Skip to main content
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>Cyrsiau>Meistr Gwyddor a Thechnoleg Bwyd - MSc/PgD/PgC

Gradd Meistr Gwyddor a Thechnoleg Bwyd - MSc/PgD/PgC

​​

Mae’r diwydiant bwyd yn y Deyrnas Unedig wedi datblygu enw da byd-enwog am gynhyrchu cynhyrchion iachus o ansawdd eithriadol. Er mwyn cynnal y sefyllfa hon yn y farchnad fyd-eang, mae’n hanfodol bod y gweithlu yr un mor gymwys a medrus iawn.

Mae’r Radd Meistr mewn Gwyddor Bwyd a Thechnoleg ym Met Caerdydd wedi’i chynllunio i roi hyfforddiant proffesiynol i chi sy’n cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol gynhwysfawr ym meysydd gwyddor bwyd a thechnoleg bwyd. Mae’n ddelfrydol i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n ceisio ehangu eu rhagolygon gyrfa i ystod eang o rolau gweithgynhyrchu bwyd, masnachol, llywodraeth neu ymchwil ym maes eang gwyddoniaeth bwyd a thechnoleg bwyd.

Bydd myfyrwyr yn cael tasgau i ddatblygu a chryfhau eu sgiliau gwybodaeth, arweinyddiaeth, ymchwil a datrys problemau er mwyn ymateb i’r heriau byd-eang sy’n gysylltiedig â phob agwedd ar y diwydiant bwyd, o fferm i fforc.

Mae’r Brifysgol yn gartref i Ganolfan Diwydiant Bwyd Zero2Five, canolfan ragoriaeth flaenllaw sy’n rhoi cymorth technegol, gweithredol a masnachol i fusnesau bwyd i’w galluogi i gystadlu’n fwy effeithiol. Mae gan y Ganolfan enw da yn rhyngwladol am ymchwil diogelwch bwyd ac mae’n darparu arbenigedd, hyfforddiant a chyngor i’r diwydiant bwyd, a bydd myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r radd hon yn elwa o’r cysylltiad agos a’r arbenigedd gan y Ganolfan a staff.

Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfle i gwblhau Prosiect lleoliad diwydiant am hyd at 6 mis. Gweler yr adran Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd am ragor o fanylion.

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

​​Cynnwys y Cwrs

Mae gan y rhaglen MSc Gwyddor a Thechnoleg Bwyd ddau lwybr arbenigol – Arloesi a Datblygu Bwyd, a Rheoli Diogelwch Bwyd. Mae’r ddau lwybr yn rhannu’r holl fodiwlau craidd. Bydd y llwybr a ddewiswch yn pennu’r 2 fodiwl arbenigol y byddwch yn eu hastudio. Bydd angen i chi nodi’r llwybr yr hoffech ei astudio pan fyddwch yn gwneud cais.​

Mae Modiwlau Craidd yn cynnwys:

  • Diogelwch Bwyd Byd-eang
    Nod y modiwl yw paratoi myfyrwyr ar gyfer gofynion y diwydiant bwyd o ran diogelwch bwyd a dangos dealltwriaeth o sut mae diogelwch bwyd yn cael ei reoli yn fyd-eang.
  • Systemau Rheoli Ansawdd Bwyd Byd-eang
    Deall egwyddorion Systemau Rheoli Ansawdd, a chynlluniau ardystio trydydd parti ​GFSI a’u rôl a’u cymhwysiad yn y diwydiant bwyd.
  • Cydymffurfiaeth Cynnyrch Bwyd Byd-eang
    Mae’r modiwl hwn yn archwilio cysyniadau mewn polisi bwyd byd-eang ac yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu cymhwysedd ym maes fframweithiau bwyd cenedlaethol a rhyngwladol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth cynnyrch. Mae myfyrwyr yn gwerthuso ac yn llywio ymatebion polisi a chyfreithiol i faterion cyfredol a materion sy’n dod i’r amlwg o ran cydymffurfiaeth cynnyrch bwyd gyda ffocws ar gynaliadwyedd.
  • Dulliau a Dyluniad Ymchwil Cymhwysol
    Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil er mwyn cymhwyso egwyddorion ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a dylunio a chynnal prosiectau ymchwil cadarn.
  • Prosiect a Chynllunio Gyrfa
    Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddylunio a datblygu prosiect arbenigol uwch yn eu disgyblaeth i wella eu dysgu, eu gwaith neu eu hymarfer eu hunain a/neu eraill, ac i werthuso eu gwybodaeth, eu sgiliau, eu diddordebau a’u huchelgeisiau eu hunain i greu eu cynllun datblygu gyrfa personol eu hunain.
  • Prosiect​
    Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i weithio’n annibynnol i ymchwilio i faes yn eu disgyblaeth sy’n berthnasol i’w dysgu, gwaith neu ymarfer eu hunain, a chyflwyno a thrafod eu canfyddiadau, gan ddangos dealltwriaeth systematig ac ymwybyddiaeth feirniadol o’u disgyblaeth a’u maes o arfer proffesiynol.


