Hafan>Newyddion>Pam mae gan brifysgolion gyfrifoldeb i ddod â'u cenhadaeth ddinesig yn fyw a helpu i lunio cymdeithas mewn ffordd gadarnhaol

Pam mae gan brifysgolion gyfrifoldeb i ddod â'u cenhadaeth ddinesig yn fyw a helpu i lunio cymdeithas mewn ffordd gadarnhaol

​Barn | 14 Ebrill 2023

Gan Dr Clare Elmi-Glennan, Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg

Mae gan bob prifysgol gennad ddinesig. Mae’n rhan annatod o gyfansoddiad y sefydliad, a gellir ei defnyddio fel marciwr ar gyfer sicrhau bod prifysgolion yn berthnasol ac yn hygyrch i’r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt. Mae gan brifysgolion gyfrifoldeb i gyfoethogi lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal leol maent yn gwasanaethu. Ond yn fwy na hynny, mae gan y sector addysg uwch gyfle unigryw i gyfuno addysg, gwaith ymchwil ac ymgysylltu er budd ehangach cymdeithas.

Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ein cennad ddinesig yw un o’r blaenoriaethau allweddol yn ein Strategaeth 2030 newydd, a lansiwyd ddiwedd y llynedd. Fel prifysgol, rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â’n myfyrwyr, staff a phartneriaid i gyfoethogi eu bywydau a bywydau’r cymunedau a’r economïau y maent yn perthyn iddynt. Ategir y gwaith o gyflawni ein Strategaeth 2030 newydd gan bwrpas, effaith a thosturi – y sbardunau y tu ôl i bopeth a wnawn.

Felly sut ydym ni’n dod â’r gennad ddinesig hon yn fyw ar draws ein campysau bob dydd ac yn helpu i siapio cymdeithas mewn ffordd gadarnhaol?

Fis diwethaf, daethom i ddiwedd cwrs achrededig chwe wythnos o hyd gydag 14 o ffoaduriaid a cheiswyr lloches o Gaerdydd, yn dilyn cynllun peilot ysgol haf llwyddiannus gyda 15 arall o geiswyr lloches. Fel rhan o Allgymorth Dysgu Oedolion Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â fy nghydweithiwr Dr Heidi Seage, Prif Ddarlithydd mewn Seicoleg Iechyd, mae hyn yn cynnig carreg gamu lwyddiannus i addysg uwch i’r rheini sy’n wynebu rhwystrau cymdeithasol o ran symud ymlaen i raglenni prifysgol. Darparodd y cwrs diweddaraf hwn, mewn Seicoleg, flas ar astudio mewn sefydliad addysg uwch ar gyfer pobl sydd wedi’u dadleoli, gan alinio â chennad ddinesig a gwerthoedd Met Caerdydd.

Mae’n dilyn wyth mlynedd lwyddiannus o raglenni Allgymorth Dysgu Oedolion a ddatblygwyd gyda thîm Ehangu Mynediad Met Caerdydd. Nod mentrau o’r fath yw annog pobl alluog, sydd un ai’n wynebu rhwystrau cymdeithasol neu nad oes ganddynt y cymwysterau gofynnol, i symud ymlaen i addysg uwch. Dyluniwyd y cyrsiau yn wreiddiol fel rhai heb eu hachredu, ond dangosodd ymgynghoriad â phartneriaid cymunedol, staff ehangu mynediad a dysgwyr y byddai cyflwyno cyrsiau achrededig o fwy o fudd i’r gymuned. Trwy ganiatáu i ddysgwyr gronni credydau, byddai mwy o gyfleoedd dysgu hygyrch i fyfyrwyr difreintiedig symud ymlaen i addysg uwch ar gyflymder mwy rhesymol.

Mae’r modiwlau hyn yn hwyluso dilyniant di-dor o ddysgu cymunedol heb ei achredu i astudiaethau israddedig trwy bontio’r bwlch o un i’r llall. Heb y cam nesaf hwn o ddysgu byr achrededig yn y gymuned, ni fyddai cannoedd o fyfyrwyr wedi gallu gwneud y naid i astudiaethau israddedig addysg uwch. Mae gan lawer o ddysgwyr sy’n oedolion y potensial academaidd i lwyddo ym Mhrifysgol Met Caerdydd, ond mae angen iddynt feithrin eu hyder a’u profiad sgiliau astudio cyn mynediad.

Mae’r cwrs Allgymorth Dysgu Oedolion cychwynnol mewn Seicoleg, a ddyluniais a’i gyflwyno yn ôl yn 2015, wedi bod yn arloesol ac wedi ennill gwobrau, ac o ganlyniad mae’n awr gennym ddetholiad o fodiwlau achrededig – o Gymdeithaseg, Adweitheg a Newyddiaduraeth i Anatomeg a Ffisioleg – ar draws y Brifysgol sy’n rhoi’r sgiliau i ddysgwyr symud ymlaen mewn bywyd. Mae’r rhaglen yn cael effaith brofedig, yn aml yn rhoi’r hyder i unigolion wneud cais am gwrs israddedig neu gyflogaeth.

Rhan gynhenid o’n cyfrifoldeb dinesig a chymdeithasol yw dileu rhwystrau rhwng y sefydliad a’r gymuned. Ond wrth weithio gydag unigolion sydd â diffyg hunanhyder a hunanwerth, ni allwn gymryd yn ganiataol y byddant yn dod atom ni. O ganlyniad, mae ein tîm Ehangu Mynediad wedi meithrin perthnasoedd pwysig a gwerthfawr gyda phartneriaid, gan gynnwys cymdeithasau tai, hybiau cymunedol ac elusennau penodol fel OASIS sy’n cefnogi ceiswyr lloches.

Mae’r partneriaethau hyn wedi ein dysgu, wrth gyflwyno’r rhaglen Allgymorth Dysgu Oedolion, nad yw’r maes pwnc yr ydym yn gweithio ynddo o bwys yn aml mewn gwirionedd. Y peth pwysicaf yw ein hagwedd at addysgu a’n dealltwriaeth bod gweithio’n effeithiol gyda’r gymuned ehangach yn golygu bod yn rhaid i ni gydnabod unigolion am bwy ydyn nhw a bod yn dosturiol am eu hamgylchiadau.

Mae yna grwpiau mewn cymdeithas sy’n cael eu gadael ar ôl, wrth i’r rheini sy’n cael eu haddysgu gael eu hunain mewn sefyllfa fwy ffodus i symud ymlaen mewn bywyd. Ein cennad ddinesig a’n cyfrifoldeb cymdeithasol, wrth weithio gyda’r gymuned yr ydym yn gweithredu ynddi, yw cefnogi’r unigolion hyn a pheidio â’u hesgeuluso. Mae hyn yn rhoi pwrpas i ni ac, yn y pen draw, yn caniatáu i ni gael effaith economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ar ein cymuned.

Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf fel colofn ‘University View’ yn The Western Mail.