn cyn cael ei dderbyn i'r MA. At ddiben y rhaglen hon, mae'r term yn cwmpasu’r canlynol: a) Trosglwyddo Credydau - lle mae'r credydau neu'r cymhwyster wedi cael eu dyfarnu gan sefydliad addysg uwch yn y DU fel rhan o gymhwyster ffurfiol; b) Cydnabod Dysgu Blaenorol trwy Brofiad – lle mae dysgu a gyflawnir drwy brofiad yn cael ei asesu a'i gydnabod. Mae rhagor o wybodaeth am y broses i’w gweld yma.

Pa ddogfennau bydd angen i mi eu hanfon atoch?
Gwiriwch ein tudalen Dogfennau Ategol Gorfodol.

Oes angen TGAU Iaith Gymraeg arnaf?
Nid oes angen TGAU Iaith Gymraeg arnoch i gyflwyno cais am y cwrs hwn.

Sut gallaf gofrestru am Ddiwrnod Agored Rhithwir?
Gwiriwch ein gwefan am ddigwyddiadau recriwtio cyfredol. Bydd Cyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Rhiannon Packer, yn cynnig sesiynau rhithiol, os hoffech gofrestru eich diddordeb, anfonwch e-bost at Rhiannon Packer ar RAJPacker@cardiffmet.ac.uk.

Fydd angen i mi ddarparu datgeliad troseddol manylach penodol i'r rhaglen drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)?
Fel athro proffesiynol, byddwch eisoes wedi cael gwiriadau drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) felly ni fydd angen i chi gwblhau'r broses hon eto.

Athro yn Lloegr/yr Alban/Gogledd Iwerddon ydw i - allaf gyflwyno cais i'r rhaglen?
Na, dim ond ceisiadau gan athrawon yng Nghymru sy’n bodloni’r gofynion mynediad rydyn ni’n eu croesawu.

Athro ydw i sy'n gweithio yn yr UE/gwlad dramor y tu allan i'r UE - allaf gyflwyno cais am y rhaglen?
Yn anffodus, nid yw'r rhaglen hon ar gael i athrawon yn yr UE/mewn gwledydd tramor y tu allan i’r DU.

Rwyf wedi cwblhau’r GTP, a ydw i’n gymwys i ddilyn y cwrs gradd MA Addysg (Cymru) Genedlaethol?
Ydych, mae athrawon sydd wedi cymhwyso trwy ddilyn y llwybr GTP yn gymwys i gyflwyno cais ar gyfer y cwrs gradd MA Addysg (Cymru) Genedlaethol. Bydd angen i chi fapio eich dysgu a/neu eich profiad yn erbyn y Deilliannau Dysgu yn adran Cydnabod Dysgu Blaenorol y ffurflen atodol sydd. Mae canllawiau ar sut i lenwi hon ar gael yn y polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol.


Cwestiynau Cyffredin Cyllid

Ydw i'n gymwys am gyllid?
Gweler y meini prawf ariannu uchod yn yr Adran Gwybodaeth Ffioedd a Chyllid ar dudalen y cwrs hwn.

Mae meini prawf cymhwysedd y cyllid yn datgan bod yn rhaid imi fod ym mlwyddyn 3 i 6 o ymarfer ar ddechrau'r cwrs. Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae’r meini prawf ariannu’n nodi bod yn rhaid i chi fod yn eich 3edd flwyddyn o ymarfer dysgu o leiaf pan fo’r cwrs yn barod i ddechrau. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi fod yn eich 3edd flwyddyn o addysgu yn dilyn cwblhau eich ymsefydlu ANG yn llwyddiannus pan fo’r cwrs yn barod i ddechrau (nid pan fyddwch yn ymgeisio).

Oes rhaid imi fod yn gofrestredig gyda Chyngor y Gweithlu Addysg?
Oes, er mwyn bod yn gymwys am gyllid mae'n rhaid ichi fod yn gofrestredig gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn y categori athro ysgol. Mae'n rhaid cynnal hyn am hyd y cwrs.

Ar ôl cwblhau fy nghyfnod sefydlu fel ANG, treuliais gyfnod yn gweithio dramor / cymerais saib yn fy ngyrfa. Ydy hyn yn cyfrif?
Ni chaiff amser a dreuliwyd yn gweithio fel athro y tu allan i'r DU, neu amser a gymerwyd fel saib yn eich gyrfa, ei gyfrif fel blynyddoedd yn ymarfer.