Modiwlau Llwybr (dim ond UN llwybr y gellir ei dewis ac astudio’r modiwlau craidd yn unig):

Rheoli Diogelwch Bwyd

  • Rheoli Argyfwng
    Nod y modiwl hwn yw paratoi myfyrwyr i gymhwyso cysyniadau rheoli risg diogelwch bwyd a chyfathrebu mewn argyfwng i baratoi ac ymdrin â digwyddiadau ac argyfyngau diogelwch bwyd posibl a allai godi oherwydd gweithgynhyrchu bwyd.
  • Canfyddiad Risg, Asesu a Chyfathrebu
    Nod y modiwl yw galluogi’r myfyriwr i werthuso’r effaith y mae ystod eang o ffactorau gan gynnwys dylanwadau seicolegol a seicogymdeithasol yn ei chael ar ganfyddiad, asesu a chyfathrebu risg. Bydd y modiwl yn cynnwys adnabod peryglon, asesu risg, ffactorau lliniaru a’u heffaith gyffredinol ar ddiogelwch, iechyd a lles.


Arloesi a Datblygu Bwyd

  • Datblygu Cynnyrch Bwyd
    Mae’r modiwl hwn yn archwilio sut mae busnesau bwyd yn creu ac yn gwella gwerth cwsmeriaid trwy ddatblygu cynnyrch newydd ac arloesi. Ymdrinnir â gwerthusiad beirniadol o’r prosesau allweddol ac atodol sy’n ymwneud â’r broses datblygu cynnyrch bwyd, gan gynnwys diogelwch bwyd a’r paramedrau ansawdd sy’n ofynnol cyn y gellir lansio unrhyw gynnyrch. Cymhwyso gwybodaeth gwyddor bwyd wrth ddatblygu cynnyrch newydd gan ystyried oes silff, cynaliadwy, maeth, pecynnu.
  • Technoleg Prosesu
    Nod y modiwl yw datblygu’r defnydd o dechnoleg prosesu uwch yn y diwydiant bwyd. Mae’n gofyn am gymwysiadau ymarferol o wybodaeth dechnegol a gwerthuso prosesu bwyd yn ddiwydiannol. Yn benodol, bydd ymarferoldeb ac ymddygiad strwythurau bwyd cyfansawdd yn cael eu dadansoddi a’u gwerthuso gan ganolbwyntio ar ddatrys problemau o fewn diwydiant. Mae’r modiwl hwn yn gwella cymwyseddau myfyrwyr i roi’r ddamcaniaeth ar waith. Nod y modiwl yw mynd â myfyrwyr ar daith maes pan fo’n bosibl, er mwyn galluogi myfyrwyr i weld sut mae prosesu’n cael ei gymhwyso mewn bywyd go iawn a chael profiad o brosesu ar raddfa fawr.​


Dysgu ac Addysgu​

Cyflwynir cymysgedd cytbwys o theori ac ymarfer trwy ystod o ddulliau addysgu ar draws y rhaglen, gan gynnwys:

  • Gweithgareddau dysgu byw ar y campws – e.e., darlithoedd, seminarau, gweithdai/sesiynau ymarferol, gwaith grŵp wedi’i hwyluso, ac ati.
  • Gweithgareddau cymorth academaidd – e.e., sesiynau sgiliau academaidd, tiwtorialau pwnc, gweithdai asesu, goruchwylio ymchwil. Gellir cyflwyno’r rhain ar y campws neu ar-lein yn dibynnu ar ofynion y modiwl a’r rhaglen.
  • Gweithgareddau dysgu anghydamserol y mae myfyrwyr yn eu cwblhau yn eu hamser eu hunain – e.e., darlithoedd fideo wedi’u recordio ymlaen llaw, gweithgareddau dysgu wedi’u troi, tasgau paratoi ar gyfer seminarau, ac ati.


