Skip to main content
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>Cyrsiau>Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff (Cydberthynol) – Gradd BSc (Anrh)

Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff (Cydberthynol) – Gradd BSc (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Dim ond i fyfyrwyr meddygol yn y DU y mae eu ‘Prifysgol eu hunain’ yn eu hystyried yn addas ar gyfer rhaglen cydberthynol y mae’r radd BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Cydberthynol) hon yn agored. Mae hyn fel arfer ar ôl y cyfnod astudio canolradd / cyn-glinigol ond gall amrywiadau fodoli ar draws y gwahanol Ysgolion Meddygol. Dydy'r rhaglen hon ddim yn gwrs ‘atodol’. Trwy ymgymryd â'r radd hon, byddwch yn integreiddio â myfyrwyr ar flwyddyn olaf y radd 'BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff' ac yn cael cyfle i weithio yn amgylchedd heriol chwaraeon ac ymarfer corff, o fewn labordai gwyddor chwaraeon a chyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf.


Cynnwys y Cwrs

Byddwch yn astudio:

Cydberthynol - Lefel 6 yn unig
Cod y Modiwl Teitl y Modiwl
GORFODOL
SSP6000Prosiect Annibynnol
SSP6125Chwaraeon Amlddisgyblaethol a Gwyddor Ymarfer
OPSIYNOL – DEWISWCH Y NAILL GRŴP O DRI NEU'R LLALL O'R ISOD:
SSP6126Biomecaneg Chwaraeon
SSP6128Ffisioleg Perfformiad Chwaraeon
SSP6130Seicoleg Chwaraeon
NEU
SSP6127Iechyd a Biomecaneg Adferiad
SSP6129Ffisioleg Ymarfer Corff ar gyfer Iechyd
SSP6131Seicoleg Ymarfer

Dysgu ac Addysgu

Mae dulliau dysgu, addysgu ac asesu effeithiol yn sail i nodau addysgol a chanlyniadau dysgu pob un o'n rhaglenni a'n modiwlau. Gall dulliau dysgu ac addysgu gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a sesiynau ymarferol. Mae ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir hefyd yn agwedd annatod o'r pecyn dysgu sy'n cefnogi anghenion ein myfyrwyr.

Mae darlithoedd arweiniol yn cyflwyno pynciau a chysyniadau allweddol, tra bod seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau ymarferol yn canolbwyntio ar gymhwyso cysyniadau allweddol gyda'r nod o wella profiad ac ymgysylltiad myfyrwyr. Byddwch hefyd yn cwrdd â thiwtoriaid ar sail un i un. Fel ysgol, rydyn ni'n gweithio'n galed i ddarparu cyfleoedd dysgu myfyriwr-ganolog sy'n darparu amgylchedd dysgu hyblyg o ansawdd uchel.

Mae dulliau dysgu ac addysgu yn pwysleisio ac yn hwyluso datblygiad eich rhesymu critigol, ac yn cymell integreiddio ymarfer corff a theori. Trwy gydol eich rhaglen, byddwch yn profi dysgu dan arweiniad tiwtor a dulliau dysgu hunan-gyfeiriedig, gan gynyddu annibyniaeth a myfyrio a'ch annog i ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.

Mae ein dulliau addysgu a dysgu yn ymgorffori sgiliau 'EDGE' Met Caerdydd (Moesegol, Byd-eang, Digidol ac Entrepreneuraidd) a byddwch yn cael arweiniad da i arddangos y priodoleddau graddedig a ddisgwylir gennych mewn byd gwaith cynyddol gystadleuol. Ein nod ydy eich helpu chi i ddatblygu'n weithwyr proffesiynol myfyriol ac ysgolheigion critigol.

Yn eich rhaglen chwaraeon ym Met Caerdydd, byddwch yn dod ar draws profiad dysgu, o'ch cyfnod sefydlu hyd nes i chi raddio, sy'n gydlynol ac yn datblygu'ch hunaniaeth yn eich rhaglen astudio.

Rydyn ni'n cymell ymgeiswyr i edrych ar ddiddordebau ymchwil y staff yn yr Ysgol trwy ddarllen proffiliau'r staff unigol o'r dudalen sy'n manylu am yr ymchwil sy'n digwydd yn yr Ysgol.

