Skip to main content
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd>Cyrsiau>Dylunio a Thechnoleg Pensaernïol – Gradd BSc (Anrh)

Dylunio a Thechnoleg Pensaernïol – Gradd BSc (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Mae Technolegydd Pensaernïol yn arbenigwr yng ngwaith dylunio ac adeiladu adeiladau a bydd yn ymwneud yn bennaf â pherfformiad technegol sicr adeiladau.

Ar gwrs gradd Dylunio a Thechnoleg Pensaernïol ym Met Caerdydd, byddwch yn datblygu dealltwriaeth dechnegol ddwys o’r ffordd y bydd adeiladau’n gweithio a’r technegau a’r deunyddiau y bydd eu hangen arnoch i’w hadeiladu. Gan weithio’n bennaf mewn amgylchedd stiwdio, byddwch yn dysgu sut i ddylunio a manylu ar lawer math gwahanol o adeiladau a chyfleu eich dyluniad yn effeithiol drwy ddefnyddio’r feddalwedd ddiweddaraf o safon diwydiant.

Wrth i chi symud ymlaen drwy eich astudiaethau, byddwch yn dod i ddeall sut bydd technoleg bensaernïol yn effeithio ar y byd o’n cwmpas, yn lleol ac yn fyd-eang, a sut y gall eich arferion a’ch dulliau gael effaith amgylcheddol bositif.

Ceir cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y byd go iawn, gan gynnwys gwaith gyda chymunedau a chyflogwyr lleol, yn ogystal â chyfleoedd i brofi diwylliannau eraill drwy deithiau astudio dramor.

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan CIAT (Sefydliad Siartredig Technolegwyr Pensaernïol) a fydd, gan mai dyma’r corff dyfarnu cymwysterau ar gyfer Technoleg Bensaernïol, yn galluogi graddedigion i weithio tuag at ddod yn aelod siartredig llawn (MCIAT).

Mae’r cwrs wedi’i achredu hefyd gan CABE (Cymdeithas Siartredig Peirianwyr Adeiladu, a fydd yn galluogi graddedigion i ddod yn aelod siartredig o’r sefydliad yma yn dilyn cyfnod cymhwyso priodol wedi graddio.

Cyflawnodd BSc (Anrh) Dylunio a Thechnoleg Pensaernïol boddhad cyffredinol o 100% yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf (NSS 2023)​.​


Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.


Cynnwys y Cwrs

Drwy ddarlithoedd, seminarau, ymarferion ac amser yn ein stiwdios dynodedig, byddwch yn dysgu i feddwl yn greadigol ac yn ddadansoddol. Byddwch yn astudio pynciau craidd gan gynnwys technoleg bensaernïol, deunyddiau adeiladu a gwyddoniaeth bensaernïol ac yn dod yn fedrus ym Modelu Gwybodaeth Adeiladu a Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur.

Byddwch yn datblygu sgiliau cyflwyno cryf hefyd ac yn ymdrin ag amrywiaeth o gymwyseddau allweddol ar hyd eich cwrs, gan gynnwys:

  • lluniadu pensaernïol a sgiliau cyflwyno
  • dylunio adeiladau, dehongli briffiau a boddhau anghenion cleientiaid
  • technoleg adeiladu – sut caiff adeiladau eu strwythuro a’u hadeiladu
  • deunyddiau a gorffeniadau adeiladu
  • y gyfraith a’r rheoliadau sy’n ymwneud â dylunio adeiladau
  • ysgrifennu manylebau
  • manylion pensaernïol
  • cadwraeth ac ailwampio adeiladau
  • gwyddoniaeth bensaernïol – gwresogi, oeri, awyru ac ati
  • arloesedd a chynaliadwyedd
  • ymarfer proffesiynol, gwaith ymarfer pensaernïol

Bydd paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol yn flaenoriaeth. Bydd strwythur y cwrs yn rhoi cyfle gwych i astudio ar gyfer gradd ryngosod bedair blynedd. Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn magu profiad dwys o’r diwydiant drwy fod ar leoliad gyda phractis pensaernïol. Bydd cyfleoedd hefyd i astudio dramor, i gydweithredu ar waith ymchwil ac i gael profiad yn y byd go iawn – a’r cyfan wedi’i gynllunio i’ch paratoi ar gyfer eich cam nesaf wedi graddio.