Bydd modiwl 20-credyd arferol a addysgir yn cynnwys tua 40-45 awr o weithgareddau addysgu cysylltiedig wedi’u hamserlennu, gan ddefnyddio cyfuniad o’r dulliau uchod. Bydd y rhan fwyaf o’r gweithgareddau dysgu hyn a drefnwyd yn digwydd ar y campws. Ochr yn ochr â’r gweithgareddau hyn sydd wedi’u hamserlennu, byddwch yn ymgymryd â’ch dysgu annibynnol eich hun – fel darllen ac ymchwil i baratoi ar gyfer seminarau neu asesiadau, gwaith grŵp heb oruchwyliaeth gyda chyd-fyfyrwyr, ymgysylltu â chymorth sgiliau academaidd, casglu data ar gyfer prosiectau unigol, ac ati.

Mae pwyslais cryf ar gymhwyso’r fframweithiau damcaniaethol i ddatrys problemau sy’n adlewyrchu natur gymhwysol y rhaglen, yn enwedig drwy sesiynau ymarferol. Cynlluniwyd y rhaglen i baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y diwydiant bwyd.

Rydym yn eich annog i gwrdd â staff academaidd yn rheolaidd drwy gydol y rhaglen i drafod adborth ar aseiniadau a datblygu sgiliau academaidd. Byddwch yn cael Tiwtor Personol ar ddechrau’r rhaglen, y gallwch weithio gyda nhw i ddatblygu eich sgiliau academaidd ac ystyried sut y gallwch integreiddio eich profiadau dysgu â’ch anghenion a’ch dyheadau datblygiad proffesiynol eich hun.

Asesu

Mae ein rhaglen a’n modiwlau wedi’u cynllunio i gynnig cyfleoedd ar gyfer tasgau ffurfiannol ac adborth i helpu i feithrin hyder a datblygu eich gallu i werthuso eich cynnydd eich hun. Rydym yn defnyddio tasgau asesu dilys sy’n eich galluogi i gymhwyso’ch gwybodaeth a’ch sgiliau i sefyllfaoedd, gweithgareddau a lleoliadau y deuir ar eu traws yn aml mewn ymarfer proffesiynol.

Mae’r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys:

  • Aseiniadau ysgrifenedig
  • Adroddiadau ymarferol/labordy
  • Cyflwyniadau llafar (unigol/grŵp)
  • Astudiaethau achos
  • Posteri
  • Portffolios proffesiynol
  • Prosiect ymchwil (traethawd hir)


I adlewyrchu natur gymhwysol eich astudiaethau, nid yw’r rhaglen yn cynnwys unrhyw arholiadau ysgrifenedig nas gwelwyd o’r blaen.

Rydym yn cynllunio ein hamserlen asesu yn ofalus er mwyn osgoi clystyru gormod o fathau tebyg o asesiadau, a therfynau amser realistig. Mae pob asesiad yn cynnwys briff manwl a meini prawf marcio wedi’u diffinio’n glir, sydd wedi’u datblygu a’u profi mewn partneriaeth â myfyrwyr.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd​

Mae’r rhaglen yn rhoi’r potensial i raddedigion symud ymlaen o fewn y diwydiant bwyd, manwerthu, llywodraeth neu addysg. Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi dod o hyd i waith yn rhai o brif fanwerthwyr y DU, gweithgynhyrchwyr bwyd rhanbarthol a rhyngwladol lleol, labordai bwyd, gwahanol sectorau o’r Llywodraeth a rolau cynghori ymgynghori.

