Hafan>Sefydliadau Partner>Adnoddau Partner

Adnoddau Partner

​Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd amrywiaeth o wahanol adnoddau ar gyfer staff yn ein sefydliadau partner. Mae'r adnoddau hyn yn cynnwys eitemau fel:

  • Llawlyfr Darpariaeth Gydweithredol
  • Templedi dogfennau 
  • Dogfennau canllawiau a chymorth
  • Prosesau
  • Mynediad i'r Llyfrgell / e-Adnoddau
  • Adnoddau'r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu
  • Cefnogaeth astudio
  • Cymorth a chymhorthion i fyfyrwyr

Os oes gennych ID defnyddiwr a chyfrinair Prifysgol Metropolitan Caerdydd yna cysylltwch â partnerships@cardiffmet.ac.uk a allai roi cymorth ar sut i gael gafael ar yr hyn sydd ei angen arnoch.

Cwestiynau cyffredin

Mae gen i gyfrif Prifysgol Metropolitan Caerdydd ond mae'n dweud bod mynediad yn cael ei wrthod i mi.

Mae hyn yn debygol o fod yn gysylltiedig â'r ffaith fod eich cyfrinair yn dod i ben. Rhaid i bob defnyddiwr newid ei gyfrinair bob 90 diwrnod. Ar ôl hyn mae'r cyfrinair yn darfod. Gellir newid cyfrineiriau trwy'r dudalen rheoli cyfrinair.

Os oes gennych unrhyw broblemau wrth newid eich cyfrinair yna cysylltwch ag ITHelpdesk@cardiffmet.ac.uk a byddan nhw’n gallu eich helpu.

Rydw i wedi anghofio fy ID defnyddiwr/cyfrinair ar gyfer Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae’n bosibl i aelodau’r staff ailosod eu cyfrinair trwy anfon côd i'w ffôn symudol neu eu cyfeiriad e-bost. Cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth hwn trwy'r dudalen rheoli cyfrinair.
Dylai staff nad ydyn nhw’n gallu cofio eu henw defnyddiwr gysylltu ag ITHelpdesk@cardiffmet.ac.uk i gael cymorth.

Does gen i ddim ID defnyddiwr/cyfrinair ar gyfer Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Os ydych chi'n aelod staff mewn sefydliad partner - academaidd neu weinyddwr - a'ch bod chi'n ymwneud â chwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yna cysylltwch â'ch cyswllt yn y sefydliad lleol. Bydd angen i chi roi'ch enw llawn, eich cyfeiriad e-bost a'ch dyddiad geni. Yna byddwn yn gweithio gyda'r cyswllt i gymeradwyo a chreu eich cyfrif.