Hafan>Ymchwil>Academïau Byd-eang

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi derbyn y teitl mawreddog Prifysgol y Flwyddyn 2021 gan y Times Higher Education. Mae hyn yn dilyn nifer o lwyddiannau, gan gynnwys cael ein henwi’n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru gan The Times a The Sunday Times Good University Guide 2021; yr ail gynnydd mwyaf yn y DU yn The Complete University Guide 2022; a chynnydd mwyaf erioed y sefydliad yn The Times a The Sunday Times Good University Guide 2021.

Roedd Met Caerdydd yn y safle uchaf o blith yr holl sefydliadau ôl-1992 yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diwethaf. Roedd ansawdd y cyfraniad a wnaed gan Met Caerdydd yn sylweddol, gyda chwarter o’r holl ymchwil yn cael ei nodi i fod yn ‘arwain y byd’ ac ymchwil 4* wedi’i nodi ym mhob uned asesu, gan amlygu effaith sylweddol Met Caerdydd ar yr economi, y gymdeithas, diwylliant a pholisi cyhoeddus ehangach./p>

Mae ein Hacademïau Byd-eang yn creu ac adeiladu ar ein llwyddiannau, gan ddwyn ein harbenigedd ymchwil ynghyd i ddatblygu dulliau rhyngddisgyblaethol, rhyngwladol ac effeithiol i rai o’r heriau mwyaf hirsefydlog sy’n effeithio arnom yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Trwy ddwyn ein cryfderau ym meysydd addysg, ymchwil ac arloesi ynghyd, ein nod yw helpu i wella’r byd o’n cwmpas mewn modd cydweithredol a thosturiol.

Croeso i'r Academïau Byd-eang

Mae Academïau Byd-eang Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ymdrechion cydweithredol a rhyngddisgyblaethol sy’n dod â’n cryfderau ymchwil, arloesedd ac addysgu at ei gilydd i gael mynd i’r afael â blaenoriaethau byd-eang heriol.

Drwy gynnig ystod o gyfleoedd dysgu ac ymchwil i raddedigion, nod yr Academïau Byd-eang yw ein gwella ni fel unigolion a gwella’r byd o’n cwmpas.

Iechyd a Pherfformiad Dynol; Gwyddor a Diogelwch Bwyd; a Dylunio Person-Ganolog yw ein tri Academi Byd-Eang. Mae rhagor o wybodaeth am yr academïau hyn ar gael isod.

Academy of Health and Human Performance







Deall rol potensial a pherfformaiad dynol wrth i'r afael aheriau byd-eang.

“Croesawodd Rob waith Help for Heroes ac roedd yn awyddus i ddatblygu ei ddealltwriaeth o'r cynnig i gyn-filwyr WIS (wedi'u clwyfo, eu hanafu neu sy'n sâl) yn Ne Cymru o'r cychwyn cyntaf. Arweiniodd yr awydd hwn at Rob gymryd rhan mewn ystod o sesiynau gweithgaredd corfforol ar draws y rhanbarth gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff wythnosol yn Hwb Help for Heroes Pen-y-bont ar Ogwr a sesiynau chwaraeon misol yn Hwb Help for Heroes Casnewydd. Roedd Rob yn gallu meithrin ymddiriedaeth cyn-filwyr a oedd yn cael eu cefnogi yn gyflym ac roedd hyn yn caniatáu iddo ymchwilio eu teimladau a'u hymddygiad o ran gweithgarwch corfforol." 

Help for Heroes PhD student

Darganfyddwch fwy

Food Science, Safety and Security

Cefnogi a datblygu safonau bwyd a'r gadwyn gyflenwi gyda golwg ar ddyfodol mwy cynaliadwy.

“Heb y cymorth gallaf ddweud yn onest na fyddwn yn rhedeg y busnes nawr. Mae eu cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy i mi, gan fod gen i incwm yn dod i mewn ar adeg pan na fyddai gennyf ddim byd fel arall. Rydw i wedi pobi gartref ers yn blentyn, ond mae gwneud hynny ar raddfa fawr ac i’r cyhoedd gael ei fwyta yn lefel hollol wahanol; mae cymaint i'w ystyried yn dechnegol ac o bwynt diogelwch bwyd — mae'n frawychus iawn. Ond gyda'r wybodaeth maen nhw wedi'i rhoi i mi, rwy'n teimlo cymaint yn fwy hyderus.”

Louise Waring, Y Gegin Maldod

Darganfyddwch fwy

Academy Human Centred Design

Tanio atebion arloesol i'n hanghenion cymdeithasol modern, gan roi pobl wrth galon dylunio.

Mae HUG yn ddyfais a ddatblygwyd gan ymchwilwyr yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd sy'n gwella bywydau pobl sy'n byw gyda dementia cyfnod hwyr ac sydd bellach yn cael ei ddefnyddio mewn cartrefi gofal ledled y DU.

“Mae’r HUG mae dod â hi (mam) yn ôl ataf eto. Mae'r gydnabyddiaeth, y gwenu, y hapusrwydd i gyd yn ymddangos i wedi dod yn ôl diolch i'r ddyfais fach meddal. “

Alison, Prif Ofalwr ar gyfer preswylydd sy'n byw gyda dementia


GLoabl Academy

Astudiaeth Achos ac Erthyglau

Darllen Ragor

GLoabl Academy

Datblygiad yr Academi
Byd-eang

Darllen Ragor

GLoabl Academy

Gyrru eich busnes yn ei flaen gyda'n ymchwil

Darllen Ragor