Skip to main content
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd>Cyrsiau>Troseddeg ac Ymchwiliadau Troseddol - Graddau Meistr

Troseddeg ac Ymchwiliadau Troseddol - Graddau Meistr

Mae’r MSc Troseddeg ac Ymchwiliadau Troseddol ym Met Caerdydd yn radd gyffrous sy’n darparu dealltwriaeth fanwl a beirniadol o faterion allweddol a chyfoes drwy astudio trosedd a chyfiawnder troseddol. Mae Troseddeg yn bwnc empirig sy’n tynnu ar ystod o ddulliau methodolegol, fframweithiau damcaniaethol, a safbwyntiau amrywiol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ymchwiliad troseddol yn faes astudio hynod ddiddorol lle byddwch yn archwilio astudiaethau achos, yn datblygu cymwyseddau ymchwilio allweddol, ac yn ennill profiad wrth roi eich sgiliau ar waith.

Drwy gydol y cwrs ôl-raddedig hwn, byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau sy’n cynnwys damcaniaethau troseddegol cyfoes a chlasurol, systemau cyfiawnder troseddol, troseddau rhyngwladol, a throseddeg werdd. Bydd cyfle i chi gynnal eich prosiect ymchwil eich hun ar bwnc o’ch dewis, a cewch eich cefnogi gan oruchwyliwr profiadol. Yn ogystal, bydd ffocws sylweddol ar ymchwiliadau troseddol lle byddwch yn archwilio sut i ymchwilio i droseddau treisgar a difrifol fel dynladdiad a throseddau rhywiol difrifol. Byddwch hefyd yn astudio cyfweld ymchwiliol sy’n tynnu ar brosesau ymarferol o gynnal cyfweliadau gyda’r sawl a amheuir a’r seicoleg y tu ôl i hyn.

Bydd y radd Meistr hon mewn Troseddeg ac Ymchwiliadau Troseddol yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol a hanfodol gan gynnwys cyflwyno i gynulleidfa, meddwl yn feirniadol, ymarfer myfyriol, a sgiliau ymarferol fel cyfweld, cynnal ymchwiliadau, a chynnal ymchwil. Yn ogystal â’r priodoleddau hyn, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwilio yn ein sesiynau chwarae rhan gafaelgar a heriol sy’n seiliedig ar senario sy’n berthnasol i’r sector cyfiawnder troseddol ac y gellir eu defnyddio yn y gweithle.


Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Cynnwys y Cwrs

Troseddeg ac Ymchwiliadau Troseddol – MSc (180 credyd)

Yn ystod yr MSc byddwch yn astudio’r modiwlau canlynol:

  • Materion Beirniadol a Chyfoes mewn Troseddeg (20 credyd) – Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i drosedd a throseddeg a fydd yn anelu at loywi gwybodaeth myfyrwyr sydd eisoes wedi astudio troseddeg. Yn benodol, byddwch yn astudio theori droseddegol a phynciau diddorol gan gynnwys troseddeg werdd a phenydeg. Byddwch hefyd yn archwilio tueddiadau a materion sy’n dod i’r amlwg ym maes troseddeg.
  • Ymchwilio i Droseddau Rhyngwladol a Niwed Cymdeithasol (20 credyd) – Bydd y modiwl hwn yn archwilio troseddau rhyngwladol a thrawswladol, megis troseddau rhyfel, troseddau yn erbyn y ddynoliaeth, hil-laddiad, a throsedd ymddygiad ymosodol. Mae materion hanfodol eraill a fydd yn cael eu trafod yn cynnwys hawliau dynol a’r system cyfiawnder troseddol, troseddau trawswladol megis troseddau cyfundrefnol, masnachu cyffuriau, masnachu pobl, cynhyrchu cyffuriau, a throseddau glas a gwyrdd.
  • Cynnal Ymchwil Troseddegol (20 credyd) – Bydd y modiwl hwn yn datblygu gwybodaeth myfyrwyr am agweddau pwysig ar ymchwil droseddegol, gan ddefnyddio dulliau ansoddol a meintiol. Bydd y modiwl yn rhoi dealltwriaeth glir o nodweddion ymchwil wyddonol drylwyr a moesegol ac yn datblygu gallu’r myfyrwyr i ddylunio ac adeiladu ymchwil droseddegol wrth baratoi ar gyfer eu traethawd hir.
  • Troseddwyr, Dioddefwyr a Bregusrwydd (20 credyd) – Nod y modiwl hwn yw astudio gwendidau megis digartrefedd, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol; tlodi; nodweddion gwarchodedig; yn ogystal â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACES) a ffactorau eraill sy’n cyfrannu at wendidau troseddwyr a dioddefwyr. Bydd y modiwl hefyd yn archwilio taith tystion agored i niwed yn y system cyfiawnder troseddol o’r adroddiad cychwynnol i’r llys.
  • Ymchwilio i Droseddau Treisgar a Difrifol (20 credyd) – Mae’r modiwl hwn yn archwilio‘r gwahanol camau o ymchwiliad trosedd mawr ar gyfer dynladdiad a throseddau treisgar a difrifol eraill. Bydd y modiwl yn ymdrin ag agweddau amrywiol ymchwiliad gan gynnwys gwyddoniaeth fforensig, technegau digidol, ac ymagweddau seicolegol. Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i effeithiolrwydd gwahanol ddulliau ymchwilio.
  • Seicoleg a Chymhwysiad Cyfweld Ymchwiliol (20 credyd) – Mae’r modiwl hwn yn archwilio theori a chymhwysiad cyfweld ymchwiliol â’r rhai a amheuir yng Nghymru a Lloegr, a chymhwysiad seicoleg ar hyn. Bydd y modiwl hefyd yn tynnu ar dechnegau cyfweld ymchwiliol a ddefnyddir ledled y byd gan dynnu cymhariaeth rhwng y dechnegau yma.
  • Traethawd Hir (60 credyd) – Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gynnal eu prosiect ymchwil eu hunain ar bwnc o’u dewis, gyda chefnogaeth goruchwyliwr traethawd hir. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth mewn maes penodol ac yn datblygu mwy o annibyniaeth yn eu hymagwedd at ymchwil tra’n dilyn canllawiau moesegol llym.


