Equality and Diversity at Cardiff Met

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ym Met Caerdydd

Equality and Diversity at Cardiff Met
  • ​​​
  • ​​​​
​​​​ 

 

Cardiff Metropolitan University is committed to promoting and implementing best practice in Equality and Diversity (E&D) in order to provide a working and learning environment to enable both staff and students to reach their full potential.

We wish to work beyond the legislative requirements in the delivery of E&D policies, and aim for equality of opportunity to be embedded in everything we do. Cardiff Metropolitan University is an organisation where diversity is valued, equality is promoted and services are delivered to support all staff and students.

The University is aware of the need to recognise people’s identities as multi-dimensional and is committed to providing a positive working and learning environment free from discrimination, harassment, and victimisation on the grounds of age, disability, gender reassignment, marriage and civil partnership, pregnancy and maternity, race, religion and belief, sex or sexual orientation.

In Wales, the Welsh language is often included under an equality banner. Cardiff Metropolitan University’s Welsh Language Unit manages the implementation of the Welsh Language Scheme.

For more information about equality and diversity at Cardiff Metropolitan University please contact our Civic and International ​Equality and Diversity Officer: equality@cardiffmet.ac.uk.

 

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i hyrwyddo a gweithredu arfer gorau mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth er mwyn darparu amgylchedd gweithio a dysgu i alluogi staff a myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial.

Rydym yn dymuno  gweithio y tu hwnt i'r gofynion deddfwriaethol wrth ddarparu polisïau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth,  ac anelu at ymgorffori cyfle cyfartal ym mhopeth a wnawn. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn sefydliad lle mae amrywiaeth yn cael ei werthfawrogi, mae cydraddoldeb yn cael ei hyrwyddo a gwasanaethau'n cael eu darparu i gefnogi'r holl staff a myfyrwyr.

Mae'r Brifysgol yn ymwybodol o'r angen i gydnabod hunaniaeth pobl fel aml-ddimensiwn ac mae wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith a dysgu cadarnhaol sy'n rhydd o wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.
Yng Nghymru, mae'r Gymraeg yn aml yn cael ei chynnwys o dan faner cydraddoldeb. Mae Uned Iaith Gymraeg Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn rheoli gweithrediad y Cynllun Cymraeg.

I gael rhagor o wybodaeth am gydraddoldeb ac amrywiaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd,  cysylltwch â'n Swyddog Cydraddoldeb  ac Amrywiaeth Dinesig a Rhyngwladol Swyddog:  equality@cardiffmet.ac.uk.

Cytundebau Peidio â Datgelu

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn sefydliad sy'n cael ei gyrru gan werthoedd lle mae amgylchedd gweithio a dysgu diogel, cefnogol, a chynhwysol yn hanfodol i sicrhau bod myfyrwyr a staff yn cyflawni eu llawn botensial.

Nid yw'r Brifysgol yn caniatáu'r defnydd o Gytundebau Peidio â Datgelu (NDAs) mewn perthynas ag achosion staff neu fyfyrwyr yn ymwneud â thrais rhywiol neu ar sail rhywedd, bygythiadau o drais, aflonyddu, cam-drin, neu achosion o gam-drin ac aflonyddu y'u diffinnir yn ehangach.

Mae'r safbwynt polisi cadarn hwn yn adlewyrchu arfer da ledled y sector addysg uwch ac fe'i hadlewyrchir yn argymhellion Canllawiau Prifysgolion y DU (UUK) ar Gamymddwyn Rhywiol Staff/Myfyrwyr, sef canlyniad Grŵp Cynghori UUK a gadeirir gan yr Athro Cara Aitchison, Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'r Grŵp hwn wedi bod yn datblygu Canllawiau ar gyfer mynd i'r afael â chamymddwyn rhywiol rhwng staff a myfyrwyr yn y sector addysg uwch a chaiff y Canllawiau eu lansio yn gynnar yn 2022.

Adlewyrchir y safbwynt hwn yng Nghod Ymddygiad Proffesiynol y Brifysgol y'i mabwysiadwyd yn 2021 ac mae'n cyd-fynd â Chanllawiau UUK ar Gamymddwyn Rhywiol ac â chanllawiau gan ACAS a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae hefyd yn cefnogi'r adduned i ddod â'r defnydd o gytundebau peidio â datgelu i ben, fe'i lansiwyd gan y Gweinidog dros Brifysgolion yn Lloegr yn Ionawr 2022, fe'i cefnogir gan y NUS, grwpiau ymgyrchu ac ASau ac mae eisoes wedi'i fabwysiadu gan rai prifysgolion yn Lloegr.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i raglen o waith ehangach UUK, Newid y Diwylliant, ac i egwyddorion gweithredol 'Can't Buy My Silence'. Mewn perthynas â chamymddwyn rhywiol yn benodol, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i:

  1. Ddiffinio ac ymgorffori diwylliant cynhwysol a chadarnhaol i sicrhau amgylchedd sy'n atal camymddwyn rhywiol ac nad yw'n ei alluogi na'i ganiatáu.
  2. Peidio ag annog perthnasoedd personol agos rhwng staff a myfyrwyr, datgelu'r rhain lle maen nhw'n bodoli a sicrhau y caiff staff eu tynnu oddi ar bob cyfrifoldeb a allai olygu gwrthdaro buddiannau ymddangosiadol neu wirioneddol.
  3. Adolygu polisïau'n rheolaidd fel y gall myfyrwyr a staff fod yn hyderus y bydd y Brifysgol yn gweithredu mewn ffordd sy'n deg a thryloyw.
  4. Datblygu a chynnal strategaeth atal gadarn ynghyd â dull teg, clir a hygyrch ar gyfer ymateb i honiadau, datgeliadau, adroddiadau a chwynion o drais rhywiol neu ar sail rhywedd, bygythiadau o drais o natur rywiol neu ar sail rhywedd, aflonyddu rhywiol neu ar sail rhywedd, cam-drin rhywiol neu ar sail rhywedd neu achosion o gam-drin ac aflonyddu y'u diffinnir yn ehangach.
  5. Monitro, gwerthuso ac adolygu arferion, a rhannu'r gwersi a ddysgwyd ledled y sector, er mwyn cefnogi cylch o welliant parhaus.
  6. Mabwysiadu dull systematig o gasglu data dienw ar adroddiadau o ddigwyddiadau o gamymddwyn rhywiol a gweithredu i ymateb i unrhyw dueddiadau sy'n dod i'r amlwg.



Rhwydweithiau a Fforymau Staff

​Darganfyddwch ragor am ein  rhwydweithiau staff a'n fforymau ym Met Caerdydd.

Adroddiadau Blynyddol a Pholisïau

​Darganfyddwch ragor am ein hadroddiadau blynyddol, polisïau a strategaethau.

Mentrau a Siarteri Cydraddoldeb

​Darllenwch ragor am ein mentrau Cydraddoldeb ym Met Caerdydd. .

Newyddion Diweddaraf

Content Query