Mae Plas Gwyn yn gampws preswyl gyda llety en-suite. Gweler y mapiau ar gyfer Llandaf gan fod y rhain hefyd yn dangos lleoliad Plas Gwyn.
Cyfeiriad:
Heol Llantrisant, Llandaf, Caerdydd, CF5 2XJ
I gyrraedd Campws Preswyl Plas Gwyn o gyfeiriad:
Y Dwyrain:
Cymerwch Gyffordd 29 oddi ar yr M4 a theithiwch tua'r gorllewin ar yr A48(M).
Ewch ymlaen ar hyd y ffordd ddeuol nes i chi gyrraedd set o oleuadau traffig (bydd Tesco Extra ar eich chwith), symudwch i'r lôn ganol.
Ewch ymlaen trwy'r set nesaf o oleuadau traffig gan aros yn y lôn chwith, trowch i'r chwith gydag arwydd canol y ddinas, Llandaf a Llantrisant (Mill Lane), symudwch yn syth i'r lôn dde.
Trowch i'r dde wrth y goleuadau traffig i'r A4119 a ewch ymlaen trwy'r goleuadau traffig tuag at bentref Llandaf.
Ewch ymlaen i fyny'r rhiw trwy'r pentref tan i chi gyrraedd cylchdro bach.
Cymerwch y tro cyntaf i'r chwith oddi ar y cylchdro a Phlas Gwyn sydd ar y chwith cyntaf gyferbyn â'r BBC. the BBC.
Y Gorllewin:
Cymerwch Gyffordd 32 oddi ar yr M4 ac ymunwch â'r A470 tuag at ganol y ddinas.
Ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon tan i chi gyrraedd cylchdro Gabalfa. Wrth y cylchdro ewch i mewn i'r lôn dde a chymerwch y 4edd allanfa i'r A48(M) tua'r gorllewin.
Ewch ymlaen ar hyd y ffordd ddeuol nes i chi gyrraedd set o oleuadau traffig (bydd Tesco Extra ar eich chwith), symudwch i'r lôn ganol.
Dilynwch gyfarwyddiadau 'Y Dwyrain' o bwynt 3.