Barn | 4 Tachwedd 2021
Gan
Dr Dylan Adams, Uwch Ddarlithydd mewn Addysg, Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd a Chantelle Haughton, Wwch Ddarlithydd, Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd a Cymrawd Addysgu Cenedlaethol.
Dyma'r teitl deniadol a roddwyd inni fel gwahoddiad i ysgrifennu darn am yr argyfwng hinsawdd ac addysg. Fel darlithwyr a chyn-ymarferwyr addysg blynyddoedd cynnar a chynradd, gallem roi ein trafodaeth fer yng nghyd-destun y paramedrau hyn. Fodd bynnag, teimlwn fod yr hyn sydd i ddilyn yr un mor berthnasol i bob oedran mewn addysg ac, yn wir, i fodau dynol yn gyffredinol.
Yn hytrach na gofyn "pryd yw'r amser gorau..." teimlwn y byddai'n bwysicach gofyn, "pa safbwynt ar amser sydd ei angen i'n hatal rhag Dydd y Farn ecolegol?" Llywodraethir addysg brif ffrwd yng nghymdeithasau modern y Gorllewin gan y cloc. Mae'r safbwynt cul hwn ar amser nid yn unig yn arwain at ganlyniadau ecolegol enbyd, mae hefyd yn adlewyrchu golwg gyfyngedig ar y byd sy'n gwyrdroi ein cyflwr dilys o fod ac yn torri'n cysylltiad â rhythmau ein planed. A yw'n syndod felly ein bod ni'n byw mewn cyfnod apocalyptaidd yn wynebu trychineb hinsoddol bygythiol? Syndod, wrth gwrs, yw un o golledigion y gwyrdroi ontolegol hwn. Ys dywed Nhat Hanh (2013), rydym yn byw bywydau cynyddol ynysig, "heb gysylltiad â ni ein hunain, ein teulu, ein hynafiaid, y Ddaear, na rhyfeddodau bywyd mwyach" (t.28).
"Daw hyn â ni at ein prif alwad i uno dros addysg: i wella ein perthynas â'r Ddaear a'n hail-ymaelodi ni fel rhan o'r byd naturiol."
Mae plant yn eu blynyddoedd cynnar yn llawn dop o ryfeddod, yn hydrin ac, yn eu gwylltineb naturiol, yn trosesgyn crafangau'r cloc yn hapus. Eto, yn eironig, addysgir disgyblion yn draddodiadol i ddal i fyny â chyflymder cynyddol y bywyd modern. Mae colli tir yn gyfystyr â methu a methu'n gyfystyr â cholli tir. Mae'r dawtoleg hon fel petai'n gartrefol yn y sloganau gwleidyddol a gynhyrchir gan y rheiny sydd wedi codi drwy sefydliadau addysgol elît ein tiroedd. Fodd bynnag, yn anffodus, esgeuluswyd y tir ei hun yn ein barn addysgol 'aeddfed'. Y mae'n un arall eto o golledigion yr olwg neoryddfrydol, gyfalafol ar y byd sy'n gweld natur fel adnodd ac sy'n cynnig cynhyrchu diddiwedd, cynnydd cyfrifadwy, targedau mesuradwy, a ffyddlondeb trachwantus i rymoedd y farchnad fel y feddyginiaeth ar gyfer pob anhwylder. Mae plant yn eu blynyddoedd cynnar yn gwneud eu gorau glas i osgoi'r grym hwnnw yn eu chwilfrydedd naturiol ac maent wrth eu bodd yn chwarae yn eu hamgylchedd naturiol a dysgu i ofalu amdano a'r creaduriaid sy'n byw ynddo. Mae Louv (2012) yn ail-alw am ein sylw i ddeall bod byd natur yn meithrin creadigrwydd, deallusrwydd, cysylltiad a thosturi.
Daw hyn â ni at ein prif alwad i uno dros addysg: i wella ein perthynas â'r Ddaear a'n hail-ymaelodi ni fel rhan o'r byd naturiol. Mae angen gwerthfawrogiad newydd radical arnom o bwrpas addysg. Ni fydd dim llai nac anrhydeddu ein natur ddilys a gwrthod cyflyrau niweidiol o fod yn ein dargyfeirio rhag y ffordd at yr affwys apocalyptaidd. Mae angen inni roi'r gorau i ganolbwyntio ar symptomau a thrin natur fel rhyw bilsen feddyginiaethol y gallwn ei chymryd i wella ein lles. Dim ond boddio'r patrymau cyffredinol a'r prif ddiwylliant llywodraethol sy'n credu y gallwn ddatrys ein problemau heb newid ein golwg neoryddfrydol a chyfalafol ar y byd a wna'r dulliau hyn. Yn lle hynny, mae angen inni gwestiynu union natur bod a'n perthynas â'r byd mwy-na-dynol.
