Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Disgyblion Ysgol Gynradd yn Dylunio Ap Llesiant

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn galw ar gymunedau i roi blaenoriaeth i lesiant, cynaladwyedd a mynediad i fannau gwyrdd. Ymatebodd tîm prosiect o Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd (CSESP) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i’r angen iechyd cenedlaethol hwn drwy gydweithredu’n agos ag ysgolion cynradd rhanbarthol i gefnogi ysgolion a rhieni i wella llesiant plant. Roedd yr Ap iValue U Wellbeing yn ganlyniad partneriaeth arloesol am flwyddyn rhwng tîm CSESP Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac ysgolion Cynradd ledled De Cymru. 

​Cafodd y prosiect, a ariannwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ei greu gan y Darlithwyr Nick Young, Dylan Adams, a Lisa Fenn a oedd yn poeni am yr amser cynyddol o flaen sgrin ymhlith plant ifanc, ac ymchwil a awgrymodd fod pobl ifancyng Nghymru yn teimlo’n ddatgysylltiedig yn emosiynol rhag natur.

Cafodd yr ap ei ddylunio mewn cydweithrediad â disgyblion o Ysgolion Cynradd Blaen-y-cwm, Maes yr Haul, Calon y Cymoedd a Deighton dan arweiniad myfyrwyr Addysg Gynradd Blwyddyn 2 ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Drwy gydol y prosiect, cymerodd y disgyblion ran mewn gwahanol ddosbarthiadau llesiant gyda’u cyd-ddisgyblion, fel ioga, ymwybyddiaeth ofalgar, gweithgareddau myfyrio amlsynhwyraidd, bibliotherapi, dawns ac addysgeg awyr agored. Hefyd cafodd staff ysgolion a rheini eu cynghori ar sut allai dulliau ymwybyddiaeth ofalgar gael eu hymgorffori mewn addysgu yn ogystal â bywyd bob dydd. Teimlai athrawon fod cymryd rhan yn y dosbarthiadau ymwybyddiaeth ofalgar hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau disgyblion. Hefyd defnyddiodd disgyblion y strategaethau ymdopi iach a ddysgant drwy’r rhaglen i gefnogi plant eraill.

Mae’r Ap iValue U Wellbeing ar gael i’w lawrlwytho o’r App Store. Mae’r Ap yn adnodd rhagorol am strategaethau llesiant meddyliol a chorfforol pobl ifanc, rhieni ac athrawon. Gallwch chi ddarllen mwy am y prosiect hwn yma a gwylio fideo am ddatblygiad a dyluniad yr Ap iValue U Wellbeing yma