Louise Cook

​Swydd:Darlithydd Ieuenctid a Chymunedol
​Ysgol:​ Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
​E-bost:lcook@cardiffmet.ac.uk
Ffôn:​029 2020 5947
​Rhif Ystafell:​Q003

 

Ymchwil

Grwpiau Ymchwil:
Grŵp Ymchwil Addysgol a Chymdeithasol (ESRG)

Aelodaethau:
Federation For Detached Youth Work
Equality Now
Amnest Rhyngwladol

Diddordebau Ymchwil:
Pobl Ifanc, Ymarferiad Ieuenctid a Chymunedol
Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid
Rheolaeth yn y Sector Cyhoeddus
Polisi yn y Sector Cyhoeddus

Prosiectau

  • Tîm Gwaith Ieuenctid ar y Stryd RCT - Cydlynydd (LlG, Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, Cymorth         
  • Gwasanaethau i Bobl Ifanc - Pennaeth Gwasanaeth (LlG, Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, Cyngor Celfyddydau Cymru ac ati) Adeiladu’r Dyfodol Gyda’n Gilydd (LlG, Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, Craidd)
  • Rhaglen Prevent (Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, Craidd)
  • Lift/Codi (LlG)

Proffil

Dechreuodd Louise ei gyrfa fel gweithiwr prosiect ieuenctid a chymunedol yn ymwneud â’r celfyddydau.  Dros y 23 mlynedd diwethaf, mae Louise wedi rheoli ystod eang o brosiectau gwaith ieuenctid gwirfoddol a statudol, gan gynnwys tîm mawr o weithwyr ieuenctid a cymunedol ar y stryd sy’n gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed ledled Rhondda Cynon Taf.

Aeth Louise yn ei blaen i ddod yn Brif Swyddog Ieuenctid a Phennaeth Gwasanaethau i Bobl Ifanc yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; gyda chyfrifoldeb dros fwy na wyth cant o staff a gwirfoddolwr llawn amser a rhan amser; yn arwain datblygiad strategol a gweithredol y tîm Gwasanaethau i Bobl Ifanc sydd wedi ennill gwobrau, a goruchwylio ystod eang o brosiectau a rhaglenni a ariannwyd yn allanol gan LlG, Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, y Loteri Fawr a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Yn fwy diweddar, symudodd Louise i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ymgymryd â swyddi Cydlynydd Ymgysylltu a Datblygu a Chydlynydd Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS); mae’n cefnogi gweithrediad strategol a gweithredol Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu LlC ac yn cefnogi darpariaeth addysg amgen i bobl ifanc ledled y sir.    

Ymunodd Louise â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn llawn amser ym mis Medi 2014. Yno cafodd y cyfle i barhau â’i gwaith partneriaeth hirsefydlog â thîm Ieuenctid a Chymunedol Metropolitan Caerdydd; hyfforddi a chefnogi gweithwyr ieuenctid a gwasanaethau ieuenctid ledled De Cymru a thu hwnt.