Mae’r cwrs wedi’i achredu gan CIAT (Sefydliad Siartredig Technolegwyr Pensaernïol) a CABE (Cymdeithas Siartredig Peirianwyr Adeiladu) a fydd yn galluogi graddedigion i ddod yn aelodau siartredig llawn yn y proffesiwn amrywiol a chyffrous hwn.


Blwyddyn Un

Pwnc: Technoleg Bensaernïol 1 – 40 credyd
Pwnc: Technoleg Bensaernïol 2 – 20 credyd

Bydd eich tymor cyntaf yn eich cyflwyno i fyd technoleg bensaernïol, gan roi mewnwelediad i rôl fythol-newid ymarferydd yn y maes hwn. Mewn cyfres o ddarlithoedd ac ymarferion, byddwch yn archwilio i waith dylunio, adeiladu a gwasanaethu adeiladau domestig codiad isel. A byddwch yn datblygu’ch sgiliau mewn dylunio drwy gymorth cyfrifiadur a gwneud modelau yn rhithiol ac yn ffisegol.

Maes Un: Cydweithredu – 20 credyd*
Byddwch yn ehangu eich gorwelion drwy ymuno â myfyrwyr o gyrsiau eraill i gael cydweithio ar brosiect. Byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ddisgyblaethau eraill i gael adeiladu ar eich profiad ac ehangu eich creadigrwydd – a defnyddio eich sgiliau a’ch mewnwelediad artistig i’w cymhwyso i’ch gwaith.


Cytser: Cysyniad – 40 credyd
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i fyd ehangach syniadau, theori ac astudiaethau cyd-destunol i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ymchwil academaidd a’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Byddwch yn canolbwyntio ar feysydd o ddiddordeb mewn grwpiau astudio a byddwch yn ymgyfarwyddo â’r ymchwil traws-ddisgyblaethol cyffrous a’r arbenigedd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.

Blwyddyn Dau

Pwnc: Archwilio Technoleg Bensaernïol – 40 credyd
Byddwch yn gwella eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarfer drwy ddarlithoedd ac ymarferion a fydd yn ymdrin â dylunio, adeiladu a gwasanaethu adeiladau ffrâm sydd â nifer ganolig o loriau. Byddwch yn parhau i ychwanegu at eich datblygiad proffesiynol ynghyd â’ch sgiliau cyflwyno a lluniadu technegol.

Maes Dau: Archwilio – 40 credyd*
Byddwch yn ehangu eich profiadau â phrosiectau heriol a fydd wedi’u dylunio i’ch annog i archwilio ac i arbrofi y tu allan i’ch disgyblaeth benodol. Bydd y cyfle gweddnewidiol hwn yn arwain at feddwl newydd ac at bethau newydd ac yn agor pob math o bosibiliadau yn y dyfodol. Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau cyffrous a fydd yn eich herio mewn ffyrdd newydd. Hefyd gallwch ddewis teithio, cymryd lleoliad gwaith, dechrau eich busnes chi eich hunan neu roi cynnig ar rywbeth newydd.

Cytser: Gwyddoniaeth Bensaernïol – 40 credyd
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar wyddoniaeth technoleg bensaernïol. Byddwch yn archwilio gwaith gwasanaethu adeiladau, rheolaeth amgylcheddol, tân, draeniad. A byddwch yn defnyddio ac yn dangos eich gwybodaeth drwy weithgareddau dysgu a phrosiectau stiwdio.


Blwyddyn Tri

Pwnc: Y Gweithiwr Technoleg Bensaernïol Proffesiynol – 40 credyd
Dyma’r cyfle i chi gael cynllunio’n weithredol a dechrau eich gyrfa – p’un ai y byddwch yn dod yn weithiwr proffesiynol neu’n symud ymlaen ymhellach yn eich astudiaethau. Byddwch yn magu mewnwelediad dwysach i rôl technolegydd pensaernïol proffesiynol ac yn parhau i weithio’n fwy annibynnol.

Maes Tri: Arddangos – 40 credyd
Bydd eich tymor olaf yn canolbwyntio ar brosiect mawr ac ar arddangosfa o’ch gwaith. Dyma’r lle y byddwch yn dod â phopeth y byddwch wedi’i ddysgu yn ystod y cwrs at ei gilydd a bydd yn fan cychwyn ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Cytser: Cyfraniad – 40 credyd
Bydd eich gwybodaeth yn sail i’ch ymarfer. Gallwch ddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad Cytser terfynol, lle y byddwch yn archwilio syniadau ar ffurfiau ysgrifenedig ac ymarferol.

