Fel rhan o ymrwymiad Prifysgol Metropolitan Caerdydd i ymgysylltu â’n staff, myfyrwyr a’r gymuned ehangach i helpu i greu sefydliad mwy cynhwysol ac amrywiol, rydym yn croesawu ac yn cefnogi datblygiad rhwydweithiau staff a myfyrwyr.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd rhwydweithiau staff wrth ddod â phobl ynghyd o bob Ysgol Academaidd a Gwasanaeth Proffesiynol sy'n uniaethu â grŵp cydraddoldeb, neu fater sy'n ymwneud â chydraddoldeb.
Mae rhwydweithiau staff yn cael eu rhedeg gan staff ar gyfer staff, ac yn rhoi’r cyfle ar gyfer:
- Rhyngweithio cymdeithasol
- Cymorth gan gymheiriaid
- Datblygiad proffesiynol
- Cynorthwyo i godi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb
Yn ystod y blynyddoedd diweddar, rydym wedi sefydlu chwe Rhwydwaith dan arweiniad staff yma ym Met Caerdydd, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Y chwe Rhwydwaith yw:
- Rhwydwaith Staff LGBTQ+
- Rhwydwaith Staff Menywod
- Rhwydwaith Staff Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
- Rhwydwaith Staff Anabl
- Rhwydwaith Staff Rhyngwladol
- Rhwydwaith Cymraeg i Staff