Cofrestrfa Academaidd>Graddio>Gwybodaeth am y Diwrnod a'r Lleoliad

Gwybodaeth am y Diwrnod a'r Lleoliad

Cyrraedd y Lleoliad

C. Erbyn pryd mae angen i mi gyrraedd y seremoni Raddio?

A. Bydd gofyn i chi fynd i mewn i’r awditoriwm 45 munud cyn amser cychwyn eich seremoni. Rhaid i fyfyrwyr ganiatáu digon o amser i wisgo a chael tynnu unrhyw luniau cyn y seremoni.

C. Mae angen i mi gasglu fy nhocynnau, i ble ydw i’n mynd?

A. Bydd Desg Dderbynfa Met Caerdydd yng nghyntedd y lleoliad. Gofynnwch i aelod o staff am gymorth.

Y Seremoni

C. Sut y byddaf yn gwybod beth i’w wneud yn ystod y seremoni?

A. Bydd ymarfer byr cyn i bob seremoni ddechrau. Peidiwch â phoeni, ni fyddwch yn mynd y ffordd anghywir yn ystod y seremoni, bydd marsialiaid yn eich tywys drwy gydol yr amser.

C. Beth ddylwn i’w gael gyda mi yn ystod y seremoni?

A. Rhoddir cerdyn enw i chi ar ddiwrnod eich seremoni a byddwch angen hwn er mwyn ymdeithio. Ar ôl i chi gael eich cyflwyno a’ch derbyn i’ch gradd, efallai na fyddwch yn dychwelyd i union yr un sedd ag yr oeddech chi’n eistedd ynddi ar y dechrau. Felly, ceisiwch osgoi cario bagiau llaw, camerâu ac ati gyda chi i’r awditoriwm. Gadewch eitemau o’r fath gyda’ch gwesteion.

C. A gaf i adael cyn gynted ag y byddaf wedi croesi’r llwyfan?

A. Na. Disgwylir i raddedigion eistedd yn yr awditoriwm trwy gydol y seremoni.

C. Pa mor hir mae’r seremoni yn para?

A. Mae’r seremoni yn para tua 2 awr.


Lleoliad

Cynhelir seremonïau yn:

Canolfan Mileniwm Cymru
Plas Bute
Bae Caerdydd
CF10 5AL
Cymru

Swyddfa Docynnau: 029 2063 6464

Gellir cael manylion ar sut i gyrraedd y lleoliad hwn ynghyd a pharcio ceir trwy’r ddolen ganlynol: www.wmc.org.uk/cy/eich-ymweliad/cyrraedd-yma