Ein Tiwtoriaid

​​

James Acott-Davies

James Acott-Davies

Dilynais gwrs Meistr mewn Celf Gain ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a graddio yn 2016. Yn ystod fy astudiaethau, canolbwyntiais ar sut i gyfleu gofod pensaernïol drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau megis lluniadu, sgrin-brintio, laser-dorri ac adeiladu. Mae cyfuno’r defnydd o beiriannau a gwaith llaw ansawdd cyffrous sy’n cael ei ymgorffori yn fy narnau. Fy swydd i yw creu gweithiau rhwng celf a phensaernïaeth, gan gynnig dull amgen o gyfleu gofod pensaernïol. Y prif ffocws i mi yw annog y gwyliwr i ryngweithio'n gorfforol â'r gweithiau. Ond yn fwy diweddar, rwyf wedi mwynhau'r broses o greu llyfrau ac archwilio’r grefft honno.

Rwy wrth fy modd yn cael bod yn aelod o staff Ysgol Gelf Agored Caerdydd ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at rannu ffyrdd cyffrous o archwilio prosesau a thechnegau.​

Nigel Bowles

Nigel Bowles

Symudodd Nigel i Gaerdydd yn 2000 i astudio Celf Gain, ac yno mae wedi aros a sefydlu ei hun fel gwneuthurwr printiau, gan ennill gwybodaeth trwy ystod o brosesau traddodiadol a datblygu dulliau o gyflwyno gweithdai technegol. Mae'n gweithio fel Arddangoswr Technegol ar gyfer CSAD, yn rhedeg cyrsiau Sgrin-brintio Caerdydd Agored ac hefyd yn gweithio fel Cynorthwyydd Reprograffeg ar gyfer Met Caerdydd.

Helpodd Nigel i sefydlu The Printhaus Workshops, gweithdy sgrin-brintio dielw, gan weithio gyda chymunedau lleol, rhedeg stiwdios mewnol ac erbyn hyn, mae’n un o'r Rheolwyr Gyfarwyddwyr.

Rory Buckland

Rory Buckland

Mae gen i radd BA Celf Gain ac rydw i wedi gweithio fel artist proffesiynol / creadigol ers dros 20 mlynedd; ledled y DU ac weithiau dramor. Rwy'n dysgu, arddangos, yn gwneud gwaith preswyl a chomisiynau, yn ogystal â gwaith masnachol dethol.

Rwy'n gweithio gyda chyfryngau’n seiliedig ar lens; lluniau llonydd fel arfer, ond weithiau delweddau symudol. Mae gen i ddiddordeb mewn creu ystyr y tu hwnt i’r estheteg, er bod gan yr olaf ei rôl yn fy ngwaith.

Mae fy allbwn mwy diweddar yn dibynnu ar awduraeth yn ogystal â meddiannu delweddaeth i greu darnau ffotogyfosodiad newydd, yn aml wedi'u cyfuno ag iaith, i gyflwyno trosiad neu symbolaeth; pob darn fel dirgelwch jig-so, y mae'n rhaid deall ei rannau i ddeall eu perthnasedd o fewn y cyfanrwydd yn llawn. Fy mwriad yw eu bod yn dod yn fwy cyfoethog drwy'r dull hwn; Y cyfan yn dod yn fwy na chyfanswm ei rannau.

www.rorybuckland.uk

Giles Davis

Giles Davis

Mae fy nghefndir wedi ymwneud yn llwyr ag adeiladu brandiau: o hysbysebu i strategaeth brand, dylunio i gychwyniadau digidol, technolegol i ymgynghoriaeth. Rwy wedi bod ar y tu fewn yn creu a chynnal brandiau, yn amrywio o geir i fusnesau newydd, banciau i ddarlledwyr o'r lleol i'r rhyngwladol.

Rwy wedi byw yng Nghymru dros y ddeng mlynedd ddiwethaf ac roeddwn i eisiau trosglwyddo'r hyn rydw i wedi'i ddysgu gan ei fod yn ymddangos ei fod yn disgyn rhwng dylunio ac addysgu busnes, ond eto mae wrth wraidd y ddau.

