Archebwch Le Nawr

TELERAU AC AMODAU COFRESTRU YSGOL GELF AGORED CAERDYDD

Sut i archebu: Gellir archebu a thalu am holl gyrsiau Ysgol Gelf Agored Caerdydd ar-lein drwy siop ar-lein Prifysgol Metropolitan Caerdydd gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd dilys. Ni fydd lle ar y cwrs yn cael ei gadarnhau nes bod y taliad wedi dod i law'n llawn. Sylwch fod ein cyrsiau yn agored i'r rhai sy'n 16 oed neu'n hŷn, ac eithrio cyrsiau sy'n defnyddio model bywyd, lle mae'r oedran isaf ar gyfer cyfranogwyr yn 18 oed.

Pryd i archebu: Bydd Ysgol Gelf Agored Caerdydd yn rhoi gwybod i gwsmeriaid pan fydd cyrsiau bob tymor ar gael i'w harchebu drwy ein gwefan www.metcaerdydd.ac.uk/artanddesign/coas drwy'r cyfryngau cymdeithasol, a thrwy e-bost i'r rhai sydd wedi cofrestru ar restr bostio Ysgol Gelf Agored Caerdydd. Dim ond pan fydd y cyrsiau'n fyw yn y siop ar-lein y gellir archebu lle a bydd archebion yn cau wythnos cyn dyddiad cychwyn a hysbysebir pob cwrs unigol. Rydym yn cynghori cwsmeriaid i archebu lle ar eu cwrs dymunol cyn gynted ag y bydd ar gael, gan fod lleoedd ar bob cwrs yn gyfyngedig.

Beth nesaf: Unwaith y bydd y broses archebu ar-lein wedi'i chwblhau, bydd cwsmeriaid yn derbyn e-bost yn cadarnhau eu proses talu ac e-bost yn cadarnhau manylion y cwrs a chyfarwyddiadau ymuno (i'r cyfeiriad a ddarperir wrth archebu). Os oes gan gwsmeriaid unrhyw ymholiadau pellach am y cwrs ar ôl derbyn y cadarnhad, gallant gysylltu â ni ar coas@cardiffmet.ac.uk. Ni ddylai cwsmeriaid ddisgwyl cael cadarnhad pellach gan Ysgol Gelf Agored Caerdydd oni bai bod cwrs yn cael ei newid neu ei ganslo.

Ad-daliadau / Canslo:

Drwy gofrestru ar gyfer cwrs Ysgol Gelf Agored Caerdydd, rydych yn cytuno i'r isod:

Os nad oes digon o fyfyrwyr ar gyfer y cwrs i redeg cyn dechrau'r cwrs, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cadw'r hawl i ganslo'r cwrs. Mewn unrhyw sefyllfa ganslo o'r fath, bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn talu ad-daliad llawn o ffi eich cwrs i chi ond ni ellir ei dal yn atebol am unrhyw golled uniongyrchol neu ganlyniadol arall.

Os byddwch yn penderfynu peidio â mynychu eich cwrs, unwaith y byddwch eisoes wedi archebu a thalu ar-lein, dim ond pan dderbynnir hysbysiad ysgrifenedig drwy e-bost i coas@cardiffmet.ac.uk o leiaf bum diwrnod gwaith cyn dyddiad dechrau'r cwrs y caiff ad-daliadau eu prosesu. Darperir ad-daliadau yn ôl i'r cerdyn a ddefnyddiwyd yn wreiddiol i dalu'r ffi ar-lein. Os byddwch yn gadael y cwrs unwaith y bydd wedi dechrau, ni allwn roi ad-daliad oni bai bod amgylchiadau'n eithriadol.

Ceisiadau Trosglwyddo:

Unwaith y bydd cwrs wedi dechrau, efallai y byddwn yn gallu cynnig trosglwyddiad i chi i gwrs arall o dan rai amgylchiadau a dim ond os nad yw'r cwrs a ddymunir yn llawn. Dylech gyflwyno cais i drosglwyddo'ch cwrs yn ysgrifenedig i coas@cardiffmet.ac.uk a gellir gwneud hyn heb fod yn hwyrach na saith diwrnod gwaith ar ôl dyddiad dechrau'r cwrs. Ni chytunir ar drosglwyddiadau'n awtomatig ym mhob amgylchiad. Os rhoddir trosglwyddiad a bod ffi'r cwrs newydd yr un fath, neu'n is, na'ch cwrs gwreiddiol, yna ni chodir tâl. Os yw ffi'r cwrs newydd yn uwch, yna rhaid talu'r balans yn llawn.

Tîm Ysgol Gelf Agored Caerdydd
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhodfa'r Gorllewin
Llandaf
CF5 2YB