Mae ein hasesiadau modiwl yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflogaeth yn y dyfodol neu dasgau cysylltiedig â gwaith, neu’n fwy cyffredinol â datblygiad y pwnc a’r proffesiwn, a’ch dyheadau chi. Bydd hyn yn eich galluogi i ddatblygu a dangos sut y cymhwysir eich gwybodaeth a’ch sgiliau i sefyllfaoedd proffesiynol yn y byd go iawn.

Cynllunio datblygiad gyrfa a chyfleoedd dysgu seiliedig ar waith

Yn y modiwl Prosiect a Chynllunio Gyrfa, byddwch yn ymgymryd â hunanwerthusiad adfyfyriol o’ch gwybodaeth, sgiliau, a phrofiadau, gan feincnodi’r rhain yn erbyn safonau disgyblaethol/fframweithiau cymhwysedd perthnasol. Byddwn yn eich cefnogi i werthuso eich cryfderau presennol a blaenoriaethu meysydd i’w gwella sy’n berthnasol i’ch nodau a’ch uchelgeisiau gyrfa eich hun.

Yn y modiwl Prosiect, gallwch ddewis cwblhau lleoliad diwydiant/prosiect dysgu seiliedig ar waith, gan ganolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau mewn cyd-destun proffesiynol cymhleth. Os dewiswch y prosiect hwn bydd angen i chi gael lleoliad addas (hyd lleiaf: 200 awr, hyd mwyaf 6 mis). Byddwn yn eich cefnogi i ganfod a chael profiad dysgu seiliedig ar waith priodol gan ddefnyddio ein rhwydwaith o gysylltiadau diwydiant. Ni allwn warantu cyfle lleoliad i bob myfyriwr, ac mae’n debygol y bydd llawer o gyfleoedd lleoliad yn cynnwys rhyw fath o broses recriwtio gystadleuol.

Neu efallai y byddai’n well gennych ddewis un o’r mathau eraill o brosiectau (e.e., ymchwil empirig, ymgynghoriaeth, menter/arloesedd, neu brosiect dylunio cynnyrch/ymyriad) a’i gwblhau mewn lleoliad gwaith, gan weithio mewn partneriaeth â chyflogwr neu sefydliad arall. Efallai mai eich sefydliad neu weithle eich hun yw hwn – dull cyffredin a ddefnyddir gan fyfyrwyr rhan-amser sy’n ymchwilio i brosiect sy’n cyd-fynd â’u harfer proffesiynol eu hunain.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf neu radd Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch mewn pynciau gwyddoniaeth a/neu dechnoleg berthnasol.

O dan rai amgylchiadau, bydd ymgeiswyr nad oes ganddynt radd gyntaf, ond sy’n gallu dangos profiad diwydiannol/proffesiynol perthnasol mewn disgyblaeth wydn hefyd yn cael eu hystyried.

Mae’n ofynnol i geisiadau rhyngwladol fodloni gofynion Saesneg y Brifysgol ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig.

Gweithdrefn Ddethol:
Bydd ymgeiswyr y bernir eu bod yn cyrraedd y trothwy mynediad gofynnol yn cael eu gwahodd i ymgymryd â thasg cyn cynnig a fydd yn eu galluogi i egluro ymhellach eu cymhellion dros ddewis y rhaglen, eu hangerdd am y pwnc, a’u dawn a’u hymrwymiad i astudio ar lefel meistr.

Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i’r brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth facility. Am wybodaeth bellach ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais yn www.metcaerdydd.ac.uk/sutiwneudcais.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd gan sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a/neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a’r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Cyfeiriwch at www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.

Ffioedd Rhan-amser:
Odir y taliadau fesul Modiwl Sengl oni nodir yn benodol:

Israddedig = 10 Credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd

Yn gyffredinol, gwelwn y bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn cwblhau 60 credyd y flwyddyn ar gyfer astudio Israddedig ac Ôl-raddedig; i gael gwir gost, eglurwch hyn trwy gysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen yn uniongyrchol.

Cysylltwch â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch directapplications@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau sy’n benodol i’r cwrs, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Anita Setarehnejad yn asetarehnejad@cardiffmet.ac.uk.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Man Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Llawn amser: 15 mis, gyda'r opsiwn i'w gwblhau mewn 12 mis. Yn cynnwys opsiwn i gwblhau prosiect lleoliad gwaith hyd at 6 mis.
Rhan amser: 3 blynedd