Mae'r cwrs rwy'n ei redeg gydag Ysgol Gelf Agored Caerdydd yn broses ddwys o ran sut i greu a chyfleu brand o'r hedyn cyntaf o syniad i ymgyrchoedd byd-eang i'w cadw'n berthnasol. Y nod yw sicrhau y gall unrhyw un fod yn hyderus wrth adeiladu eu brandiau eu hunain o'r dechrau. Ar hyd y ffordd, byddwn yn dysgu fod brandiau'n cael eu creu yn hytrach na chael eu geni ac mai dull yn hytrach na hud sy’n gyfrifol am hynny. Byddwn yn tynnu ar enghreifftiau cyfredol a'r meddwl diweddaraf er mwyn deall a gweld bod llawer mwy i frandiau na logo neu ddilynwyr Instagram.

Erin Donnelly

Erin Donnelly

​Mae Erin Donnelly yn artist o Iwerddon sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Cwblhaodd ei gradd mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (YGDC) yn 2022. Mae hi'n gweithio mewn print, ffotograffiaeth, llyfrau artistiaid a cherfluniau, yn bennaf mewn pren a metel. Mae ei hymarfer yn aml yn archwilio deunyddiau, eu priodweddau a'u rhyngweithio o fewn gofod tra hefyd yn cael eu llywio gan gymdeithasau personol a'r cof.

Mae Erin newydd orffen cymrodoriaeth blwyddyn o hyd diolch i'r Gronfa Artist Benevolent yn YGDC lle cafodd brofiad addysgu yn rhedeg gweithdai llyfrau artistiaid, drwy roi tiwtorialau a darlithoedd lle rhannodd ei hymarfer gyda myfyrwyr Celfyddyd Gain.

Ar hyn o bryd mae Erin yn gweithio fel Cynorthwyydd Stiwdio i'r artist a'r darlithydd Sean Edwards. Mae hi'n aelod stiwdio yn Oriel BayArt, lle mae'n rhan o'r cymundod sy'n cael ei rhedeg gan artistiaid, Wholefoods. Cyd-sefydlodd Wholefoods yn 2022 gyda phump o raddedigion eraill YGDC. Maent yn gweithio ar y cyd i drefnu digwyddiadau ac ymgysylltu â sîn gelf Caerdydd wrth gefnogi ei gilydd wrth iddynt ddatblygu eu harferion artistig eu hunain.​

Mae ganddi brofiad o weithio fel Cydlynydd Oriel ar gyfer ArcadeCampfa yng Nghaerdydd ac fel Cynorthwyydd Ymwelwyr i Oriel Spike Island ym Mryste. Mae ei harddangosfeydd diweddar yn cynnwys sioe ar y cyd yn Oriel BayArt (2023) gyda'r artist Cassandra Davies, Dialogue cydweithrediad â'r artist Rebecca Jones yn oriel SHIFT (2023) ac arddangosfa unigol Between Spaces yn The Wholefoods Studio (2022).

Freya Dooley

Freya Dooley

Artist sydd wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd, ar ôl graddio o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn 2011 yw Freya Dooley. Mae hi wedi bod yn diwtor peintio a darlunio byw COAS ers 2013, a than yn ddiweddar bu hefyd yn cynnal sesiynau darlunio byw yn Spit a Sawdust yng Nghaerdydd. Mae hi wedi gweithio i Ganolfan Gelf Chapter ers 2011 ac yn y gorffennol, mae hi wedi gweithio ar ei liwt ei hun i lawer o sefydliadau celfyddydol yng Nghymru, gan gynnwys Cymru yn Fenis, Artes Mundi a Made in Roath. Ei dull o addysgu yw annog ei myfyrwyr i fwynhau eu gwaith a dod o hyd i gelf a diddordeb mewn lleoedd annisgwyl. Mae ei dosbarthiadau’n hwyliog ac yn annog arbrofi, i herio'ch parthau cysur a datblygu eich steil bersonol wrth ddysgu mwy am ddylanwadau hanesyddol cyfoes a chelf.

