Ariennir y prosiect PAY gan y
Cyngor Prydeinig, sy'n dod o dan un o genhadaethau graidd y sefydliad i 'annog cydweithrediad addysgol rhwng y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill, cefnogi datblygiad addysg y Deyrnas Unedig a safonau addysg dramor, a hyrwyddo addysg yn gyffredinol'. | | |
Manylion y prosiect
Mae’r prosiect yn gydweithrediad rhwng Met Caerdydd a Phrifysgol King Abdulaziz yn Saudi Arabia. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ‘Menywod a Merched mewn Seiber’ – ac yn dod â staff academaidd a myfyrwyr benywaidd o’r ddau sefydliad ynghyd i ymchwilio a sefydlu arfer gorau ar gyfer addysg seiberddiogelwch i Fenywod a Merched – lle maent yn cael eu tangynrychioli’n sylweddol ar hyn o bryd. Nod trosfwaol y prosiect PAY yw i Seiberddiogelwch a disgyblaethau cysylltiedig fod yn fwy hygyrch i fyfyrwyr benywaidd, yn y DU ac yn Saudi Arabia.
Nod hirdymor y prosiect yw sefydlu rhaglen ymchwil Ph.D. rhwng y ddau sefydliad a dargedwyd at Fenywod mewn Seiber.
Manylion Gweithredol
Dechreuodd y prosiect ym mis Ebrill 2023, a daeth i ben ym mis Mawrth 2023. Roedd y prosiect yn cynnwys cyfnewid staff a myfyrwyr PhD i hybu’r cydweithrediad ymchwil - darparu cyrsiau hyfforddi, seminarau ymchwil ar y cyd, datblygu sgiliau, a phrofiadau a fydd o fudd i fyfyrwyr benywaidd PhD yn eu gyrfaoedd.
Tîm y Prosiect PAY
Prif Ymchwilydd (CMet):
Dr Liqaa Nawaf
Cyd-Ymchwilydd (CMet):
Dr Chaminda Hewage
Cyd-Ymchwilydd (CMet):
Dr Fiona Carroll
Prif Ymchwilydd (KAU): Yr Athro Daniyal Alghazzawi (Pennaeth Grŵp Ymchwil Diogelwch Gwybodaeth yn KAU)
Cyd-Ymchwilydd (KAU): Yr Ahro Iyad Katib (Deon y Gyfadran Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth)
Manteision y Prosiect
Mae gan y prosiect fanteision amlwg i fenywod sydd am weithio ym maes Seiberddiogelwch, yn ogystal â galluogi cyfnewid myfyrwyr ôl-raddedig a fydd yn atgyfnerthu CVs y myfyrwyr dan sylw. Yn y tymor hir, bydd y rhaglen ymchwil PhD ar y cyd yn cael ei ddylunio yn seiliedig ar y fframwaith a ddatblygwyd yn y prosiect hwn.
Lluniau o’r ymweliadau
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect cysyllwtach â
Dr Liqaa Nawaf, lllnawaf@cardiffmet.ac.uk