Skip to main content
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd>Cyrsiau>Newyddiaduraeth Arbenigol – MA/PgD/PgC

Newyddiaduraeth Arbenigol - MA/PgD/PgC

​​​

Hoffech chi weithio fel Newyddiadurwr Ffilm, Cerddoriaeth, Ffasiwn neu Chwaraeon?

Mae’r MA mewn Newyddiaduraeth Arbenigol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn radd meistr â ffocws ymarferol. Wedi’i chynllunio a’i darparu gan staff academaidd sy’n ymchwilwyr ac yn weithwyr proffesiynol o’r diwydiant, nod y cwrs yw creu Newyddiadurwyr Arbenigol sy’n ymarfer, a’u paratoi nhw ar gyfer y diwydiant i gael swydd mewn newyddiaduraeth. Fe’i lluniwyd ar y cyd â newyddiadurwyr sy’n gweithio yn y BBC i sicrhau ein bod ni’n addysgu newyddiaduraeth gyfoes ar gyfer yr oes ddigidol a’r cyfryngau newydd, ac mae’r radd hon yn cefnogi myfyrwyr wrth iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau a’u technegau newyddiaduraeth mewn arbenigedd penodol, fel newyddiaduraeth ffilm, cerddoriaeth, ffasiwn neu chwaraeon.

Nid yn unig y bydd myfyrwyr Met Caerdydd yn datblygu eu newyddiaduraeth argraffedig ac ar-lein, ond byddant hefyd yn datblygu ystod eang o sgiliau cynhyrchu amlgyfrwng, gan ddysgu am hunan-saethu a golygu, recordio a chynhyrchu sain, creu cynnwys digidol, a hynny wrth fireinio eu greddf newyddiadurol, gwerthoedd newyddion, a barn olygyddol. Bydd myfyrwyr hefyd yn astudio elfennau o gyfraith y cyfryngau, ac yn dadansoddi sut mae moeseg, ymdeimlad o degwch, didueddrwydd, cywirdeb a dealltwriaeth gadarn o reoliadau a hawliau yn chwarae rhan hanfodol wrth weithredu yn y tirlun newyddiadurol modern.

Mae’r cwrs yn canolbwyntio’n gryf ar gyflogadwyedd, gan alluogi myfyrwyr i gyfuno technegau a safbwyntiau newyddiadurol gyda sgiliau galwedigaethol ymarferol, a gaiff eu cyfnerthu gan leoliadau gwaith. Boed at ddibenion datblygu proffesiynol, i wella eich gyrfa lawrydd, neu fel cam cyntaf i fyd newyddiaduraeth, bydd y radd MA hon yn eich helpu i feithrin y wybodaeth a’r hyder i fod yn newyddiadurwr arbenigol. Mae ganddon ni arbenigedd ar draws nifer o feysydd ac mae ein cymuned academaidd yn fywiog ac yn ddeinamig, gyda chysylltiadau cryf â’r diwydiant a siaradwyr yn rhoi mewnwelediad o’r byd go iawn yn y diwydiant hwn sy’n newid yn gyflym.

Un o gryfderau mwyaf y rhaglen yw ei hyblygrwydd. Gellir astudio’r MA mewn Newyddiaduraeth Arbenigol yn llawn amser neu’n rhan amser, gan eich galluogi i reoli cyflymder a dyfnder eich astudiaeth ôl-raddedig. Caiff darpariaeth y rhaglen ei gwella drwy ymrwymiad y Brifysgol i e-ddysgu.

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Cynnwys y Cwrs

​Mae MA Newyddiaduraeth Arbenigol yn cynnig fframwaith modiwlaidd, sy’n darparu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth sylfaenol i allu cael gwaith fel newyddiadurwr.

Byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu ac ysgrifennu cryf wrth ganolbwyntio ar eich arbenigedd penodol ac yn magu hyder wrth ysgrifennu gwahanol fathau o newyddiaduraeth. Cyfunir y sgiliau hyn â chynhyrchu amlgyfrwng, sy’n eich galluogi i ddylunio, ffilmio a golygu eich gwaith eich hun.


