Cyllid brys


Dylech wneud yn siŵr bod gennych ddigon o arian i dalu am eich holl gostau byw ar gyfer pob tymor yr ydych chi’n astudio ym Met Caerdydd. Gallwch wneud hyn trwy gyllidebu a rheoli arian yn dda.

Os bydd eich arian yn dod i ben oherwydd amgylchiadau annisgwyl, fe allech fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol ar gyfer eich costau byw. Bydd disgwyl ichi ddangos eich bod chi wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod gennych ddigon o arian i bara hyd at eich taliad incwm nesaf (e.e. rhandaliad Cyllid Myfyrwyr, cyflog o swydd, ayyb).

Os oes angen cymorth ariannol arnoch ar frys, gallwch ystyried yr opsiynau canlynol. 


Cymorth Ariannol

Mae disgwyl i fyfyrwyr wneud darpariaeth ariannol addas i dalu am eu holl gostau cyn dechrau eu cwrs. 
 
Fodd bynnag, os byddwch yn eich cael eich hun mewn trafferthion ariannol, gallech fod yn gymwys i ymgeisio i’r Brifysgol am gymorth ariannol.

Er mwyn bod yn gymwys i ymgeisio, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru ar eich cwrs ac yn methu talu am eich costau hanfodol ar hyn o bryd.  

 
Ar ôl i chi gyflwyno’r ffurflen hon, anfonir dolen i chi drefnu apwyntiad gydag aelod o’n tîm. Yn  ystod yr apwyntiad hwn, byddwn yn trafod eich sefyllfa ymhellach gyda chi. Yn dilyn y sgwrs hon, efallai y byddwn wedyn yn eich gwahodd i ymgeisio am gymorth ariannol. Sylwch na allwn warantu dyfarniad.


Myfyrwyr rhyngwladol ac UE

Os ydych chi’n wynebu caledi ariannol taer o ganlyniad i amgylchiadau sylweddol ac annisgwyl, fe allech fod yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol brys trwy ein ‘Cronfa cymorth i fyfyrwyr rhyngwladol’.

Gallwch wneud cais ar gyfer cymorth ariannol os ydych chi:

  • wedi dioddef trosedd neu dwyll (rhaid ichi gael rhif cyfeirnod trosedd) 
  • yn ffoi rhag trais neu gam-drin domestig
  • wedi dioddef trychineb domestig yn y DU megis tân neu lifogydd yn y tŷ

Os yw unrhyw un o’r amgylchiadau hyn yn berthnasol ichi, cysylltwch â ni ar studentsupportfund@cardiffmet.ac.uk i drafod eich sefyllfa ymhellach.

Bydd hefyd angen inni gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Byd-eang i roi gwybod iddynt am eich amgylchiadau felly efallai y byddan nhw’n cynnig rhywfaint o gymorth ichi.



Adnoddau hunan-gymorth

Os ydych yn ei chael hi'n anodd rheoli eich arian, rydym yn argymell eich bod yn cwblhau ein e-Fodiwl ymwybyddiaeth ariannol: 


Cysylltwch â ni

Os oes angen i chi siarad â rhywun am gyllidebu a dyled, neu'r Gronfa Cymorth i Fyfyrwyr, gallwch drefnu apwyntiad:

Cyngor ariannol
Trefnwch apwyntiad