O safbwynt ei gwaith artistig personol, mae'n ymwneud ag ysgrifennu, ffilm, collage, sain a pherfformio. Mae ei gwaith diweddar yn defnyddio traciau sain, monologau a delweddau wedi'u coladu i archwilio colli a gollwng y llais. Cyfeiria ei gweithiau at lenyddiaeth, cerddoriaeth bop, mytholeg Gwlad Groeg, operâu sebon a 'phleserau euog' eraill. Yn ddiweddar, derbyniodd fwrsariaeth gan Jerwood Visual Arts, Llundain, i ddatblygu ei gwaith gyda'r llais byw ac wedi’i recordio. Mae gan Freya hefyd waith cydweithredol gyda'r artist Cinzia Mutigli. Maent wedi bod yn gwneud gwaith perfformio, darlledu a chyhoeddi, yn ogystal â chychwyn prosiectau a digwyddiadau gydag artistiaid eraill, er 2013. Mae Freya’n aelod o Syllabus III, rhaglen ddysgu amgen dan arweiniad cymheiriaid yn y DU, a ddarperir ar y cyd â Wysing Arts Center, Eastside Projects, Spike Island, Studio Voltaire, Invia, S1 Artspace a New Contemporaries o 2017-8. Mae hi hefyd yn aelod stiwdio yn Spit and Sawdust yng Nghaerdydd, gofod celf, caffi a pharc sglefrio sydd â rhaglen greadigol, a lle mae hi ar hyn o bryd yn curadu'r Comisiwn Billboard.

Mae arddangosfeydd unigol Freya’n cynnwys Somewhere in the crowd there's you (working title) ESP Members Show, Eastside Projects, Birmingham, 2019; Speakable Things, Litmus, Oriel Davies, 2018; Rhythms and Disturbances, Unit#1, g39, Cardiff, 2016. Mae ei harddangosfeydd a’i pherfformiadau grŵp yn swmpus ac yn cynnwys, Wysing Arts Centre, Cambridge, 2018; Syllabus x Tough Matter, Delicious Clam, Sheffield, 2018; Syllabus Mix at Guest Projects, London; Can I Be Me, Northern Charter, Newcastle, 2017; A Tribute to JB, FreeShop at Piet Zwart Institute, Rotterdam, 2017. Perfformiadau mewn cydweithrediad â Cinzia Mutigli: Being Sharon, a gomisiynwyd gan Experimentica18 Festival, Chapter, Caerdydd, 2018; You Will Get the Credit, comisiynwyd gan Holly Davey yn g39, Caerdydd, 2018; I love you but…, Glynn Vivian, Abertawe, 2018; ac On Record, prosiect a rhaglen guradu a gomisiynwyd gan Cardiff Contemporary yn 2014.

www.freyadooley.com​

Jaime Fitzgerald

Dylunydd graffig yw Jaime gyda dros 12 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ac mae ganddo (BA) mewn Cyfathrebu Graffig. Mae wedi gweithio mewn sawl lleoliad dylunio cyflym gan gynnwys; ar ei liwt ei hun, yn fewnol ac yn asiantaeth. Mae Jaime yn arbenigo mewn brandio a marchnata ac mae wedi gweithio ar lu o brosiectau ar raddfa Genedlaethol a Rhyngwladol. 

Mae wrth ei fodd yn yr awyr agored ac mae'n ffotograffydd brwd. Mae Jaime hefyd yn mwynhau chwarae pêl-droed, darlunio / paentio a threulio amser gyda ffrindiau a theulu yn ei amser rhydd.

Yn ogystal â gweithio i COAS, rwy'n cynnal amrywiaeth o weithdai rheolaidd yn Carnegie House, Pen-y-bont ar Ogwr, lle rydw i hefyd yn cynnal Clwb Celf wythnosol. Rwy'n diwtor ar gyfer Dysgu Cymunedol i Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn aelod o dîm Criw Celf Pen-y-bont ar Ogwr.

Christopher Holloway

Christopher Holloway

Arlunydd sydd wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd, Cymru, yw Christopher Holloway, ac yn gweithio'n bennaf ym maes peintio ac arlunio. Mae wedi arddangos ei waith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae ganddo weithiau mewn nifer o gasgliadau. Mae wedi arddangos ei waith yn Academi Frenhinol Gorllewin Lloegr ac Arddangosfa Discerning Eye, gan ennill gwobr yno.

