Trwy gydol fy astudiaethau israddedig, rwyf wedi bod yn rhan o brosiect sy'n canolbwyntio ar ddatblygu a pharatoi haenau o ffilm bwytadwy i'w defnyddio fel deunydd pecynnu gweithredol a gwerthuso’u heffaith ar oes silff gwahanol gynhyrchion bwyd.
Yn ystod fy astudiaethau ôl-raddedig, mae fy nhraethawd hir wedi bod yn rhan o brosiect DANIDA (Danish International Development Agency) mwy. Rwyf wedi canolbwyntio ar astudio genom arunigion Streptococcus infantarius gan ddefnyddio dulliau in silico. Nod y prosiect fu pennu diogelwch defnydd o’r isrywogaeth fel celloedd meithrin ar gyfer cynhyrchion llaeth. Roedd agwedd amlddisgyblaethol y prosiect yn gofyn am ddealltwriaeth dda o ficrobioleg foleciwlaidd, bio wybodeg, epidemioleg a microbioleg a diogelwch bwyd.
Cefais fy ngwobrwyo ddwywaith gan Weinyddiaeth Addysg, Ymchwil ac Arloesi Rwmania am y gweithgaredd ymchwil a wnes yn ystod fy astudiaethau israddedig. Rwyf wedi derbyn dwy Wobr Ysgoloriaeth CEEPUS ar wahân i astudio gwlybaniaeth ffilmiau amrywiol sy'n seiliedig ar gelatin sydd â defnydd ar gyfer pecynnu bwyd ym Mhrifysgol Eötvös Loránd, Budapest, Hwngari a defnyddio cromatograffeg hylif perfformiad uchel i fesur cyfansoddiad cynhwysion actif mewn ffilmiau pecynnu gweithredol sydd wedi’u datblygu eisoes, ym Mhrifysgol Zagreb, Croatia.
Baglor Gwyddoniaeth mewn Peirianneg Bwyd, Prifysgol Dechnegol Cluj-Napoca
Gradd Meistr Gwyddoniaeth mewn Gwyddor Bwyd a Thechnoleg, Prifysgol Dechnegol Denmarc
Aelodaethau Proffesiynol:
Cymdeithas Ryngwladol Diogelu Bwyd (IAFP)
Cymdeithas Microbioleg Gymhwysol
Cyhoeddiadau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid:
Mihaly Cozmuta, Alin Turila, Robert Apjok, Alexandra Ciocian, Leonard Mihaly Cozmuta, Anca Peter, Camelia Nicula, Nives Galić, and Tomislav Benković. 2015. “Preparation and Characterization of Improved Gelatin Films Incorporating Hemp and Sage Oils.” Food Hydrocolloids 49:144–55.
Mihaly Cozmuta, Anca Peter, Leonard Mihaly Cozmuta, Camelia Nicula, Liliana Crisan, Lucian Baia, and Alin Turila. 2015. “Active Packaging System Based on Ag/TiO 2 Nanocomposite Used for Extending the Shelf Life of Bread. Chemical and Microbiological Investigations.” Packaging Technology and Science 28(4):271–84.
Cyfraniadau mewn Cynadleddau Rhyngwladol:
Alin Turila, Ellen W. Evans and Elizabeth C. Redmond (2019) Determination of milk allergen contamination in a ready-meal sector small and medium enterprise (SME): a case study. Poster presented at The 11th International Conference on Culinary Arts and Sciences (ICCAS) on 26-27th June 2019, Cardiff, Wales, UK.
Alin Turila, John T. Holah, Ellen W. Evans and Elizabeth C. Redmond (2019) Listeria contamination and identification of potential growth niches in a ready-to-eat manufacturing small and medium sized enterprise (SME): A case study. Poster presented at the International Association for Food Protection (IAFP) Annual Meeting on 21st-24th July, 2019 in Louisville, Kentucky, USA.
Alin Turila (2015) Presented results from: Preparation and Characterization of Improved Gelatin Films Incorporating Hemp and Sage Oils. International Conference Student in Bucovina, 2015, Suceava, Romania. – Presented a paper
Am gyfraniadau mwy diweddar i gynadleddau, gweler yma