Cofrestrfa Academaidd>HEAR>Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw'r HEAR?

Dogfen electronig yw’r HEAR (Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch) sy'n cofnodi canlyniadau academaidd, ochr yn ochr â gwobrau a gweithgareddau allgyrsiol wedi'u gwirio sy'n cyflawni ein Priodoleddau Graddedigion. Gallwch ddarllen rhagor am yr HEAR yn www.hear.ac.uk
Gallwch gyrchu eich HEAR drwy fynd i www.gradintel.com

Beth yw Gradintelligence/Gradintel?

Partner technoleg Met Caerdydd ar gyfer yr HEAR yw GradIntelligence, ac maen nhw’n gweithio gyda dros 40 o Brifysgolion.

Sut ydw i'n gweld fy HEAR?

Byddwn yn creu cyfrif Gradintelligence ar eich rhan ac yn anfon e-bost at eich cyfeiriad e-bost Met Caerdydd gyda dolen unigryw ichi.  Dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost i actifadu eich cyfrif.  

Pryd mae’r HEAR yn cael ei ddiweddaru?

Os ydych chi’n astudio gradd Israddedig, bydd yn cael ei ddiweddaru bob Blwyddyn Academaidd, tra diweddarir HEAR myfyrwyr Ôl-raddedig a Sylfaen ar ddiwedd eu hastudiaethau.

Beth ddylwn ei wneud os ydw i wedi anghofio fy nghyfrinair?

Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, gallwch ei ailosod yma. Os na allwch gofio'r enw defnyddiwr a'r cyfeiriad e-bost a ddewisoch wrth gofrestru eich cyfrif, anfonwch e-bost at Customerservices@gradintel.com 

Pwy fydd yn derbyn HEAR?

Myfyrwyr Israddedig, Ôl-raddedig a Gradd Sylfaen sy'n astudio ar un o'n campysau yng Nghaerdydd.

A fyddaf yn dal i gael Tystysgrif Gradd ar ddiwedd fy astudiaethau?

Bydd myfyrwyr sydd wedi cael eu dyfarnu'n llwyddiannus yn derbyn tystysgrif copi caled yn awtomatig rhwng pedair a deuddeg wythnos o ddyddiad y bwrdd arholi.  

A fyddaf yn dal i dderbyn copi papur o'm Trawsgrifiad?

Mae'r HEAR yn disodli'r trawsgrifiad ar gyfer pob Gradd Israddedig, Ôl-raddedig a Sylfaen ar y campws. Fodd bynnag, gellir prynu copi papur drwy ymweld â'n e-siop https://estore.cardiffmet.ac.uk/product-catalogue/academic-registry/official-documents-and-letters/registry-orders 

Faint mae'n ei gostio?

Darperir yr HEAR yn rhad ac am ddim. 

A fydd fy HEAR byth yn dod i ben?

Na, bydd eich HEAR ar gael am gyfnod amhenodol.

A fydd GradIntelligence yn derbyn fy nata personol?

Bydd Met Caerdydd yn rhannu eich data gyda GradIntelligence at ddiben cynhyrchu'r HEAR a’i wneud ar gael yn electronig yn unig. Mae GradIntelligence yn cynnig gwasanaethau eraill i fyfyrwyr cofrestredig a allai fod o ddiddordeb h.y. yr opsiwn i gyflwyno ceisiadau am gyfleoedd cyflogaeth a hysbysebir. 

Mae'r gwasanaethau hyn yn gwbl ddewisol, ac ni fydd unrhyw ddata’n cael ei drosglwyddo i gyflogwyr heb eich caniatâd. Ar ôl actifadu eich cyfrif, byddwch yn rhydd i nodi'r ffordd yr hoffech gael eich hysbysu am gyfleoedd.

Sut ydw i'n defnyddio fy HEAR i’m helpu i sicrhau cyflogaeth?

Byddwch yn gallu rhoi mynediad i ddarpar gyflogwyr i'ch HEAR o'r system GradIntel am gyfnod penodol o amser. 