Mae Christopher wedi gweithio yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd fel darlithydd mewn Celf Gain ac wedi cyfrannu at Ysgol Gelf Agored Caerdydd fel tiwtor lluniadu a pheintio dros nifer o flynyddoedd. 

www.christopherholloway.net

Russell John

Rwy'n artist, gwneuthurwr printiau a dylunydd sain sydd â diddordeb mewn chwalu ac ail-lunio pethau cyfarwydd. Rwy'n gweithio gyda thechnegau traddodiadol a chyfoes i brosesu delweddau o ddeunydd printiedig i mi eu darganfod. Rwyf wedi arddangos printiau a phaentiadau yn y DU ac yn Nenmarc, ac rwyf wedi bod yn ymwneud â phrosiectau dylunio, sain a cherddoriaeth sydd wedi cael eu dangos yn British Film Institute, Sinema Tate Modern a’r Design Museum yn Llundain. Yn Borch Editions ac Edition Copenhagen gweithiais yn agos gydag artistiaid o Victoria Miro, White Cube, David Zwirner, Perrotin a David Nolan orielau i wneud rhifynnau o lithograffau cerrig, printiau sgrin ac ysgythriadau. Yn Pentagram Llundain treuliais amser yn gweithio gyda'r Artist a'r dylunydd sain Yuri Suzuki i helpu i wireddu offerynnau cerdd newydd.

Nikolett Kovacs

Nikolett Kovacs

Mae Nikolett Kovacs yn artist sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Mae ganddi radd mewn Celfyddyd Gain ac enillodd ei MFA o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae hi wrthi’n cwblhau PhD mewn Celf a Dylunio yn yr un brifysgol. Mae hi'n arbenigo mewn creu paentiadau tirwedd haniaethol, sy’n archwilio themâu sy'n gysylltiedig â’r synhwyrau, canfyddiad, a'r meddwl.

Mae ei gwaith yn archwilio bydoedd diddorol ein synhwyrau, sut rydyn ni'n canfod y byd, a'r cysylltiad cywrain rhwng y meddwl a’r corff. Mae’r casgliad cyfareddol hwn yn cyfathrebu cysyniadau dwfn mewn modd hygyrch a deniadol.

https://www.instagram.com/nikolettkovacsart/

Vanessa Nicholas

Vanessa Nicholas

Artist, animeiddwraig, darlunydd a dylunydd digidol ...

Rwy'n ymdrechu i gwmpasu cymaint o feysydd o fewn y sbectrwm celf a dylunio yn fy ngwaith ac addysgu. Mae hyn yn gwella fy ngallu i addysgu mewn ffordd amlddisgyblaethol sy'n crisialu amrywiaeth o themâu a thechnegau cyfoes ar draws llwyfannau traddodiadol a digidol. Rwy'n cyfaddef ’mod i’n ‘geek’ ac rwy'n angerddol am nifer o feysydd o fewn y byd celf a dylunio gan gynnwys; animeiddio, celf gysyniadol, archarwyr, nofelau graffig, peintio digidol, dylunio creaduriaid a chymeriadau, Harry Potter, Ffilm a Theledu, gwneud modelau, gemau, meddalwedd ddigidol, cerddoriaeth, darlunio, darlunio bywa dylunio graffig.

Yn bersonol, rwy'n ffan enfawr o gyrsiau byr ac yn cyson ddatblygu fy ngwybodaeth am y diwydiant creadigol hwn sy'n newid ac yn hyrwyddo technolegol. Gall cyrsiau byr ddod â synnwyr persbectif a chwa o awyr iach i'ch bywyd, ac mae bod yn rhan o'r broses hon yn brofiad hyfryd. Mae gwybodaeth gyfredol o’r diwydiant yn elfen allweddol wrth greu cyrsiau newydd ac arloesol, yn cynnwys mynychu cyrsiau mewn animeiddio a gwneud modelau yn stiwdios animeiddio Aardman, ochr yn ochr â chyrsiau cerflunio cymeriad a chreaduriaid digidol a thraddodiadol yn stiwdios Gorton ac mae effeithiau Millemium yn cyson gynyddu fy ngwybodaeth. Mae popeth rwy’n parhau i'w ddysgu o fyd diwydiant yn bwydo i mewn i'm haddysgu er mwyn sicrhau bod y gweithdai’n fodern, yn gyfoes ac yn taro tueddiadau a themâu'r diwydiant sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd o fewn ein diwydiant sy'n ehangu.