*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Dewis cwrs rhyngosod
Bydd yn bosib strwythuro’r cwrs hefyd ar ffurf gradd ryngosod. Rhwng blynyddoedd 2 a 3, gallwch weithio am flwyddyn mewn practis pensaernïol neu bractis adeiladu tebyg a fydd yn canolbwyntio ar ddylunio. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu ymhellach y sgiliau a gafodd eu hennill ym mlynyddoedd 1 a 2 ac i fagu profiad gwerthfawr mewn amgylchedd byd go iawn. O ganlyniad bydd eich CV a’ch cyflogadwyedd yn gwella’n fawr.

Dysgu ac Addysgu

O’r dechrau, byddwch yn magu profiad ymarferol mewn sesiynau stiwdio a gweithdai ymarferol, gan ddatblygu eich sgiliau craidd. Bydd darlithoedd, y bydd aelodau o’r staff academaidd yn eu harwain, yn ehangu’r ddealltwriaeth ddamcaniaethol o’ch maes, a bydd seminarau llai, targedig wedi’u dylunio i roi arweiniad er mwyn boddhau mwy o alwadau deallusol ac ymarferol unigol.

Bydd gwaith grŵp yn rhoi’r cyfle i chi ffurfio perthnasoedd gwaith gyda’ch cydfyfyrwyr (cydweithredu a fydd yn ymestyn yn aml wedyn i brosiectau personol neu allgyrsiol). Mor gynnar â’ch ail dymor, drwy rannu briff gyda myfyrwyr ar draws disgyblaethau gwahanol o fewn yr Ysgol, byddwch yn gweithio gyda’ch persbectif chi eich hunan i gael rhoi lle i’ch sgiliau a’ch dehongliadau yng nghyd-destun ehangach cyfryngau eraill a meddwl yn greadigol.

Bydd eich tiwtor personol yn cynnig cymorth penodol, yn eich annog i ddatblygu barn feirniadol ar eich gwaith a’ch persbectif yn ogystal â’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer hunan-adfyfyrio a gweithio annibynnol.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf yn astudio, gall pob myfyriwr ddisgwyl derbyn rhwng 12 ac 19 awr o gyswllt bob wythnos drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a gweithdai ymarferol.

Bydd ysgogi eich hunan – o ymchwil a datblygiad annibynnol hyd at gynhyrchu – yn allweddol i’ch profiad academaidd. Caiff hwn ei fesur yn aml drwy arfer Cynllun Datblygu Personol a fydd wedi’i ddylunio i gael dechrau yn ganolbwynt ar gyfer eich nodau a’ch gwaith arbrofi ac a fydd yn y pen draw yn gweithredu yn bortffolio cynhwysfawr y gallwch ei ddefnyddio i adfyfyrio ar gorff o waith o ansawdd.

Bydd y cyfle i arddangos eich dyluniadau, mewn rhaglenni wedi’u cydlynu’n arbennig, yn rhoi profiad ymarferol o ran arddangos eich gwaith. Mewn modd cyffelyb, bydd pwyslais proffesiynol, yn enwedig yn ail hanner eich astudiaethau, yn adeiladu ar eich sgiliau galwedigaethol drwy eich cyflwyno i’r diwydiant drwy siaradwyr gwadd, lleoliadau ac aseiniadau magu profiad gydag asiantaethau a fydd wedi’u sefydlu eisoes. Yn aml bydd defnyddio system e-ddysgu’r brifysgol yn eich helpu i wella’ch astudiaethau.

Asesu

Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:

SGILIAU: Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.

CYD-DESTUN: Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’u lleoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.

SYNIADAU: Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn eich disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol. Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.

Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.

Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Er y bydd eich dysgu wedi’i ddylunio i’ch datblygu yn dechnolegydd pensaernïol cytbwys, bydd eich cwricwlwm wedi’i strwythuro yn yr un modd â’ch potensial mewn golwg.

Felly bydd y pwyslais a fydd wedi’i roi ar eich etheg gwaith, yn greadigol ac yn academaidd, wedi’i baru â ffocws sylweddol ar brofiad yn y byd go iawn: o adeiladu cysylltiadau ac ymgymryd â lleoliadau hyd at friffiau byw ac, os byddwch yn dewis, cymorth wrth i chi ffurfio eich busnes eich hunan.