Oes angen imi feddu ar gontract athro am isafswm cyfnod, e.e. tymor neu flwyddyn academaidd? Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghontract yn dod i ben yn ystod y rhaglen?
Cadarnheir cymhwysedd ar ddechrau’r rhaglen. Ar yr adeg honno, bydd yn rhaid i chi feddu ar gontract ar gyfer o leiaf un tymor.

Mae gen i gyflogaeth fel athro mewn nifer o ysgolion ac mae cyfanswm fy nghontractau yn werth mwy na 0.4 CALl. Ydw i'n gymwys am gyllid?
Ydych, ar yr amod bod cyfanswm eich contractau yn 0.4CALl neu’n uwch, byddwch chi’n gymwys i gyflwyno cais am gyllid.

Rwy'n athro rhan-amser a/neu’n athro cyflenwi. Ga i gyflwyno cais am gyllid?
Gallwch, ar yr amod bod cyfanswm eich contractau yn 0.4CALl neu’n uwch, byddwch chi’n gymwys i gyflwyno cais am gyllid.

Oes rhaid imi ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl imi gwblhau'r MA mewn Addysg?
Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, rhaid eich bod wedi bod yn preswylio yng Nghymru am 2 blynedd cyn dechrau'r cwrs ac mae’n rhaid ichi aros yng Nghymru am hyd y rhaglen.

A oes gofyniad preswylio cyn i'r cwrs ddechrau?
Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, rhaid i chi fod yn byw yng Nghymru am 3 blynedd cyn dechrau'r cwrs ac yn parhau felly drwy gydol y rhaglen.

Hoffwn i hunan ariannu; faint yw'r ffioedd?
Nid oes lleoedd hunanariannu ar gael ar gyfer y cwrs hwn.

Rydw i wedi astudio ar lefel Meistr o'r blaen. Ydw i'n gymwys am gyllid ar gyfer y rhaglen hon?
Os ydych chi wedi astudio pwnc penodol ar raglen Meistr o'r blaen, rydych yn dal i fod yn gymwys i gyflwyno cais am gyllid (ar yr amod eich bod yn bodloni'r holl feini prawf eraill). Sylwer na fyddwch yn gymwys i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer yr MA Cenedlaethol os ydych wedi astudio MEd a ariannwyd o'r blaen.

Roedd fy nghais am gyllid yn aflwyddiannus. Sut ga i apelio yn erbyn y penderfyniad?
Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn fodlon ar benderfyniad Panel Dyfarnu Cyllid yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) gysylltu â Chadeirydd y Panel yn y lle cyntaf

Pwy sy'n penderfynu ar ddyrannu cyllid?
Wrth dderbyn eich cais, bydd y Tîm Derbyn Myfyrwyr yn y sefydliad o'ch dewis yn sicrhau eich bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Yna bydd Panel Dyfarnu Cyllid yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) yn asesu pob cais cymwys er mwyn pennu'r canlyniad a dyfarnu cyllid i'r rhai sy'n llwyddiannus. Mae'r Panel yn cynnwys cynrychiolwyr o bob prifysgol sy'n bartner, ac mae'n atebol i'r Bwrdd Rheoli Cenedlaethol (sydd ag aelodau o Lywodraeth Cymru), er mwyn sicrhau atebolrwydd a goruchwyliaeth eglur.

Faint o leoedd a ariennir sydd ar gael?
Mae 500 o leoedd a ariennir ar draws partneriaeth yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru).

Ydw i'n gymwys am fenthyciad myfyriwr?

Dim ond os ydych chi’n gwneud cais am fynediad i’r flwyddyn gyntaf o astudio. Os ydych yn gwneud cais am fynediad i’r ail flwyddyn o astudio, mae Cydnabod Dysgu Blaenorol yn orfodol ar gyfer y cwrs hwn, felly ni fyddwch yn bodloni meini prawf y benthyciad i fyfyrwyr o ddilyn o leiaf 180 credyd ac felly ni fyddwch yn gymwys am y benthyciad i fyfyrwyr.


Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyn ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch directapplications@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â: Dr Rhiannon Packer
Ebost: RAJPacker@cardiffmet.ac.uk

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Lleoliad Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y cwrs:
Tair blynedd yn rhan- amser

TROSOLWG O'R CWRS | UCHAFBWYNTIAU GRADD
Uchafbwyntiau Gradd

Dysgwch fwy am yr MA Addysg Cenedlaethol (Cymru) yn y fideo byr hwn.