Ysgrifennu Cynnwys

Bydd y modiwl hwn yn rhoi’r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ysgrifennu fel newyddiadurwyr ac yna’n canolbwyntio’r sgiliau hynny ar eu dewis arbenigedd, gan gydgrynhoi’r sgiliau angenrheidiol i ysgrifennu erthyglau newyddiadurol clir, egnïol, diddorol a chytbwys ar gyfer llwyfannau print a digidol.

Nod y modiwl yw:

  • Atgyfnerthu’r sgiliau angenrheidiol i ysgrifennu erthyglau amlblatfform newyddiadurol clir, egnïol, diddorol a chytbwys.
  • Datblygu’r sgiliau angenrheidiol i adnabod, cael a dethol ffeithiau perthnasol a newydd gan ddefnyddio sgiliau a thechnegau newyddiadurol priodol.
  • Ymestyn ymwybyddiaeth o’r ffyrdd y mae’r berthynas rhwng newyddiadurwyr, golygyddion, perchnogion, ffynonellau a chynulleidfaoedd yn effeithio ar gynnwys a strwythur erthyglau newyddiadurol.
  • Adolygu a gwerthuso’n feirniadol sgiliau ymchwil annibynnol a’r gallu i weithio’n hunanfyfyriol.


Prosiect Cydweithredol

Bydd y modiwl hwn yn cymhwyso’r sgiliau a ddatblygwyd drwy archwilio iaith, cynnwys, arddull a strwythur cylchgronau, papurau newydd a nodweddion ar-lein, ac yn ymestyn sgiliau cynhyrchu digidol.

Nod y modiwl yw:

  • Nodi, ffurfio a datblygu perthnasoedd gwaith cydweithredol gyda phartneriaid posibl.
  • Datblygu gwaith sy’n gysylltiedig ag ymdrechion proffesiynol a nodau gyrfa.
  • Cyfnerthu sgiliau fel ymarferydd proffesiynol sy’n gweithio mewn maes dewisol.
  • Datblygu gallu entrepreneuraidd yn ymarferol trwy brosiect cydweithredol.


Newyddiaduraeth Amlblatfform

Bydd y modiwl hwn yn rhoi’r sgiliau hanfodol allweddol i fyfyrwyr ddod yn newyddiadurwyr amlgyfrwng ac addasu’r sgiliau hynny i’w maes arbenigol.

Nod y modiwl hwn yw:

  • Atgyfnerthu a chymhwyso sgiliau newyddiadurol a ddatblygwyd mewn modiwlau eraill i wahanol lwyfannau cyfryngau digidol.
  • Datblygu’r sgiliau angenrheidiol i integreiddio a datblygu prosiectau amlgyfrwng yn llawn.
  • Datblygu sgiliau ar gyfer gofynion cynhyrchu penodol newyddiaduraeth amlgyfrwng.
  • Datblygu sgiliau ar gyfer gofynion cynhyrchu penodol newyddiaduraeth amlgyfrwng.


Safbwyntiau Beirniadol mewn Newyddiaduraeth

Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o dirwedd newidiol newyddiaduraeth gyfoes, y sgiliau myfyriol angenrheidiol i weithredu fel newyddiadurwr llwyddiannus, gan archwilio’r prosesau a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer ymgymryd ag ymchwil drylwyr, credadwy, moesegol a gwerth chweil.

Nod y modiwl hwn yw:

  • Rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o’r prosesau a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer ymgymryd ag ymchwil drylwyr, gredadwy, moesegol a gwerth chweil.
  • Archwilio’r cysyniad o sgiliau myfyriol sy’n addas i’w defnyddio mewn cyd-destunau newyddiadurol academaidd a phroffesiynol, ac ymgysylltu’n weithredol ynddynt.
  • Cymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol yn feirniadol mewn cyd-destun ymarferol.
  • Datblygu dull myfyriol beirniadol o ymarfer newyddiadurol.


Newyddiaduraeth, Moeseg a’r Gyfraith

Bydd y modiwl hwn yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o gyfraith a moeseg newyddiadurol.