Gwobrau Ymadael

Troseddeg ac Ymchwiliadau Troseddol – PgD (120 credyd)
Yn ystod y Diploma Ôl-raddedig byddwch yn astudio pob un o’r chwe modiwl 20 credyd a restrir uchod, heb y traethawd hir.

Troseddeg – PgC (60 credyd)
Mae dyfarniad ymadael Tystysgrif Ôl-raddedig Troseddeg hefyd ar gael. Yn ystod y cwrs PgC byddwch yn astudio’r tri modiwl 20 credyd cyntaf (Materion Beirniadol a Chyfoes mewn Troseddeg, Ymchwilio i Droseddau Rhyngwladol a Niwed Cymdeithasol a Cynnal Ymchwil Troseddegol).

Dysgu ac Addysgu

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu sydd wedi’u cynllunio i fodloni ystod o anghenion dysgu, gan gynnwys gweithdai, seminarau, darlithoedd, ac amgylcheddau dysgu rhithwir. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael problemau ymarferol cymhleth efelychiadol y mae’n ofynnol iddynt eu dadansoddi a chreu ymateb priodol ar eu cyfer. Mae’r ymarferion efelychiadol hyn wedi’u cynllunio i ddatblygu sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau.

Mae gan bob modiwl 20 credyd oddeutu 200 awr o astudio. Fel arfer, bydd 24 awr o sesiynau a addysgir megis darlithoedd, seminarau a gweithdai, fel arfer , 2 awr wedi’u hamserlennu yr wythnos. Mae tua 176 awr o ddysgu annibynnol dan arweiniad lle mae myfyrwyr yn ymgymryd â’r gwaith darllen sydd ei angen ar gyfer y modiwl ac yn cwblhau eu hasesiad.


Cymorth

Neilltuir tiwtor personol i bob myfyriwr pan fyddant yn dechrau’r cwrs, ac mae’r tiwtor hwn yn eu cefnogi drwy gydol eu gradd. Bydd cyfarfodydd tiwtor personol wedi’u trefnu y bydd myfyrwyr yn eu mynychu, ond mae tiwtoriaid hefyd yn gweithredu polisi drws agored sy’n caniatáu i fyfyrwyr gael mynediad atynt y tu allan i’r cyfarfodydd rheolaidd.


Technoleg a Chyfleusterau

Bydd y radd Meistr mewn Troseddeg ac Ymchwiliadau Troseddol yn cael eu haddysgu ar draws campysau Cyncoed a Llandaf, lle bydd myfyrwyr yn elwa ar amrywiaeth o gyfleusterau gan gynnwys ein ffug lys a’n tŷ safle trosedd, lle byddant yn cymryd rhan mewn senarios trochi, heriol a gynlluniwyd i roi sgiliau myfyrwyr ar waith.