Ar hyd eich amser yn yr Ysgol Gelf a Dylunio byddwch yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol o’r tu fewn i’ch diwydiant ac yn clywed oddi wrthyn nhw, ac yn hogi eich sgiliau a’ch syniadau ar gyfer mantais fasnachol a phroffesiynol. Bydd prosiectau traws-ddisgyblaethol yn eich paratoi ar gyfer gwaith tîm yn nes ymlaen a bydd briffiau byw yn eich paratoi ar gyfer dyddiadau cau a a galwadau manylebau tynn.

Bydd graddedigion oddi ar y rhaglen mewn lle sefyllfa dda i ymuno â phractis pensaernïol yn gweithio’n dechnolegwyr pensaernïol. Cewch eich annog i barhau â’ch datblygiad proffesiynol drwy ddod yn aelod siartredig o CIAT (Sefydliad Siartredig Technolegwyr Pensaernïol) a/neu CABE (Cymdeithas Siartredig Peirianwyr Adeiladu).

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

  • Pwyntiau tariff: 96-120
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DDM
  • Lefel T: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 24 pwynt. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Does dim angen pynciau penodol.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ffioedd Dysgu, Cyllid Myfyrwyr a Chostau Ychwanegol

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar ffioedd dysgu a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael pan fyddwch yn y Brifysgol, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/study/finance/Pages/default.aspx.

Costau astudio i israddedigion yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Deunyddiau

Bydd yr Ysgol Gelf a Dylunio yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau sylfaenol. Bydd y rhain yn galluogi’r myfyrwyr i ddatblygu eu cymhwysedd mewn ystod o sgiliau ac i ddangos eu gallu technegol. Y myfyrwyr fydd yn bwrw’r gost am ddeunyddiau y bydd angen meintiau anghyffredin ohonyn nhw neu’r rheiny a fydd yn rhai arbenigol, drud neu anghyffredin. Rhoddir cyngor ynglŷn â sut y caiff ‘anghyffredin’ ei ddiffinio, pa ddeunyddiau y tybir eu bod yn ‘ddrud’, a rhoddir enghreifftiau o’r pethau a gaiff eu hystyried yn ‘anghyffredin’. Yn aml bydd myfyrwyr yr Ysgol Gelf a Dylunio yn dewis gwario’u harian ar ddeunyddiau y bydd yn well ganddyn nhw weithio gyda nhw, gan gynnwys llyfrau braslunio ac ysgrifbinnau, yn ogystal ag offer arbenigol o’u dewis nhw eu hunain.

Fynychaf ni ofynnir am dâl am ddefnyddio cyfarpar ar wahân i rai peiriannau arbenigol o ben uchaf y farchnad megis argraffyddion Mimaki a 3D. Bydd mynediad i FabLab Caerdydd yn amodol ar aelodaeth myfyrwyr; bydd yn gostwng ffioedd i fyfyrwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am gostau ychwanegol cyrsiau, gan gynnwys ffioedd, gofynion cyfarpar a chostau eraill ar gyfer pob rhaglen israddedig, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/costaucwrsychwanegol.

Teithiau maes ac ymweliadau

Bydd yr Ysgol yn talu am deithiau maes a fydd yn rhan o’r dysgu craidd. Ambell waith trefnir ymweliadau a fydd yn opsiynol ac mae’n bosib y gofynnir i’r myfyrwyr rannu’r costau. Y myfyriwr unigol fydd yn gyfrifol am gostau astudio dramor, gan gynnwys cyfnewid, lleoliadau a phrosiectau.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu ebost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Thiwtor Derbyniadau BA (Anrh) Technoleg a Dylunio Pensaernïol, Nick Evans:

Ebost: nievans@cardiffmet.ac.uk
Ffon: 029 2020 5011



Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Achredwyd gan: CIAT (Sefydliad Siartredig Technolegwyr Pensaernïol)

Cod UCAS:
​W290 - gradd 3 blynedd

Man Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd amser llawn. Pedair blynedd amser llawn​ os yn ymgymryd â lleoliad rhyngosod blwyddyn o hyd.​​​

Ar gael yn rhan-amser hefyd a gall gymryd hyd at 6 blynedd.

CWRDD Â’R TÎM
Cwrdd â’r Tîm: Nick Evans

Mae'r uwch ddarlithydd Dylunio Pensaernïol a Thechnoleg Nick Evans yn trafod sut mae ein myfyrwyr yn elwa o'i brofiad diwydiant a'i ymchwil i adeiladu cynaliadwy.

ASTUDIO CELF DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
Cwrdd â’r Tîm: Huw Williams

Mae'r darlithydd cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Gelf a Dylunio, Huw Williams yn sôn am y manteision o astudio Celf a Dylunio yn ddwyieithog.