Nod y modiwl hwn yw:

  • Darparu gwybodaeth ddatblygedig a dealltwriaeth feirniadol o’r gyfraith a’i strwythurau fel y maent yn ymwneud ag ymarfer newyddiaduraeth.
  • Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r fframwaith cyfreithiol, moesegol a rheoleiddiol y mae newyddiaduraeth yn cael ei ymarfer ynddo.
  • Galluogi myfyrwyr i gymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth wrth greu cynnwys newyddiadurol.


Ymarfer Proffesiynol mewn Newyddiaduraeth

Yn ogystal â lleoliad gwaith mewn sefydliad cyfryngau perthnasol, bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau a gwybodaeth hanfodol sydd eu hangen ar gyfer gwneud bywoliaeth lwyddiannus yn nhirwedd y cyfryngau newydd.

Nod y modiwl hwn yw:

  • Darparu ymwybyddiaeth o arferion a methodolegau yn y gweithle o fewn y diwydiant newyddiaduraeth sy’n dylanwadu ar gasglu, golygu a lledaenu gwybodaeth.
  • Archwilio y potensial ar gyfer gwneud bywoliaeth lwyddiannus yn nhirwedd y cyfryngau newydd.
  • Datblygu ymwybyddiaeth gynhwysfawr o strwythur gweinyddol y diwydiant a rolau a chyfrifoldebau swyddi unigol.
  • Hyrwyddo dull datrys problemau o ran yr amgylchedd gwaith.


Prosiect Mawr Terfynol

Mae’r modiwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr greu portffolio newyddiadurol o’u harbenigedd dewisol. Mae’r prosiect ymarferol neu ddamcaniaethol estynedig yn rhoi cyfle i fyfyrwyr am ddarn sylweddol o waith newyddiaduraeth ymarferol annibynnol, o safon broffesiynol, neu astudiaeth academaidd sy’n mynd i’r afael â maes penodol o newyddiaduraeth​.

Dysgu ac Addysgu

Addysgir y rhan fwyaf o’r modiwlau drwy weithdai a seminarau gwaith grŵp. Bydd rhai modiwlau hefyd yn cynnwys tiwtorialau unigol, a darperir y modiwl traethawd hir yn gyfan gwbl drwy diwtorialau un i un gyda’ch goruchwyliwr.

Mewn gweithdai a seminarau, gwneir defnydd llawn o dechnoleg y Brifysgol, a bydd deunydd cwrs yn cael ei ddarparu a’i storio yn ein Rhith-amgylchedd Dysgu. Bydd modd i chi gael mynediad at y Rhith-amgylchedd Dysgu o bell, a byddwn yn annog i chi wneud hynny.

Mae’r modiwlau’n werth un ai 20 neu 40 credyd. Mewn modiwl 20 credyd, byddwch chi’n cael 22 awr o addysgu wedi’i amserlennu, a bydd disgwyl i chi gyflawni 178 awr o astudio annibynnol. Cynhelir y traethawd hir, sy’n 40 credyd, drwy astudiaeth annibynnol yn bennaf. Byddwch yn cael 4 awr o oruchwyliaeth tiwtorial (sy’n cynnwys goruchwylwyr yn edrych dros eich gwaith) a bydd disgwyl i chi gyflawni 396 awr o astudiaeth annibynnol.

Penodir tiwtor personol i bob myfyriwr a fydd ar gael i gynnig cyngor academaidd, cefnogaeth fugeiliol, a chynllunio datblygiad personol. Mae gan diwtoriaid oriau swyddfa wythnosol hefyd.

Cyflawnir amgylchedd beirniadol ond cefnogol drwy gyfuniad o weithdai, seminarau ymchwil ac e-ddysgu. Byddwch yn cael eich cyflwyno i faterion ymarferol paratoi a chyflwyno eich gwaith i’w gyhoeddi.

