Ymchwil>Academïau Byd-eang>Support for Global Academy Development

Cefnogaeth i Ddatblygiad Academiau Byd-eang

Rydym yn darparu nifer o gyfleoedd cyllido mewnol drwy’r Academïau Byd-eang. Bydd y cyfleoedd hyn yn gofyn bod ein hacademyddion yn gweithio ar draws disgyblaethau i gael hyd i atebion ac i greu syniadau newydd a fydd yn mynd i’r afael â heriau a blaenoriaethau byd-eang. Nod y gronfa hon yw cefnogi datblygiad ceisiadau ar gyfer cyllid allanol i gael datblygu ymhellach ymchwil cydweithredol ein hacademyddion.