Joe Towns yw Arweinydd Arloesi ar gyfer Cyfryngau Darlledu Chwaraeon yn yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Teithiodd Joe i Baris i weithio fel Uwch Gynhyrchydd Teledu ar gyfer Gwasanaethau Darlledu Olympaidd (OBS) yn ystod Gemau’r Haf.
Os ydych chi’n athletwr, rydych chi’n breuddwydio am gyrraedd y Gemau Olympaidd. Os ydych chi’n gweithio ym myd darlledu chwaraeon, mae’n union yr un peth – gweithio ar y Gemau Olympaidd yw’r nod yn y pen draw. Y pinacl. Y sioe fwyaf ar y byd. Rhaid cyfaddef, nid ydym yn ymarfer mor galed ag athletwyr ac ni allwn neidio mor uchel na rhedeg mor gyflym. Ond, pan fyddwch chi’n cyrraedd Gemau, rydych yn ffeindio’ch hun ochr yn ochr â rhai o’r goreuon yn y busnes, y peirianwyr sain a’r gweithredwyr camera gorau, y cyfarwyddwyr a’r golygyddion mwyaf profiadol, sylwebwyr, cyflwynwyr a gohebwyr o’r radd flaenaf.
Roeddwn yn gweithio i’r ‘Olympic Broadcast Services’; y sefydliad sy’n gyfrifol am ffilmio a darlledu’r Gemau i’r byd. Pob digwyddiad unigol. Ni ellir colli dim. Mae’r byd yn gwylio. Ni chaniateir unrhyw gamgymeriadau. Mae angen i bopeth redeg yn esmwyth. Roedd fy nhîm yn gyfrifol am 329 o ddigwyddiadau medalau ar draws 32 o chwaraeon, mwy na
3,720 awr o gynnwys a
2,480 awr o sylwebaeth.
Roeddem yn gofalu am sianeli di-dor y gallai darlledwyr ledled y byd diwnio fewn iddynt, eu darlledu’n fyw, a lapio eu darllediadau eu hunain o gwmpas. Os oeddech chi’n gwylio unrhyw un o’r Gemau ar y teledu, roedd yn sylw OBS, graffeg OBS, ailddarlledu OBS. Ym Mhrydain, efallai y cewch sylwebaeth bwrpasol gan y BBC, ac yn America, efallai eich bod yn gwylio ar NBC; ond byddai’n dal i fod yn lluniau OBS. Mae’n hynod ddiddorol, ledled y byd mae pobl yn gwylio Gemau Olympaidd ychydig yn wahanol yn dibynnu ar eu hoffter chwaraeon cenedlaethol. Yn yr Almaen, y Bêl Law yw’r prif ddigwyddiad, yn Tsieina, mae’r genedl yn stopio ar gyfer Tennis Bwrdd, ac ym Mrasil, pêl-foli yw hi. Yn y DU, nid ydym yn dangos llawer o Reslo Rhufeinig Greco – y lleiaf o obeithion am fedalau, y lleiaf o ddiddordeb.
Roedd yr awyrgylch o amgylch y Gemau yn fy atgoffa o Lundain 2012. Yn y cyfnod cyn, roedd llawer o negatifedd ond unwaith iddo gychwyn fe aeth y cyhoedd a’r wasg yn Ffrainc y tu ôl iddo, roedd yr haul yn gwenu, roedd Paris yn fwrlwm, a dydw i erioed wedi gweld cymaint o stadia ysblennydd. Y peth mwyaf trawiadol oedd gosod lleoliadau ymhlith tirnodau mwyaf adnabyddus ac eiconig y ddinas – roedd yn teimlo fel gêm Olympaidd wedi’i wnaed ar gyfer darllediadau teledu. Mae pwysau mawr ar LA28 i wella’r delweddau hynny.
I mi, maint darllediad Olympaidd sydd fwyaf nodedig. Adlewyrchir y gynulleidfa fyd-eang yn y ffigurau mwyaf erioed i ddarlledwyr ar gyfer ddarllediad llinellol ac ar-lein ar draws gwasanaethau cymdeithasol. Mae gan y nifer enfawr o staff technegol (dros 10,000 o gyfryngau ar y safle) yr un uchelgais i arloesi, dod o hyd i onglau camera newydd, darparu graffeg a yrrir gan ddata gyda delweddu amser real o gyflymder a phellter i helpu i ddangos y galwadau agos hynny – pwy all anghofio’r rownd derfynol 100m y dynion lle enillodd Noah Lyles o 0.005 eiliad?! Roedd gennym ni systemau ailchwarae seiliedig ar gwmwl wedi’u pweru gan AI yn asio delweddau o onglau camera lluosog i greu adluniadau 3D manwl iawn o’r digwyddiadau; bydd y rhan fwyaf o bobl wedi gweld yr
arddull ailchwarae 360-gradd ‘Matrix’.
Dyna hanfod Gemau Olympaidd, gwneud pethau’n well, yn gyflymach a pherfformio ar ansawdd uwch ym mhob maes. Gwnaeth Paris 2024 hynny ac mae’n teimlo bod y Gemau hyn wedi symud y deial ymlaen yn y byd darlledu.