Mae'r diwydiannau creadigol yn tyfu, ac o fewn y cyrsiau rwy'n eu creu, byddaf yn ffurfio cerrig camu a llamu i fyfyrwyr gael profiad a magu hyder i fentro i feysydd o fewn y diwydiant megis; animeiddio, dylunio apiau, gemau, celf gysyniadol, dylunio graffig, dylunio nofelau graffig, gwneud modelau neu ddylunio digidol ac ati.

Bydd y cyrsiau byr a'r gweithdai’n cael eu datblygu er mwyn twrio i'r meysydd cyfoes hyn, ac rwy'n edrych ymlaen at greu cyrsiau newydd ac arloesol fel tiwtor COAS.

Karen O'Shea

Karen O'Shea

Mae Karen O'Shea yn Diwtor Cyswllt gydag Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ac yn artist tecstilau. Mae hi'n athrawes gymwysedig sy'n angerddol am ysbrydoli pobl i fod yn greadigol, yn arbennig i wnïo ac i ddefnyddio pwyth i fynegi eu hunain yn artistig. Mae hi'n dysgu tecstilau celf a chyfryngau cymysg mewn lleoliadau amrywiol o amgylch Caerdydd a Chasnewydd ac mae hi hefyd yn gweithio i gyfres graffeg ymdrwythol. Mae hi'n ail-ddefnyddiwr brwd o hen decstilau a haberdashery, gan gymryd ysbrydoliaeth o fyd natur, y tirwedd a'i theithiau. Mae Karen yn falch o fod yn helpu i ddatblygu Gerddi Lliw a Ffibr Botanegol Llandaf wrth galon campws Llandaf. www.karenoshea.co.uk

Margo Schmidt

Margo Schmidt

Graddiais o’r cwrs gradd BA Serameg ym Metropolitan Caerdydd yn 2013, ar ôl penderfynu ar ôl 15 mlynedd o ddosbarthiadau nos, fod hyn yn gymaint o hwyl fel y byddwn yn dymuno gwneud hyn yn llawn amser. Roedd mynd i'r ysgol gelf hyd yn oed yn fwy cyffrous nag y gallwn fod wedi dychmygu, ac am dair blynedd archwiliais yr holl dechnegau a chyfleusterau a gynigiwyd, a threulio fy ngwyliau mewn arddangosfeydd cerameg ac yn gweithio gyda chrochenwyr ac artistiaid cerameg.

Ar ôl graddio, treuliais 18 mis fel artist preswyl yng Ngwaith Tsieni Nantgarw a chyd-guradu pedair arddangosfa o arddangosfeydd cyfoes.

Yng Nghaerdydd rwy wedi cael fy newis i arddangos yn Caerdydd Cyfoes, Wedi'i Wneud â Llaw a Chrefft yn y Bae – efallai eich bod wedi chwarae gydag ambell bot o ’ngwaith i?

Sharha

sharha

Dylunydd Graffig, Delweddydd ac Artist y mae ei gwaith yn adlewyrchu syniadau mewn pwysigrwydd Egwyddorion Ffeministaidd mewn Dylunio Graffig.

