Masnachfraint
Rhaglen a ddatblygwyd ac a ddilyswyd i ddechrau i'w chyflwyno yn y Brifysgol ac a gyflwynwyd wedi hynny mewn sefydliad partner. Gellir caniatáu addasiadau cyfyngedig, cymeradwy i raglenni rhyddfraint a ystyrir gan y Brifysgol sy’n adlewyrchu cyd-destun lleol y sefydliad sy'n cydweithredu.
Wedi'u dilysu
Rhaglen a ddatblygwyd gan y sefydliad sy'n cydweithredu ac a gymeradwywyd gan y Brifysgol i'w chyflwyno yn y sefydliad hwnnw. Yn y ddau uchod, staff y sefydliad sy'n cydweithredu sy'n cyflwyno'r rhaglen fel rheol, er y gallai staff y Brifysgol gyflawni rhywfaint o’r gwaith mewn rhai achosion.
Masnachfraint estyn allan
Rhaglen a ddatblygwyd ac a ddilyswyd yn y Brifysgol a gyflwynir mewn sefydliad heblaw'r Brifysgol gan staff y Brifysgol neu gyfuniad o staff Prifysgol Metropolitan Caerdydd a staff partner.
Mae'r Brifysgol hefyd yn gweithredu trefniant Cymedroli Allanol lle mae staff y Brifysgol yn darparu arweiniad sicrhau ansawdd ac yn chwarae rôl ddatblygiadol gyda phartner. O dan y trefniant hwn nid yw'r myfyrwyr yn cael eu cofrestru gyda'r Brifysgol.
I ganfod mwy am bartneriaid Prifysgol Metropolitan Caerdydd a'u darpariaeth yng Nghymru, Lloegr neu dramor, defnyddiwch y ddewislen ar yr ochr chwith. I gael rhestr lawn o'n partneriaid a'r cyrsiau a gyflwynir gweler ein
Register of partnerships and collaborative provision.
Mae'r Brifysgol hefyd yn rhoi gwybodaeth i bartneriaid sy'n ymwneud â'r amrywiol brosesau a swyddogaethau sy'n gysylltiedig â chydweithrediad llwyddiannus trwy'r
Collaborative Provision Handbook.