Mae Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd yn cynnwys yr Adran Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon, yr Adran Datblygiad Proffesiynol ac Adran y Dyniaethau. Ar draws y tair adran hyn, mae gan ddarlithwyr ystod eang ac amrywiol o brofiad ac maent yn gallu cynnig gwasanaethau ymchwil ac ymgynghori cymhwysol, rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus yn ogystal â chyrsiau byr, gan rannu'r arbenigedd hwn â phartneriaid cydweithredol ac unigolion â diddordeb. Mae'r Ysgol yn ymgysylltu â busnesau bach a chanolig (BBaCh) a sefydliadau cymunedol yn ogystal ag ysgolion ac Awdurdodau Lleol. Mae’r amrywiaeth sgiliau a gwybodaeth yn dod â deinameg fywiog i'r Ysgol yr ydym yn awyddus i'w rhannu.