Yn Met Caerdydd, byddwch yn cael profiad dysgu, o’r cam ymsefydlu i raddio, sy’n gydlynus ac yn datblygu eich hunaniaeth o fewn eich rhaglen astudio. Mae nodweddion penodol y profiad dysgu ar y radd MA mewn Newyddiaduraeth Arbenigol yn cynnwys:

  • Ymchwilwyr o fri a thiwtoriaid profiadol o’r diwydiant sy’n ganolog i’r pecyn dysgu a ddarperir i’n myfyrwyr.
  • Cyfleusterau cyfryngau ar y campws a gaiff eu defnyddio i wella profiad dysgu’r myfyrwyr ac i gymhwyso’r wybodaeth ddamcaniaethol mewn lleoliad go iawn.
  • Partneriaethau diwydiannol a ddefnyddir fel sail ac i wella darpariaeth y rhaglen.
  • Rhaglen radd sy’n bodloni anghenion cyflogwyr.


Cyfleusterau

Mae cyfleusterau cyfryngau ardderchog ar y safle, a diwydiannau cyfryngau ffyniannus yng Nghaerdydd a’r ardal gyfagos, yn dod ynghyd â rhwydwaith o bartneriaid yn niwydiant y cyfryngau i ddarparu rhaglen ddysgu gynhwysfawr sy’n ymwneud ac wedi’i lleoli yn y gwaith. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i’ch galluogi i gymhwyso’r wybodaeth a gafwyd o gwricwlwm y radd yn y byd go iawn, a chael profiad gwerthfawr i’w ddefnyddio fel sail ar gyfer astudiaeth bellach neu gyflogaeth yn y dyfodol​.

Asesu

Rydyn ni’n ymroddedig i arferion asesu arloesol sy’n cyfateb â chanlyniadau dysgu a nodwyd ar gyfer eich modiwl a’ch gradd. Mae hyn yn golygu bod asesu, lle bo’n bosib, yn canolbwyntio ar wella nid yn unig eich gwybodaeth bynciol, ond y sgiliau sy’n hanfodol wrth ddatblygu eich cyfleoedd cyflogaeth. Mae enghreifftiau o asesu yn cynnwys portffolios ymchwil, gwaith grŵp, portffolios ymarferol, arfer beirniadol a myfyriol ac adolygiadau.

Mae ganddon ni ystod o ddulliau asesu ar draws y radd yn dibynnu ar y modiwl. Asesir modiwlau ymarferol drwy bortffolios a thraethodau beirniadol cysylltiedig, lle mae gofyn i chi fyfyrio a chyd-destunoli eich gwaith. Mae’r modiwlau hyn hefyd yn cynnwys asesu cyfoedion yn ffurfiannol yn y dosbarth ar ffurf gweithdai ymarferol. Nid yw’r rhain yn cyfrif tuag at eich gradd derfynol, ond mae’r sesiynau’n eich helpu i dyfu ac i fyfyrio fel ymarferydd cyfryngau.

Mae modiwlau hefyd yn defnyddio Rhith-amgylcheddau Dysgu ar gyfer asesu, ac mae’n bosib y bydd gofyn i chi edrych ar ddeunydd ar-lein ac ymateb iddo.

Byddwch yn cael cefnogaeth gan diwtor yn y dosbarth a thrwy ein Rhith-amgylchedd Dysgu er mwyn eich paratoi ar gyfer pob pwynt asesu. Mae ganddon ni gyfleusterau llyfrgell ar-lein ac ar y campws hefyd.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Ynghyd â gyrfa mewn newyddiaduraeth, mae’r MA hefyd yn ddewis gwych ar gyfer y rhai sy’n dymuno gwella eu cyfleoedd cyflogaeth a phroffesiynol mewn gyrfaoedd golygyddol a chyhoeddi.

Wrth gwrs, mae sgiliau a thechnegau newyddiadurol allweddol yn ganolog i’r radd. Serch hynny, bydd y radd hon hefyd yn eich annog i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy fel ymreolaeth, cydweithio’n effeithiol, hunangyfeirio, trefnu, menter, ac addasrwydd – sgiliau y mae galw mawr amdanynt yn y gweithle.

Ynghyd â newyddiaduraeth, gallai gradd Meistr mewn Newyddiaduraeth Arbenigol arwain at amrywiaeth o yrfaoedd eraill hefyd, fel: addysgu, ymchwil, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, y gwasanaeth sifil, cyhoeddi, y cyfryngau, a chyflogaeth yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.

