|
Swydd: | Uwch-ddarlithydd Addysg (Cyfrwng Cymraeg) |
Ysgol: | Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd |
E-bost: | dhywel@cardiffmet.ac.uk |
Ffôn: | 029 2020 5939 |
Rhif Ystafell: | C021 |
Ymchwil
Diddordebau Ymchwil:
• Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg (TEL)
• Ymgysylltu â myfyrwyr
• Asesu ar gyfer dysgu
• Darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Uwch
Cyhoeddiadau
Prosiectau
Arweinydd y Prosiect:
Prosiect Darpariaeth Gydweithredol: Modiwl 'Come rain or Shine'.
Prosiect cydweithredol rhwng Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Bangor, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Proffil
Mae Dyddgu yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd. Ymunodd â'r Ysgol yn 2014. Cyn hynny bu'n addysgu yn y sector Addysg Bellach am dair blynedd fel Darlithydd Dylunio a Thechnoleg a Pheirianneg yng Ngholeg Meirion Dwyfor, a blwyddyn yn addysgu Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Uwchradd Rhydywaun.
Mae'n arwain y ddarpariaeth Gymraeg ar y radd ddwyieithog BA mewn Astudiaethau Addysg Gynradd ac yn cyfrannu at y cwrs BA mewn Astudiaethau Addysg Gynradd (gyda SAC) ac Astudiaethau Plentyndod Cynnar.
Mae ei chyfrifoldebau academaidd ychwanegol yn cynnwys bod yn gymedrolwr ac arholwr i Gyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) ac mae'n gweithio'n agos â'r pwnc Safon Uwch, Dylunio a Thechnoleg. Mae'n arholwr allanol i bartneriaid rhyngwladol Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a phrifysgolion eraill yn y DU.
Dolenni Allanol
Gwybodaeth Bellach
Arferai Dyddgu chwarae rygbi i Gymru ar lefel ryngwladol. Chwaraeodd mewn ymgyrchoedd y Chwe Gwlad, dau Gwpan Rygbi'r Byd, cystadlaethau Rygbi Ewropeaidd, i dîm rygbi 7 bob ochr Cymru, cynrychiolodd dîm y Barbariaid, ac enillodd 31 o gapiau dros ei gwlad.