Dyddiad y Seremoni
C.
Pryd fydd fy Seremoni Raddio yn digwydd?
A. Mae dyddiad eich seremoni yn dibynnu ar y dyfarniad rydych chi’n ei ennill ac amser eich bwrdd arholi. Cynhelir y prif gyfnod graddio ym mis Gorffennaf bob blwyddyn.
Nid yw myfyrwyr yn cael y dewis o ba seremoni y maent am ei mynychu oherwydd y nifer uchel o fyfyrwyr sy’n graddio ym mhob seremoni.
Presenoldeb
C.
Sut mae cadarnhau fy lle yn y seremoni?
A. Mae’n ofynnol i fyfyrwyr lenwi’r ffurflen ar-lein trwy’r Porth Myfyrwyr i hysbysu Met Caerdydd os ydyn nhw’n dymuno mynychu’r seremoni neu os nad ydyn nhw’n gallu mynychu.
Ar gyfer pob seremoni mae dyddiad cau y mae’n rhaid cadw ato, gan na fydd Met Caerdydd yn gallu hwyluso unrhyw geisiadau hwyr oherwydd y nifer o geisiadau cyson am docynnau.
Dim ond un cyfle sydd gan fyfyrwyr i fynychu eu Graddio. Os na fyddwch yn archebu eich lle erbyn y dyddiad cau, ni fyddwch yn gallu dod i’ch seremoni a byddwch yn cael eich graddio’n absennol. Ni fyddwch wedyn yn gymwys i raddio mewn unrhyw seremonïau yn y dyfodol ar gyfer y wobr honno
C.
Pam llenwi’r ffurflen os nad wyf am fynychu’r seremoni?
A. Rydym yn defnyddio’r manylion ar y ffurflen i sicrhau bod eich tystysgrif yn cael ei hanfon i’r cyfeiriad cywir.
C.
A fydd hyn yn gwarantu fy lle yn y seremoni?
A. Bydd, cyn belled â’ch bod yn llwyddo i basio pob elfen o’r rhaglen y cawsoch eich cofrestru arni yn wreiddiol. Wrth gyflwyno’ch ffurflen wedi’i chwblhau fe welwch neges ar frig eich sgrin ar borth y myfyriwr.
C.
Beth os byddaf yn newid fy meddwl ynglŷn â mynychu?
A. Os ydych wedi ateb yn dweud nad ydych am fynychu’r seremoni yna ni chewch newid eich meddwl unwaith y bydd y dyddiad cau wedi mynd heibio.
Os ydych wedi ateb yn dweud eich bod yn dymuno mynychu ond yn methu â gwneud hynny, e-bostiwch
graduation@cardiffmet.ac.uk i’n hysbysu o’ch penderfyniad.
C.
Rwyf wedi astudio mewn Coleg Partner (e.e., Ysgol Fasnach Llundain neu ICBT), ydw i neu fy ngwesteion angen llythyr at ddibenion fisa.
A. Defnyddiwch y Ffurflen Gais am Fisa Myfyriwr Partner sydd ar gael ar y tudalennau gwe Graddio.
Tocynnau
C.
Faint o docynnau sydd gen i hawl iddyn nhw?
A. Rydym yn gwarantu 2 docyn gwestai yr un (nid yw hyn yn cynnwys yr un sy’n graddio).
Mae ceisiadau am docynnau gwestai ychwanegol yn dibynnu ar gapasiti’r lleoliad a’r ymateb a gawn gan fyfyrwyr sy’n dymuno mynychu’r seremoni.
Bydd tocynnau’n cael eu hanfon trwy e-bost i’ch cyfrif myfyriwr Met Caerdydd a chyfeiriad e-bost personol trwy system Argraffu yn y Cartref. Os bydd tocynnau ychwanegol ar gael, bydd manylion am sut i’w cael yn cael eu hanfon gyda’r tocynnau.
Argraffwch eich tocynnau a dewch â nhw gyda chi i’ch seremoni.
C.
A fydd fy nhocynnau’n cyrraedd mewn pryd os ydw i’n byw dramor?
A. Bydd tocynnau’n cael eu hanfon trwy e-bost i’ch cyfrif myfyriwr Met Caerdydd a chyfeiriad e-bost personol trwy system Argraffu yn y Cartref. Argraffwch eich tocynnau a dewch â nhw gyda chi i’ch seremoni.
C.
Nid wyf wedi derbyn fy nhocynnau graddio.
A. Ni ddyrennir tocynnau tan yr wythnos cyn y seremoni, oherwydd bod byrddau arholi yn dal i ddigwydd hyd at y seremoni raddio. Gofynnwn i bob un sy’n graddio i fod yn amyneddgar.
Seddi
C.
Beth ddylwn i’w wneud os oes gan unrhyw un o’m gwesteion ofynion eistedd arbennig?
A. Rydym yn gofyn am yr holl wybodaeth am fyfyrwyr a gwesteion sydd â gofynion eistedd arbennig ar y ffurflen ar-lein – mae’n bwysig eich bod yn ein hysbysu ymlaen llaw.
C.
A fydd fy ngwesteion yn gallu eistedd gyda mi?
A. Na. Mae graddedigion a gwesteion yn eistedd ar wahân a rhaid iddynt eistedd yn eu seddi penodedig.
C.
A allaf eistedd yn unrhyw le?
A. Na. Byddwch yn derbyn tocyn gyda rhif eich sedd. Mae’r trefniadau eistedd wedi’u cynllunio fel eich bod chi’n cyrraedd y llwyfan pan fydd eich enw’n cael ei alw – yn ôl y drefn sydd wedi’i hargraffu yn y rhaglen.
Gwesteion
C.
A oes darpariaeth ar gyfer gwesteion anabl?
A. Mae lifftiau ym mhob lleoliad Graddio i gario pobl â phroblemau symudedd.
C.
A allaf fynd â phlant i’r seremoni?
A. Oherwydd hyd y seremoni nid ydyn yn argymell i blant fynychu, fodd bynnag bydd angen tocyn ar gyfer unrhyw blentyn sydd dros 2 oed.