Ymchwil>Academïau Byd-eang>Developing Our Education


Datblygu Ein Haddysg


Mae EDGE (Ethical, Digital, Global, Entrepreneurial) Met Caerdydd yn gyfres o sgiliau Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd sy'n datblygu hyder, gwydnwch a phrofiadau ac yn paratoi ein myfyrwyr ar gyfer bywyd wedi'r brifysgol ac i mewn i gyflogaeth. Bydd yr Academïau Byd-eang yn cynnwys EDGE Met Caerdydd yn ein rhaglenni a addysgir, yn ein hinterniaethau a'n dysgu drwy brosiectau fel y bydd ein myfyrwyr yn mynd allan i'r maes ac i'r gweithle yn rhan o'u gradd i gael cymhwyso'u dysgu academaidd i sefyllfaoedd go iawn yn y byd. Rydym yn rhoi persbectif byd-eang i'n myfyrwyr drwy ymchwil ac addysg a fydd yn canolbwyntio ar faterion byd-eang, gan ymestyn ar draws disgyblaethau a gwledydd i gynhyrchu effaith fyd-eang.  

Mae’r Academïau Byd-eang yn rhoi fframwaith i ni sy’n ein galluogi i ddangos sut bydd y gwaith ymchwil a’r addysg ym Met Caerdydd yn cyfrannu i’r heriau byd-eang. Drwy roi mynegiant i’n lle ninnau yn y byd, gallwn blannu’r feddylfryd fyd-eang yma yn ein myfyrwyr gan eu harfogi â’r wybodaeth a’r sgiliau y bydd eu hangen iddyn nhw gael gwneud gwahaniaeth.