Newyddion | 3 Medi 2024
Mae’r chwe diwrnod diwethaf wedi bod yn arddangosiad gwych o benderfyniad gan athletwyr Met Caerdydd yng Ngemau Paralympaidd Paris 2024.
Gwnaeth Funmi Oduwaiye ymddangosiad Paralympaidd trawiadol am y tro cyntaf yn rownd derfynol taflu disgen F64 y merched. Gan gystadlu yn erbyn maes cryf, sicrhaodd Funmi wythfed safle clodwiw gydag ymdrech aruthrol, gan arddangos ei dawn ar lwyfan y byd. Mae ei thaith o fod yn gyn-chwaraewr Pêl-fasged Archers i’r Paralympiad wedi bod yn stori ysbrydoledig ac mae’n edrych yn debygol bod llawer mwy o benodau cyffrous i ddod.
Mewn pêl-fasged cadair olwyn, mae ein hathletwyr wedi bod yn gwneud eu marc. Mae Katie Morrow, Maddie Martin, a Jade Atkin wedi bod yn ganolog ym mherfformiadau tîm Pêl-fasged Cadair Olwyn Merched Prydain Fawr. Mae’r tîm drwodd i rownd yr wyth olaf ar ôl sicrhau un fuddugoliaeth yn eu tair gêm grŵp.
Ar ochr y dynion, enillodd Phil Pratt a charfan pêl-fasged cadair olwyn Tîm GB bob un o’u gemau ym Mhwll A, yn dilyn buddugoliaeth ysgubol o 85-50 yn erbyn Ffrainc neithiwr. Maen nhw’n edrych ymlaen at eu gêm chwarterol yn erbyn Awstralia heno am 18:15.
Wrth i’r Gemau barhau, mae Met Caerdydd yn hynod falch o lwyddiannau ein hathletwyr ac yn dymuno’r gorau iddynt yn y camau nesaf. Cadwch lygad am fwy o ddiweddariadau #MetParisCaerdydd2024 wrth i fwy o athletwyr gystadlu yr wythnos hon.