Hafan>Newyddion>Prifysgol gyntaf y DU i addo dim buddsoddiadau mewn trais ar ffiniau

Prifysgol gyntaf y DU i addo dim buddsoddiadau mewn trais ar ffiniau

​Newyddion | 19 Hydref 2022

Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw’r brifysgol gyntaf yn y DU i ddadfuddsoddi oddi wrth bob cwmni sy’n elwa o drais ar ffiniau, gan arwain at fuddugoliaeth gyntaf i’r ymgyrch Divest Borders sydd dan arweiniad myfyrwyr.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cynnwys yn ei  Pholisi Buddsoddi a Bancio yr ymrwymiad i “allgau cwmnïau sy’n ymwneud â’r Diwydiant Ffiniau”. Mae hyn yn rhan o ymagwedd ehangach y brifysgol o beidio â buddsoddi mewn “cwmnïau neu weithgareddau a ystyrir yn anfoesegol” ac sy'n “bygwth sefydlogrwydd cymunedol a rhyngwladol”.

Daw’r cyhoeddiad hwn yng nghyd-destun amcangyfrif o £327 miliwn mewn portffolios prifysgolion a fuddsoddir mewn cwmnïau sy’n gwneud polisïau fel cynllun adleoli Rwanda y DU a’r Amgylchedd Gelyniaethus yn realiti. Mae’r cwmnïau hyn yn cynnwys Serco sy’n rhedeg canolfannau carcharu yn y DU gyda hanes o esgeulustod a chamdriniaeth eang, Airbus sy’n gwasanaethu dronau i olrhain symudiad ymfudwyr ym Môr y Canoldir, neu’r cawr technoleg Accenture sydd wedi portreadu ffoaduriaid fel terfysgwyr posibl fel pwynt gwerthu ar gyfer eu systemau gwyliadwriaeth.

Dyma fuddugoliaeth gyntaf ymgyrch Divest Borders ar draws y DU, sy’n cael ei chydlynu gan elusen ymgyrchu myfyrwyr People & Planet. Yn yr 11 mis ers lansio'r ymgyrch, mae ymgyrchoedd dan arweiniad myfyrwyr wedi ffurfio mewn 25 o brifysgolion ledled y DU, i gyd yn galw am i’w prifysgol roi terfyn ar eu cydweithrediad drwy fuddsoddiadau mewn cyfundrefnau ffiniau sy’n lladd, yn anafu, ac yn tramgwyddo hawliau ymfudwyr a phobl sy’n ceisio diogelwch. Ers ei lansio, mae’r ymgyrch wedi ennill cefnogaeth gan dros 100 o ysgolheigion ymfudo a gweithwyr mewn 35 o brifysgolion y DU.

Meddai Eva Spiekermann, Cyd-gyfarwyddwr: Ymgyrchoedd Ymfudo ac Adeiladu Mudiadau yn People & Planet: “Mae cyhoeddiad Prifysgol Metropolitan Caerdydd ei bod am dorri cysylltiadau buddsoddi â chwmnïau’r diwydiant ffiniau’n gosod cynsail anhygoel i sector addysg uwch y DU. Gyda dros 60% o’r sector addysg uwch wedi dadfuddsoddi o danwydd ffosil, mae prifysgolion y DU wedi dangos eu bod yn fodlon defnyddio dargyfeirio fel ffordd o gael gwared ar barodrwydd cymdeithas i dderbyn diwydiannau anfoesegol. Wrth i lywodraethau adeiladu waliau corfforol a rhithiol uwch ac uwch a chreu bwch dihangol o bobl sy’n symud o un wlad i’r llall, mae cwmnïau’r diwydiant ffiniau yn ddigon bodlon gwneud busnes o farwolaeth, carcharu ac alltudiaeth. Mae gan brifysgolion y DU ran i’w chwarae wrth amddiffyn gwerthoedd noddfa, undod rhyngwladol a chyfiawnder i bawb. Dyma’r gyntaf o nifer o fuddugoliaethau ar ran Divest Borders.”

Meddai’r Athro Rachael Langford, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch o gael ei chydnabod gan People & Planet fel y brifysgol gyntaf yn y DU i alinio arferion buddsoddi â chyfiawnder mewnfudo. Nid oes gan y Brifysgol ar hyn o bryd unrhyw fuddsoddiadau gyda chwmnïau sy'n ymwneud â'r diwydiant ffiniau, ac nid ydym am wneud unrhyw newidiadau i'n buddsoddiadau. Rydym felly wrth ein bodd yn ei gwneud yn bolisi gennym i beidio byth â buddsoddi gyda chwmnïau sy’n ymwneud â’r diwydiant ffiniau.Fel Prifysgol Noddfa gyntaf Cymru, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cydnabod yr anghyfiawnderau unigryw a wynebir gan bobl sy’n ymfudo a’r rôl y mae’n rhaid i sefydliadau addysgol ei chwarae wrth unioni’r sefyllfa hon.”

Meddai Venky Gonavaram, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd: “Ar ran yr holl fyfyrwyr, hoffem longyfarch y brifysgol am fod y gyntaf yn y DU i alinio arferion buddsoddi â chyfiawnder mewnfudo, yn ogystal â bod y “Brifysgol Noddfa” gyntaf yng Nghymru, gan greu diwylliant croesawgar o gynhwysiant. Rydym yn cymeradwyo ymdrechion y brifysgol yn y maes hwn, ac rydym yn gobeithio parhau i ddysgu a chreu diwylliant sy’n wirioneddol gynhwysol i bawb.”

Meddai Orla Tarn, Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru: “Mae’n wych gweld prifysgol yng Nghymru yn dod y gyntaf yn y DU i ymrwymo i ddadfuddsoddi o’r diwydiant ffiniau. Mae hyn o ganlyniad i waith caled myfyrwyr ac undebau myfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru a thu hwnt, a phawb sy'n cefnogi ymgyrch Divest Borders People & Planet. Rwy’n annog pob prifysgol yng Nghymru i ddilyn eu hesiampl er mwyn sicrhau nad yw cwmnïau sy’n ymwneud â cham-drin hawliau dynol yn erbyn pobl sy’n ymfudo yn cael unrhyw ddylanwad ar ein campysau.”

Meddai Aliya Yule, Trefnydd gyda Migrants Organise: “Mae’r cyhoeddiad heddiw y bydd Met Caerdydd yn dadfuddsoddi o gwmnïau sy’n rhan o gyfundrefn ffiniau hiliol Prydain yn fuddugoliaeth enfawr, ac yn dangos ein pŵer pan fyddwn ni’n dod at ein gilydd i drefnu yn erbyn yr amgylchedd gelyniaethus. Yn Migrants Organise rydym yn gweithio gyda miloedd o bobl sy'n wynebu amgylchiadau sy’n eu diraddiol - amodau a grëwyd yn fwriadol gan gwmnïau sy'n gwneud elw o filiynau yn sgil gwneud hynny. Mae’n rhaid i ni barhau i weithredu gyda’n gilydd nes i’r holl brifysgolion roi’r gorau i fuddsoddi yn y cwmnïau hyn a rhoi diwedd ar yr amgylchedd gelyniaethus, ac yn lle hynny adeiladu byd sy’n seiliedig ar urddas a chyfiawnder i bawb.”