Mae EDGE Met Caerdydd yn eich cefnogi i ffynnu yn y byd modern. Drwy gydol eich gradd, byddwch yn profi ystod o gyfleoedd i ddatblygu eich cymwyseddau Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd drwy ddysgu ar sail problemau a thrwy leoliadau dysgu yn y gwaith. Byddwn ni’n sicrhau eich bod yn cael ystod o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy fel cyfathrebu, gwaith tîm ac arweinyddiaeth.

Byddwn ni hefyd yn eich cefnogi i ganfod cyfleoedd i weithio neu astudio dramor. Gall lleoliadau gwaith roi mantais feirniadol i chi wrth gael cyflogaeth broffesiynol ar ôl graddio. Mae graddedigion o’n rhaglen MA mewn Newyddiaduraeth Arbenigol bellach yn gweithio yn y diwydiant cyfryngau proffesiynol gyda Future Fusion New York, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Dead Press a Radio GTFM.

Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dilyn eu cyfleoedd eu hunain ac yn sefydlu busnesau yn seiliedig ar eu syniadau yn ystod eu hastudiaethau. Mae cymorth menter parhaus ar gael gan y Ganolfan Entrepreneuriaeth sydd wedi’i chynllunio i helpu i ddarparu’r cyfle gorau i greu menter lwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys mentora busnes, cyngor cyllido, gofod swyddfa am ddim, a chyfleoedd rhwydweithio​​.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Ystyrir pob ymgeisydd yn sail eu rhinweddau academaidd a’u gallu i ddangos diddordeb a gallu yn y maes pwnc.

Fel arfer, dylai fod gan ymgeiswyr radd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn pwnc perthnasol. Bydd myfyrwyr sy’n bodloni’r meini prawf yn cael gwahoddiad i gyfweliad.

Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Gweithdrefn Ddethol:
Ffurflen gais, CV, ac enghraifft o ysgrifennu (er enghraifft, gall hwn fod yn ddarn o newyddiaduraeth, blog neu draethawd).​

Sut i Wneud Cais:
Dylai ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei wneud yn uniongyrchol i’r Brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais yn www.metcaerdydd.ac.uk/sutiwneudcais..

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd gan sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a/neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Os hoffech, gallwch gymryd modiwlau unigol (un neu fwy, yn dibynnu ar eich diddordebau)
  • Os hoffech fynd ymhellach, efallai y byddwch chi’n dewis cwblhau Tystysgrif Ôl-raddedig (tri modiwl wedi’u dewis o raglen ôl-raddedig)
  • At hynny, mae’n bosib y byddwch chi am gyflawni Diploma Ôl-raddedig (chwe modiwl o un o’n rhaglenni)
  • Neu, mae’n bosib y byddwch chi am wneud Gradd Meistr, gan gyflwyno traethawd hir ar ôl cwblhau’r saith modiwl a addysgir.


Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a’r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.

Ffioedd rhan amser:
Mae’r ffioedd ar sail Modiwlau Sengl oni nodir yn wahanol:
Israddedig = 10 Credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd

Yn gyffredinol, bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gwneud 60 credyd y flwyddyn ar gyfer astudiaeth Israddedig ac Ôl-raddedig; er mwyn cael y gost wirioneddol dylech wirio hyn drwy gysylltu’n uniongyrchol â Chyfarwyddwr y Rhaglen.​

Gostyngiad i Weithwyr Partner

Mae gostyngiad ffioedd o 25% ar gael i fyfyrwyr rhan-amser sy’n cael eu cyflogi yn un o ysgolion partneriaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon neu gymuned bartneriaeth. Mae meini prawf a thelerau cymhwysedd yn berthnasol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Derbyniadau.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau drwy ffonio 029 2041 6044 neu anfonwch e-bost at directapplications@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Robert Taffurelli:

E-bost rtaffurelli@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: +44(0)29 2020 1573

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Man Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Blwyddyn llawn amser, dwy flynedd yn rhan amser

Blog Myfyriwr

student blog
From New York to Cardiff – my experience as an International masters student
Kristine Clifford - MA Newyddiaduraeth Arbenigol