Gall arferion myfyriol mewn addysg, sydd heb dargedau a diweddbwyntiau sydd eisoes mewn du a gwyn, adnewyddu addysg fel ffordd o geisio doethineb dirfodol. Gyda phosibiliadau'r Cwricwlwm Newydd i Gymru (Llywodraeth Cymru, 2021) â meysydd dysgu a phrofiad yn lle pynciau, gallwn darfu ar ein ffyrdd a'u hail-lunio. Canfuwyd gennym y gall gweithgareddau trochi ac ystyriol mewn mannau naturiol, ac o dan do hyd yn oed, sbarduno rhyfeddod bywyd ac ailgysylltu plant â'i gilydd a'r byd naturiol (Beauchamp et al., 2020). Er enghraifft, dengys tystiolaeth bod creu cerddoriaeth mewn mannau naturiol (Adams a Beauchamp, 2018; 2019) a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar mewn gwarchodfeydd natur (Adams a Beauchamp, 2021a; 2021b) yn rhoi'r profiadau gorau posibl i blant sy'n trosesgyn amser y cloc ac yn darparu ymdeimlad llawnach o'r hunan. Rhoddir yr enghreifftiau hyn gan eu bod nhw'n hawdd dod o hyd iddynt, er mae llawer o enghreifftiau eraill o addysgeg fyfyriol y gellid cyfeirio atynt. Fel yr eglura Sobel, y pwynt hollbwysig yw bod rhaid inni alluogi plant i "garu'r ddaear cyn inni ofyn iddynt ei hachub" (Sobel, 2013, t.47). Fel arall, fe allem addasu'r ddadl i hyn: rhaid inni beidio â ffrwyno cariad naturiol plant at y Ddaear. Rhybuddiodd Van-Matre (1984) fod angen inni ail-ffocysu nid ar gael ein caru ond yn hytrach ar sut i fod yn gariadus a sut i fod yn fwy cariadus i'n Daear. Myfyriodd Beauchamp et al (2021) ar sut mae ymdeimlad o ddycnwch yn ymddangos ac yn effeithio ar gysylltiad pan fydd plant wedi ymgolli yn y tywydd, tirwedd, tir mwdlyd pantiog a chân yr adar. Gall caniatáu i'n plant, a ni ein hunain, wrando ar guriad calon y Ddaear roi mynediad i realiti dwysach a dilys sy'n datgelu'r byd mwy-na-dynol fel perthynas cysegredig inni gyd. Felly, bydd ein blaenoriaethau'n newid unwaith y byddwn mewn cytgord â'n planed. Nid yn unig i achub y Ddaear, neu i'n hachub ninnau, ond i ail-gofio pwy ydym ni.
Cyfeiriadau
Adams, D., a Beauchamp, G. (2021a). Other knowings and experiencing otherness: Children's perspectives of playing a hunting game in a nature reserve. Australian Journal of Environmental Education, 1-16.
DOI:10.1017/aee.2021.10
Adams, D., a Beauchamp, G. (2021b). A study of the experiences of children aged 7-11 taking part in mindful approaches in local nature reserves. Journal of Adventure Education and Outdoor Learning, 21(2), 129-138.
DOI:10.1080/14729679.2020.1736110
Adams, D., a Beauchamp, G. (2019). Spiritual moments making music in nature. A study exploring the experiences of children making music outdoors, surrounded by nature. International Journal of Children's Spirituality, 24(3), 260-275.
DOI:10.1080/1364436X.2019.1646220
Adams, D., a Beauchamp, G. (2018). Portals between worlds: a study of the experiences of children aged 7-11 years from primary schools in wales making music outdoors. Res. Stud. Music Educ. 40, 50–66.
DOI:10.1177%2F1321103X17751251
Beauchamp, Davis, Haughton, Adams et al., yn Williams-Brown, Z a Mander, S (2021) Childhood Well-Being And Resilience Llundain: David Fulton.
Louv, R (2012) The Nature Principle North Carolina: Algonquin Books.
Nhat Hanh, T. (2013). Love letter to the earth. Berkeley, CA: Parallax Press.
Van-Matre, S (1984) The Earth Speaks IL: Earth Education.