Mae'r term 'Gwyddorau Biofeddygol' (BMS) yn cynnwys ystod eang o bynciau gwyddonol mewn labordy, a phob un ohonynt yn anelu at ddarparu dealltwriaeth o sut mae afiechydon/cyflyrau dynol yn datblygu, sut maen nhw'n effeithio ar y ffordd mae’r corff yn gweithio fel arfer, sut y gwneir diagnosis, a sut y gellir eu trin/atal.
Mae'r Adran yn cynnwys 25 aelod o staff academaidd ynghyd â staff technegol/gweinyddol, ac mae'n ymgymryd â nifer o weithgareddau addysgu, ymchwil, menter a gweithgareddau trydedd genhadaeth. Mae hefyd yn croesawu mwy na 600 o fyfyrwyr sy'n astudio ar sawl cwrs Gwyddor Biofeddygol.