Hafan>Newyddion>Met Caerdydd yn ymweld â phartner rhyngwladol yn Oman

Met Caerdydd yn ymweld â phartner rhyngwladol yn Oman

Newyddion | 19 Ebrill 2023

Ymwelodd Is-ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison, ag Oman yn ddiweddar i ddyfarnu graddau Met Caerdydd i dros 400 o raddedigion yn un o bartneriaid addysg trawswladol y Brifysgol – Coleg y Gwlff Oman (GCO).



Yn ystod yr ymweliad, cyflwynodd yr Is-ganghellor dystysgrifau gradd yn seremoni raddio’r GCO a chyfarfu â swyddogion uchel eu statws y Llywodraeth, gan gynnwys Cadeirydd Cronfa Datblygu Busnesau Bach a Chanolig Oman, Is ysgrifennydd y Weinyddiaeth Lafur, y Gweinidog Masnach, Diwydiant a Hyrwyddo Buddsoddiad, a’r Gweinidog Addysg Uwch, Ymchwil Gwyddonol ac Arloesi.

Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Cara Aitchison: “Mae’r Brifysgol yn parhau i weithio’n agos gyda’n 13 partner trawswladol sy’n gartref i dros 12,500 o fyfyrwyr Met Caerdydd. Roedd yr ymweliad hwn yn gyfle gwych i gwrdd ag un o’n partneriaid mwyaf, Coleg y Gwlff Oman, i drafod ffyrdd o wneud y mwyaf o’r bartneriaeth hon, gan gynnwys rhaglenni newydd, cydweithrediadau ymchwil yn y dyfodol, a ffyrdd y byddwn yn cyfrannu at agenda entrepreneuriaeth Llywodraeth Oman”.

Mae Met Caerdydd wedi bod yn bartner gyda Choleg y Gwlff Oman ers 2014 ac yn gysylltiedig â saith cwrs, gan gynnwys BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid, BSc (Anrh) Systemau Gwybodaeth Busnes, a BA (Anrh) Rheoli Marchnata.

Agorodd yr Athro Cara Aitchison y seremoni raddio yn ystod yr ymweliad: “Mae graddio bob amser yn achlysur gwych ym Met Caerdydd ac yn gyfle i arddangos a dathlu llwyddiant ein myfyrwyr. Roedd yn anrhydedd cael mynychu Coleg y Gwlff Oman, a chael agor y seremoni a siarad â graddedigion wrth iddynt gychwyn ar bennod nesaf, gyffrous yn eu bywyd”.

Bu academyddion o Ysgol Dechnolegau Met Caerdydd a’r Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd yn cymryd rhan yn yr ymweliad i gwrdd â staff academaidd a myfyrwyr, ac i drafod rhaglenni cyfredol, ynghyd â rhaglenni newydd i’w cynnig yn y dyfodol.

Dywedodd Dr. Rima Al Zadjali, Deon, Coleg y Gwlff Oman: “Roedd ymweliad yr Athro Cara Aitchison a’i dirprwyaeth o Brifysgol Metropolitan Caerdydd â Choleg y Gwlff yn Oman yn ganolog i gryfhau ein perthynas broffesiynol a galluogi cydweithio mewn gwahanol feysydd.

“Roedd cyfarfod â rhanddeiliaid fel y Gronfa Datblygu Busnesau Bach a Chanolig, y Weinyddiaeth Addysg Uwch, a’r Weinyddiaeth Masnach a Hyrwyddo Buddsoddiad yn fuddiol, ac yn cyfrannu at ddatblygiad addysg uwch, arloesi ac entrepreneuriaeth yn Oman ac yng Nghymru, Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio i gryfhau addysg uwch, arloesi ac entrepreneuriaeth trwy weithio ar y cyd, a chreu cyfleoedd i’n myfyrwyr a’n cyfadran.”

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch o fod yn gysylltiedig â phartneriaid rhyngwladol o’r radd flaenaf. Defnyddir nifer o wahanol fodelau cydweithio er mwyn sicrhau bod y rhaglenni’n cwrdd ag anghenion penodol myfyrwyr a chyflogwyr yn ogystal â bod o’r ansawdd uchaf.

Mae rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Drawswladol Met Caerdydd ar gael ar dudalen we’r Brifysgol.