Astudiais MRes mewn Celf a Dylunio yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Yn flaenorol, fe wnes i MA yn y Celfyddydau Cain gydag arbenigedd Cyfathrebu Graffig o India. Rwyf wedi gweithio fel Dylunydd Graffig mewn Asiantaeth Ad ac fel darlithydd yn India. Rwy'n parhau i weithio fel dylunydd llawrydd hefyd. Fy agwedd addysgu tuag at fyfyrwyr yw gwneud iddynt adlewyrchu eu creadigrwydd ar bapur gyda difyrrwch. Oherwydd fy mod yn credu os ydym yn creu rhywbeth newydd, dylem wybod am ein llais mewnol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dysgodd fy mhrofiad i mi sut mae dyluniad yn dod i ryw, sut mae lliwiau, ffontiau a delweddau penodol yn gysylltiedig â dynion a menywod a sut y gallwn newid cymdeithas trwy Ddylunio Graffig. Felly, fy mhrif ffocws yw cysylltu ffeministiaeth â graffeg, a daw fy ysbrydoliaeth o destun hynafol ‘The Kamasutra’ sy’n rhoi grym i fenywod yn eu bywydau eu hunain. Mae fy maes ymchwil yn adrodd grymuso menywod trwy ‘the Kamasutra’. Rwy’n credu bod ‘y Kamasutra’ yn llais i fenywod deimlo’n ddiogel yn y byd hwn, oherwydd ei ddull ffeministaidd. Fel dylunydd, hoffwn rymuso menywod trwy Infograffeg ac rwy’n mynd i greu ymddangosiad newydd o ‘The Kamasutra’. Yn yr un modd, byddai'r graffeg rwy'n ceisio ei greu yn gweithio fel arfau ar gyfer diogelwch menywod ac yn newid camsyniad dynion tuag at fenywod mewn cymdeithas. 

Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o Ysgol Gelf Agored Caerdydd, ac yn gyffrous iawn i rannu fy sgiliau a thechnegau dylunio.

Stefanie Smith

Stefanie Smith

Graddiodd Stefanie yn ddiweddar o’r rhaglen Meistr mewn Cerameg yn YGDC ac mae wedi bod yn chwarae gyda chlai ers dros 12 mlynedd. Dechreuodd ei gyrfa cerameg drwy wneud nwyddau swyddogaethol wedi’u hadeiladu gan ddefnyddio slabiau yn St Ioan NL, cyn symud i fyd cerflunio gyda'i hastudiaethau diweddar. Mae hi wedi arddangos ei chrochenwaith a'i cherfluniau ledled Canada a'r DU, ac wedi cymryd rhan mewn nifer o breswylfeydd artistiaid ledled y byd. Mae ei gwaith presennol yn archwilio syniadau yn ymwneud â chwarae, mympwyol, ac adrodd straeon.

Kath Wibmer

David Todd

Mae Katherine yn ddylunydd patrwm Arwyneb gydag arbenigedd mewn print ffabrig a lliw. Mae hi wedi gweithio yn y diwydiant Ffasiwn a thecstilau mewn gwahanol rolau ers graddio o PCYDDS yn 2016. Mae'r rolau hyn wedi cynnwys dylunio printiau ar gyfer casgliadau ffasiwn, gweithio ym maes ffasiwn plant, dylunio dillad ar gyfer cwmnïau dawns ac arddangos gwaith ledled Ewrop. Ar hyn o bryd mae Katherine yn gweithio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd fel arddangoswr technegol print Ffabrig yn ddysgu sgiliau i fyfyrwyr megis printio sgrin traddodiadol, lliwio ffabrig, gwau gyda pheiriant gwau, ac argraffu digidol. Pan nad yw hi yn yr ystafell argraffu, gallwch chi ddod o hyd iddi'n heicio a nofio gwyllt ym mynyddoedd Cymru.​

Arddangosfeydd

Cyfres British Jungle

Oriel y Genhadaeth, Abertawe, 2023

What is there

Caerdydd, 2023

Hecho en Transito, Gala Rojo

Seville, Sbaen, Rhagfyr 2018

Gŵyl Tri Chôr, Eglwys Gadeiriol Henffordd

Henffordd, Gorffennaf 2018

Artist Preswyl, Coleg Celfyddydau Henffordd

Henffordd, May 2018

Maker in Focus, Oriel y Genhadaeth

Abertawe, Awst 2016

New Designers, Canolfan Dylunio Busnes

Llundain, Mehefin 2016

Freshwest- Held, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Cymru, 2015

Premeier Vision, Paris-Nord Villepinte

Paris, 2015, 2016

Creative Bubble

Abertawe, 2015

Amgueddfa Wlân Genedlaethol

De Cymru, 2014​