Dr Viv John

Swydd:​Arweinydd Dysgu ac Addysgu Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon
Ysgol: Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
E-bost: vjohn@cardiffmet.ac.uk
Ffôn:​029 2041 6502
Rhif Ystafell:​C013


Ymchwil

Roedd fy Noethuriaeth Broffesiynol yn canolbwyntio ar ganfyddiadau athrawon cerddoriaeth dan hyfforddiant o le creadigrwydd yn eu hunaniaeth gerddorol fel cerddorion ac addysgwyr. Ar hyn o bryd, rwyf hefyd yn cymryd rhan mewn prosiect ymchwil Llywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar ddatblygu proffesiwn addysgu sy'n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru.

Aelodaeth

  • Cymrawd yr Academi Addysg Uwch

Diddordebau Ymchwil

  • Addysg cerddoriaeth
  • Dysgu anffurfiol
  • Creadigrwydd mewn addysg
  • Cwricwlwm i Gymru

Cyhoeddiadau

Cyfnodolion a ddyfarnir gan gymheiriaid

Kneen, J., Breeze, T., Thayer, E., John, V. & Davies-Barnes, S. (2021) Pioneer teachers: How far can individual teachers achieve agency within curriculum development? Journal of Educational Change https://doi.org/10.1007/s10833-021-09441-3

Kneen, J., Breeze, T., Davies-Barnes, S., John, V. and Thayer, E. (2020) 'Curriculum integration: the challenges for primary and secondary schools in developing a new curriculum in the expressive arts', The Curriculum Journal, 31 (2), pp. 258 – 275.

Siân E. Evans, Gary Beauchamp & Vivienne John (2015) Learners' experience and perceptions of informal learning in Key Stage 3 music: a collective case study, exploring the implementation of Musical Futures in three secondary schools in Wales, Music Education Research, 17:1, 1-16.

Cyhoeddiadau Eraill

JOHN, V. and EVANS, S. (2013) 'Musical Futures Wales Pilot 2011-12: Main Findings' [Online]. Available at: http://www.musicalfutures.org

JOHN, V. and EVANS, S. (2013) 'Musical Futures Wales Pilot 2011-12: Summary of Main Findings' [Online]. Available at: http://www.musicalfutures.org

Prosiectau

​'Embedding Research and Enquiry in Schools (EREiS)'​Llywodraeth Cymru​Aelod o dîm y prosiect​2022-2023
'​Evidence Informed Profession (EiP)'​Llywodraeth CymruAelod o dîm y prosiect​2021-2022
'​Musical Futures'​Sefydliad Paul Hamlyn​Arweinydd y Prosiect​2011-2016

Proffil

Fi yw Arweinydd Dysgu ac Addysgu Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon a, gyda'm grŵp llywio, rwy'n gyfrifol am y ddarpariaeth y brifysgol a’r ysgolion ar gyfer myfyrwyr sy'n hyfforddi o fewn Partneriaeth Caerdydd. Mae fy rolau blaenorol ym Met Caerdydd wedi cynnwys Cyfarwyddwr Rhaglen TAR Uwchradd, Rheolwr Ansawdd Partneriaeth SEWCTET ac Arweinydd Rhaglen TAR a BA Uwchradd: Cerddoriaeth.

Ar ôl ennill B.Mus a TAR o Brifysgol Llundain, bûm yn dysgu cerddoriaeth am un mlynedd ar bymtheg mewn ystod o ysgolion uwchradd yng Nghymru a Lloegr, ac yn Bennaeth Adran yn Ysgol Uwchradd Brenhinol Sant Joseff ynhg Nghasnewydd. Rhwng 2004 a 2006, rwy'n arwain y gwaith addysg yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, gan greu rhaglen addysg eang ac amrywiol ar gyfer ysgolion a cholegau.

Ymunais ag Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd yn 2006 fel Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Cerddoriaeth a chwblhais MA (Ed) yn y brifysgol yn 2011 a Doethuriaeth Broffesiynol (EdD) yn 2020. Rwyf wedi bod yn arholwr Lefel Uwch ar gyfer CBAC ac yn Aelod Cyswllt Dyfodol Cerddorol, sy'n gyfrifol am arwain cynllun peilot hynod lwyddiannus Cymru 2011-12 ac am ei gyflwyno ar draws Cymru. Rwy'n gerddorfaol ac unawdwyr brwd a gweithgar ac rwy'n chwarae'r ffliwt gydag amrywiaeth o ensembles ledled De Cymru yn rheolaidd.