Newyddion | 27 Mehefin 2024
Croesawodd Met Caerdydd dros 400 o aelodau’r cyhoedd i ddiwrnod cymunedol blynyddol yr Ysgol Celf a Dylunio ar ddydd Sul 9 Mehefin.
Yn rhan o Sioe Haf yr Ysgol, sy’n tynnu sylw at waith myfyrwyr o bob rhan o’r Ysgol, bu’r Diwrnod Cymunedol yn gyfle i’r cyhoedd roi cynnig ar rai o’r sgiliau a ddysgwyd yn yr Ysgol a hefyd cymryd rhan yn yr ystod o weithgareddau gan gynnwys y cyfle i fod yn flêr yn y stiwdio beintio, dylunio a thorri laser yn y gweithdy technoleg ddigidol, FabLab, dysgu brodwaith llaw newydd neu dechnegau pwyth digidol gydag arbenigwyr tecstilau'r ysgol.
Darllenwch fwy am Ddiwrnod Cymunedol a Sioe Haf yr Ysgol Celf a Dylunio ar y wefan.
I dderbyn y newyddion diweddaraf ac i gael gwybod am y digwyddiadau sydd i ddod yn yr Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, cofrestrwch ar gyfer y rhestr e-bostio trwy e-bostio eich manylion cyswllt at coas@cardiffmet.ac.uk.