A fydd fy HEAR ond yn dangos y modiwlau sy'n cyfrif tuag at fy Ngradd derfynol?

Bydd yr HEAR yn dangos yr holl fodiwlau a gymerwyd yn ystod eich astudiaethau. 

Os byddaf yn aros ym Metropolitan Caerdydd ar gyfer gradd meistr neu gymhwyster arall, a gaiff fy HEAR ei ddiweddaru?

Mae’r HEAR yn ymwneud ag un rhaglen astudio, os byddwch chi’n dewis parhau â'ch astudiaethau h.y. gradd meistr, byddwch yn derbyn ail HEAR.

Os byddaf yn astudio gradd meistr neu gymhwyster arall yn rhywle arall, a fydd gennyf 1 neu 2 gyfrif Gradintel?

Os bydd y sefydliad newydd yn cyhoeddi HEARs, bydd angen ichi gofrestru ar gyfer cyfrif newydd.

Gyda phwy ydw i'n cysylltu i gywiro data coll neu anghywir ar fy HEAR?

Gall myfyrwyr godi unrhyw ymholiadau drwy anfon e-bost at HEAR@cardiffmet.ac.uk
Dim ond unwaith y flwyddyn y bydd gweithgareddau a chanlyniadau academaidd yn cael eu diweddaru, felly efallai na fyddwch yn gweld diweddariadau ar unwaith.


Adran 6.1


 Beth sydd yn Adran 6.1 yr HEAR

Mae'r HEAR nid yn unig yn dangos cofnod academaidd myfyriwr ond hefyd yn dangos cofnod gwiriedig o Weithgareddau allgyrsiol a Gwobrau, a chynhwysir y rhain yn Adran 6.1 yr HEAR.

 

A allaf ddewis y wybodaeth a ddangosir yn Adran 6.1 yr HEAR?

Gallwch, mae'r system Gradintelligence yn caniatáu ichi ddewis pa rai o'ch Gweithgareddau Adran 6.1 i'w dangos neu eu cuddio. Os oes Gweithgaredd nad ydych am ei rannu â darpar gyflogwyr neu ddarparwyr astudiaethau ôl-raddedig, mae yna broses syml i’w guddio.

Pam nad oes gen i unrhyw beth wedi'i restru yn Adran 6.1?

Ni wnaethoch gymryd rhan yn unrhyw un o Weithgareddau gwiriedig Metropolitan Caerdydd nac ennill unrhyw Wobrau. Gallwch wirio'r rhestr gyfredol o Weithgareddau yma. Gallwch barhau i gymryd rhan mewn Gweithgareddau hyd at eich tymor olaf o astudio ym Metropolitan Caerdydd, a chael hynny wedi'i gydnabod ar eich HEAR.

Os ydych chi'n cymryd rhan mewn unrhyw Weithgaredd ar hyn o bryd y credwch y dylid ei restru, siaradwch â'r unigolyn sy'n rhedeg y Gweithgaredd neu cysylltwch â ni ar HEAR@cardiffmet.ac.uk. Caiff gweithgareddau eu gwirio ddwywaith y flwyddyn, a chyfrifoldeb Perchennog y Gweithgaredd yw darparu rhestrau cyfoes o fyfyrwyr sy'n gysylltiedig â'r Gweithgaredd hwnnw.

 

Cymerais ran mewn Gweithgaredd gwiriedig y llynedd, ond mae fy HEAR wedi'i ddiweddaru ac nid yw yno, gyda phwy y dylwn gysylltu i newid hyn?

Dylech gysylltu â HEAR@cardiffmet.ac.uk a fydd wedyn yn cysylltu â Pherchennog y Gweithgaredd. Hwn yw'r sawl sy'n gyfrifol am gynnal a chyflwyno cofnod cywir o'r rhai sy'n cymryd rhan yn y Gweithgaredd, er mwyn cadarnhau eich bod wedi cymryd rhan ynddo yn ystod y flwyddyn academaidd honno.