Ymchwil>Academïau Byd-eang>School of Hard Knocks

Sicrhau chwarae teg ar faes chwarae bywyd!

SOHK.pngDr Mikel Mellick, Seicolegydd Ymarferydd Cofrestredig, Prif Ddarlithydd mewn Iechyd Meddwl a Seicoleg Chwaraeon, CAWR (Canolfan Ymchwil ar gyfer Iechyd, Gweithgarwch a Lles), Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac Ymddiriedolwr SOHK (School of Hard Knocks UK). 


Cynhelir Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni ar adeg o bryder ariannol cynyddol, streiciau ar draws y wlad a’r cynnydd amlwg o ran yr heriau i les ar draws cymdeithas. Yn y cythrwfl yma, gall y Chwe Gwlad, a rygbi’n fwy cyffredinol, helpu i’n hatgoffa ni i gyd o’r rôl werthfawr sydd gan chwaraeon yn adeiladu cymunedau ‘iach’. Bydd rygbi ar ei orau yn hyrwyddo ymdeimlad o fod yn perthyn, o gael eich derbyn a bydd yn rhoi cyfleoedd i fwynhau drwy berthnasoedd ystyrlon a llawn pwrpas a chwarae strwythuredig. Llwyddir i wneud hyn, beth bynnag yw safle’r unigolyn yn y gymdeithas.   

Nid gwaith hawdd i lawer o glybiau rygbi yn y gymuned, yn debyg i lawer o deuluoedd, yw cadw’r llifoleuadau ymlaen a’r cawodau’n gynnes wrth i’r argyfwng costau byw barhau i gael effaith. Mae hyn mewn cyferbyniad llwyr â golygfeydd ‘perffaith’ Stadiwm y Principality neu Twickenham yn Lloegr a welwn dros y mis nesaf. Efallai gall y cyferbyniad llwyr hwn helpu i’n hatgoffa o’r diffyg cydraddoldeb sy’n parhau yn y gymdeithas y mae Covid wedi’i ddwysáu ynghyd â’r amodau ariannol heriol sy’n achosi pryderon i lawer.  

Mae SOHK (School of Hard Knocks), sy’n elusen yn y DU ac yn bartner ymchwil cydweithredol ar hyn o bryd o fewn CAWR (Canolfan Ymchwil ar gyfer Iechyd, Gweithgarwch a Lles) Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yn amlygu’r ffaith nad yw Bywyd yn faes chwarae teg a’u nod yw helpu i sicrhau bod y maes yn gydradd i bawb mewn cymdeithas – ond yn enwedig i’n plant.  
Yn ystod y tair blynedd diwethaf gwelwyd iechyd meddwl plant oed ysgol yn gwaethygu’n sylweddol. Mae mwy nag erioed o afiechydon gorbryder ynghyd ag ymddygiad hunan-anafu na fydd yn golygu hunan-laddiad ymhlith plant a phobl ifanc; mae ysgolion a gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned ar gyfer plant a phobl ifanc yn ei chael yn anodd cynnig cymorth amserol ar gyfer trawma o’r fath. Ymateb SOHK wrth sylwi’r dioddef cynyddol yma yw awydd syth a gwirioneddol i helpu’r ysgolion, y clybiau a’r cymunedau drwy gynnig rhaglenni datblygu sgiliau bywyd yn yr ysgolion. Drwy ddefnyddio model o les sy’n seiliedig ar gryfderau, mae rhaglen SOHK yn gweithio i gefnogi’r cyfranogwyr i symud o drawma i wytnwch.    
Mae Dr Mikel Mellick, Prif Ddarlithydd mewn Iechyd Meddwl ac arweinydd prosiect CAWR ar gyfer Astudiaeth Gwerthuso rhaglenni SOHK yng Nghymru a gyllidwyd gan Comic Relief, yn esbonio bod yr Elusen yn gweithio drwy The Trauma-Informed Practice Developmental Model (Carter & Blanch, 2019) i gael mynd i’r afael ag anghenion lles mewn ffordd sy’n systematig, wedi’i goleuo gan dystiolaeth, ac sy’n ystyrlon o dan lens cyfiawnder cymdeithasol. Meddai Dr Mellick  “Mae’n fframwaith datblygiadol ar gyfer Dull Wedi’i Oleuo gan Drawma er ymwybyddiaeth iechyd meddwl a lles, cymorth a newid ar lefel unigolyn, sefydliad (ysgol) a chymuned – yr egwyddor sylfaenol yw’r rhagdybiaeth bod profiad o drawma seicolegol blaenorol neu bresennol ym mhob un ohonon ni”.  

Gan gydnabod effaith trawma ar fywydau myfyrwyr, bydd SOHK yn defnyddio rygbi a gweithgareddau corfforol a gweithdai er mwyn hyrwyddo diogelwch seicolegol ac emosiynol, wedi’i rymuso drwy ddatblygu tasgau a fydd yn seiliedig ar sgiliau a sesiynau myfyrwyr unigol a grŵp positif wedi’u goleuo gan seicoleg. 

Meddai Siân Edwards, Myfyriwr PhD Met Caerdydd a Phrif Arbenigwr Ymddygiad presennol (SoHKs Cymru): “Byddwn yn darparu hyfforddiant ‘ymwybyddiaeth’ ar gyfer staff a myfyrwyr ysgolion am ba mor gyffredin y mae trawma a phrofiadau anffafriol mewn plant ysgol a’u heffaith ar lefelau lles myfyrwyr; byddwn yn archwilio gyda myfyrwyr y prosesau sy’n berthnasol er mwyn eu helpu i ddeall yn well egwyddorion trawma-wybodus, achosion, mynegiant, a ffyrdd er mwyn ymdopi’n well”. Drwy’r gwaith yma, bydd SOHK yn effeithio’n bositif hefyd ar newid diwylliant, trefn arferol a phrosesau er mwyn gostwng nifer y sbardunau yn yr ystafell ddosbarth sy’n gyfrifol am anesmwythyd seicolegol neu gamdriniaeth y myfyrwyr hynny sydd fwyaf agored i niwed.

 Mae Dr Mellick yn gofyn i ni “Wrth i ni wylio cyfnodau olaf y Chwe Gwlad eleni, allwn ni ymrwymo i beidio â gadael i’n hymdeimlad o dosturi a chyfiawnder cymdeithasol ein gadael pan fyddwn yn mynd drwy’r clwydi, yn troi’r teledu neu’r radio ymlaen – yn hytrach a allwn ni i gyd aros am eiliad i ystyried ein rôl ni yng ngwaith datblygu cymunedau sy’n trawma-wybodus ac sy’n ymatebol er mwyn sicrhau bod y maes chwarae yn deg ac yn fwy cydradd – yn enwedig i’n plant”.