Pwy ydym ni
Rydym yn wyddonwyr chwaraeon profiadol gyda phrofiad o wella perfformiad chwaraeon yn ymarferol a drwy ymchwil. Mae ein staff eisoes yn gweithio gydag Athletau Cymru a Lloegr, Triathlon Cymru ac mewn pêl-droed; gallwch chi hefyd ddefnyddio ein harbenigedd i wella eich perfformiad chwaraeon eich hun.
Bydd ein tîm Ffisioleg yn darparu profion, yn monitro ac yn rhoi chyngor i’ch helpu i wella’ch perfformiad ar gyfer y chwaraeon pellter hir.
Gallwn ddarparu profion a chyngor safonol neu bwrpasol i wella’r rhan fwyaf o agweddau ar berfformiad chwaraeon.
Michael Hughes, Ffisiolegydd Chwaraeon
- Cyn ffisiolegydd chwaraeon i Gymdeithas Olympaidd Prydain (sy’n canolbwyntio ar athletau, rhwyfo, chwaraeon raced, chwaraeon gaeaf)
- Gwaith ymgynghori ar gyfer FIFA, Ffederasiwn Badminton y Byd, Badminton Cymru a Lloegr, Tîm Rali Subaru y Byd
- Gwaith ymchwil ar y cyd gydag Athletau Cymru, Triathlon Cymru, Chwaraeon Cymru
- Yn canolbwyntio ar brofion ffitrwydd ar y maes ac yn y labordy
- PhD mewn ffisioleg chwaraeon sy’n cynnwys rhedeg cyflym (pêl-droed, hoci, chwaraeon raced, rygbi, pêl-fasged)
Dan Nash, Ffisiolegydd Chwaraeon
- Ffisiolegydd chwaraeon presennol i Athletau Cymru a Thriathlon Cymru
- Gwaith blaenorol gyda Chwaraeon Cymru a Rhwyfo Cymru, yn ogystal â phrofiad gyda rygbi a phêl-droed
- PhD mewn blinder a biofarcwyr statws iechyd mewn rhedwyr dygnwch hyfforddedig iawn
- Rhedwr rhyngwladol Cymru a Phrydain gydag amser rhedeg marathon o 2:15 a daliwr record 50 cilomedr cyfredol y DU
Sut ydyn ni’n gwneud hynny?
Trwy fentrau ‘Campws Agored’ a ‘Chenhadaeth Ddinesig’ y Brifysgol gallwn gynnig ein gwasanaethau i gyrff llywodraethu, clybiau, grwpiau ymarfer ac aelodau unigol o’r cyhoedd.
Gweithdrefnau profion ffisioleg
Profion V̇O2max (£75)
Mae’r gwerth hwn yn dangos terfyn uchaf eich trothwy ar gyfer gweithgaredd aerobig ac mae’n elfen hanfodol o ffitrwydd yn y rhan fwyaf o chwaraeon (yn enwedig dygnwch). Byddwch yn ymarfer yn ein labordy mor hir ag sy’n bosibl, nes gorflino. (gellir trefnu opsiynau haws ond mae’r canlyniadau’n llai manwl) a byddwn yn asesu sut mae eich calon a’ch ysgyfaint yn ymateb i’r her. Gallwch hefyd fesur cyfradd curiad uchaf eich calon – canlyniad gwerthfawr ar gyfer gosod parthau ymarfer.
Mae’r V̇O2max yn dangos llinell sylfaen cyfradd metabolig y mae ei hangen ar gyfer y rhan fwyaf o chwaraeon a gallwn ddefnyddio’r canlyniadau i arwain eich ymarfer a’ch gwaith paratoi.
- V̇O2max
- Cyflymder neu bŵer yn V̇O2max
- Cyfradd uchaf curiad y galon
Profion ymarfer corff is-facsimaidd (£90, neu £140 o’i gyfuno â phrawf V̇O2max)
Er bod V̇O2max yn dangos y ‘trothwy’ ar gyfer gweithgaredd aerobig, mae ymatebion y corff i ymarfer dwysedd isel yr un mor bwysig ar gyfer chwaraeon dygnwch. Byddwn yn profi sut mae eich calon a’ch ysgyfaint yn ymateb i’r dwyseddau y byddwch yn dod ar eu traws yn ystod ymarferion a chystadlaethau. Gallwn hefyd fesur ymateb y lactad yn y gwaed yn ystod ymarfer corff – mae’n debyg mai dyma’r newidyn mwyaf defnyddiol i’w wybod ar gyfer gosod parthau ymarfer a gwerthuso eich ffitrwydd dygnwch. Yn olaf, gallwn asesu eich economi / effeithlonrwydd yn ogystal â’r gyfradd rydych chi’n defnyddio carbohydradau a braster.
- Trothwyon lactad
- Parthau ymarfer
- Technegau rhedeg cynnil / effeithiolrwydd beicio
- Cyfraddau ocsideiddio braster a charbohydradau
Dod o hyd i’ch esgidiau rasio perffaith (£75)
Mae dyfodiad esgidiau â phlatiau carbon wedi cael effaith fyd-eang ar Record Bersonol rhedwyr ledled y byd. Mae’r esgidiau hyn yn gweithio trwy wella’ch technegau rhedeg cynnil, gan ganiatáu ichi redeg yn gyflymach wrth ddefnyddio’r ru’n faint o egni. Fodd bynnag, erbyn hyn mae dewis helaeth o “esgidiau gwych” ac mae’r effaith y mae’r esgidiau yn ei gael ar berfformiad y rhedwr yn amrywio. Gallwn asesu eich cynildeb rhedeg mewn amrywiaeth o esgidiau (a ddarperir gennych chi’ch hun) er mwyn darganfod pa un sy’n mynd i roi’r hwb mwyaf i chi ar ddiwrnod y ras.
Profion maes a phrofi chwaraeon tîm
Efallai y bydd angen dewisiadau gwahanol ar grwpiau o chwaraewyr sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon tîm yn lle profion labordy, felly gall profion maes fod yn ddelfrydol i chi. Er enghraifft gallwn werthuso ffitrwydd mewn amgylchedd ymarfer mwy nodweddiadol – ar gae pêl-droed, er enghraifft.
Gallai athletwyr dygnwch hefyd fabwysiadu dewisiadau gwahanol ar y maes i brofion labordy.
Yn y naill achos neu’r llall, dylech gysylltu â ni am fwy o fanylion. Mae enghreifftiau o newidynnau y gallwn eu mesur yn cynnwys:
- Profion macsimaidd: cyflymder sbrintio
- Gallu i sbrintio dro ar ôl tro
- Prawf Yo-Yo
- Prawf 30-15
- Monitro ymarferion
Mae ein profion labordy yn weithdrefnau safonol a ddefnyddir i werthuso ffitrwydd ac i helpu i arwain eich ymarfer ond gallwn hefyd brofi priodoldeb eich sesiynau ymarfer yn dilyn profion labordy. Gyda’r wybodaeth hon, gallwch fireinio’ch ymarfer ymhellach a gweld a ydych chi’n ymarfer yn gywir.
Gweithdrefnau eraill
Gyda’n cyfleusterau, ein gwybodaeth a’n cydweithwyr eraill, gallwn greu ystod eang o weithdrefnau neu weithgareddau eraill i’ch helpu i baratoi. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw faterion perfformiad chwaraeon y credwch y gallwn helpu gyda nhw.
Defnyddiwch y cyfeiriad e-bost isod i archebu lle.
E-bost:
sportphysiologyhub@cardiffmet.ac.uk