Asesu

Mae'r strategaethau asesu ar gyfer pob modiwl yn amrywio i sicrhau bod y dull mwyaf priodol yn cael ei weithredu ar gyfer maes eich astudiaeth. Mae dulliau asesu wedi'u cynllunio i wella'ch profiad dysgu ac i gydnabod eich bod wedi cyflawni'r canlyniadau dysgu sy'n gysylltiedig â phob modiwl. Mae asesu hefyd yn sicrhau eich bod wedi cyflawni'r safon sy'n ofynnol i symud ymlaen i'r cam nesaf neu i fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad (fel y'i mynegir gan y FHEQ a'r CQFW). Mae asesiadau'n cefnogi'ch profiad dysgu trwy ddarparu cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn asesiadau ffurfiannol a chrynodol i brofi'ch gwybodaeth, eich gallu, eich sgil a'ch dealltwriaeth gritigol ac hefyd i ddatblygu eich sgiliau hanfodol perthnasol i'r gweithle. Asesir y modiwlau israddedig gan gyfuniad o fathau o asesu. Er enghraifft:

  • gwaith cwrs ysgrifenedig
  • cyflwyniadau poster
  • cyflwyniadau llafar
  • portffolios
  • arholiadau gyda llyfrau a rhai heb lyfrau
  • sgiliau ymarferol
  • gweithgareddau eraill a gynlluniwyd i asesu, datblygu a gwella sgiliau academaidd a chyflogadwyedd.

Disgwylir i chi gwblhau prosiect terfynol fel rhan o'r asesiad o'ch gradd anrhydedd. Mae prosiectau terfynol yn ddarnau pwysig o waith a allai fod yn brosiect ymchwil, arloesi, ymgynghori neu'n seiliedig ar y gymuned.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Rhaid bod ymgeiswyr wedi pasio, ar eu hymgais gyntaf, yr holl fodiwlau yng nghyfnod canolradd eu hastudiaethau meddygol. Rhaid i ymgeiswyr hefyd gael cymeradwyaeth eu Hysgol Feddygol gyfredol.

Bydd graddedigion yn gallu cofrestru ar gyfer y Dystysgrif Cwblhau Hyfforddiant Arbenigol (CCST) a gymeradwywyd yn ddiweddar ym maes Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Rhaid bod ymgeiswyr wedi pasio, ar eu hymgais gyntaf, yr holl fodiwlau yng nghyfnod canolradd eu hastudiaethau meddygol. Rhaid i ymgeiswyr hefyd gael cymeradwyaeth eu Hysgol Feddygol gyfredol.

Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr heb fod â Saesneg fel eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais ac am y cymwysterau Iaith Saesneg ewch i'r tudalennau rhyngwladol ar y wefan.

Gweithdrefn Ddethol:
Yn y lle cyntaf, fe’ch cynghorir i gysylltu â chyfarwyddwr y rhaglen (gweler ‘Cysylltu â ni’). Yna dylid gwneud cais trwy UCAS. Sylwer, er mai dyddiad cau 'Ystyriaeth Gyfartal’ UCAS ydy Ionawr 15fed, bydd ceisiadau'n dal i gael eu hystyried hyd at ddechrau'r rhaglen.

Dydyn ni ddim yn cynnig Diwrnodau Agored penodol ar gyfer y rhaglen hon ond, trwy Gyfarwyddwr y Rhaglen, gallwch drefnu ymweliad anffurfiol i gwrdd ag aelodau staff a gweld y cyfleusterau.

Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud cais am y cwrs hwn ar-lein i UCAS ar www.ucas.com. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais.

Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) a Throsglwyddo Credydau i flwyddyn 2 a 3

Os oes diddordeb gyda chi mewn trosglwyddo credydau o sefydliad arall i astudio ym Met Caerdydd am gwrs sy’n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a/neu 3 cewch ragor o wybodaeth am hyn a sut i wneud cais ar y dudalen RPL. Cysylltwch â’r Adran Dderbyniadau os oes gennych unrhyw ymholiad am Gydnabod Dysgu Blaenorol.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu drwy e-bost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol am y cwrs, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Chris Pugh:
E-bost:cjpugh@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2020 5293

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Cod UCAS: C605

Lleoliad yr Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Un flwyddyn llawn amser.

Gweler hefyd:​
Canllaw Byr i Raddau Cydberthynol

Gwybodaeth Bellach
Cyfleusterau Chwaraeon

Mae’r Brifysgol yn parhau i fuddsoddi yn ei chyfleusterau chwaraeon o safon fyd-eang ar gampws Cyncoed i wella perfformiad a datblygiad academaidd ein holl fyfyrwyr.