Staff

Mae’r staff ar y rhaglen hon yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd, gyda phrofiad cenedlaethol a rhyngwladol o fewn eu harbenigedd. Maent wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd dysgu cefnogol o ansawdd uchel. Bydd ystod o ddulliau addysgegol cyfoes yn cael eu hymgorffori wrth gyflwyno pob modiwl. Mae gan ein staff ystod o brofiad, gan gynnwys cefnogi addysg amgen, profiad helaeth o blismona gan gynnwys ymarfer gweithredol a strategol, ymchwilio i safleoedd trosedd, cyfweld â rhai a amheir, a gweithio i frwydro yn erbyn gweithgareddau cartelau a throseddu cyfundrefol rhyngwladol.

Mae ein staff wedi sefydlu cysylltiadau â sefydliadau a gweithwyr proffesiynol yn y sectorau cyfiawnder troseddol a sectorau cysylltiedig. Felly, rydym yn cynnig amrywiaeth o siaradwyr gwadd sy’n cyflwyno sgyrsiau diddorol a phryfoclyd i fyfyrwyr drwy gydol y rhaglen. Yn ogystal, mae ein cysylltiadau â diwydiant yn cynnig cyfleoedd gwych i fyfyrwyr gael profiad bywyd go iawn gydag asiantaethau cyfiawnder troseddol amrywiol, gan gynnwys gyda’r heddlu a’r gwasanaeth carchardai.

Asesiad

Bydd pob modiwl yn cynnwys asesiadau ffurfiannol a chrynodol.

Mae’r asesiadau’n ddiddorol ac yn amrywiol ac wedi’u cynllunio i ddarparu profiadau dilys i’r myfyrwyr ddangos y cymwyseddau byd go iawn y byddai’n ofynnol iddynt eu defnyddio mewn cyd-destunau proffesiynol.

Caiff yr asesiadau eu cwblhau naill ai ar sail unigol neu ar sail grŵp. Darperir ystod amrywiol o gyfleoedd asesu drwyddi draw, gan gynnwys amrywiadau o brofion ysgrifenedig, cyflwyno, viva ar lafar, ymarferol, a phrofion amlddewis llyfr agored.

Mae dau bwynt asesu i bob modiwl, ac mae’r rhain wedi’u cynllunio i roi’r cyfleoedd gorau i fyfyrwyr ddangos eu cryfderau a’u cefndiroedd addysgol eu hunain.

Rhoddir dyddiadau cyflwyno asesiadau i fyfyrwyr ar ddechrau pob modiwl, yn ogystal â grid trosolwg o’r asesu ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan i’w helpu i gynllunio a rheoli eu hamser yn effeithiol. Mae myfyrwyr yn derbyn adborth unigol ar eu gwaith sy’n nodi cryfderau a meysydd i’w gwella.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda fy ngradd?

Bydd gradd Meistr Troseddeg ac Ymchwiliadau Troseddol Met Caerdydd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o rolau yn y sector cyfiawnder troseddol a thu hwnt. Gallai cyrchfannau traddodiadol gynnwys cyflogaeth mewn:

  • Rolau Gwasanaeth yr Heddlu, fel swyddog heddlu, ditectif, staff yr heddlu, ac ati.
  • Gwasanaeth Prawf
  • Gwasanaeth Carchardai
  • Llysoedd y DU, ac amrywiaeth o rolau tebyg eraill


Gallai cyfleoedd eraill gynnwys gweithio gyda:

  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
  • Llu’r Ffiniau
  • Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
  • Gwasanaethau Diogelwch
  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Gweithio fel athro neu ddarlithydd
  • Rolau Llywodraeth Ganolog neu Leol
  • Elusennau


Bydd cyfle hefyd i astudio ymhellach, gan gynnwys:

  • Graddau Meistr Seiliedig ar Ymchwil, fel MRes
  • Astudiaeth Ddoethurol, fel PhD neu EdD


Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer yr MSc Troseddeg ac Ymchwiliadau Troseddol fodloni’r gofynion sylfaenol canlynol:

  • gradd gychwynnol o Brifysgol Metropolitan Caerdydd (gradd Anrhydedd dda o 2:1 neu uwch fel arfer); neu
  • gradd gychwynnol a ddyfernir gan gorff dyfarnu graddau cymeradwy arall, (gradd Anrhydedd dda o 2:1 neu uwch fel arfer); neu
  • y rhai sydd â chymwysterau proffesiynol perthnasol a phrofiad perthnasol (a ystyrir fesul achos).


Gofynion Iaith Saesneg:
Myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, isafswm sgôr IELTS o 6.5 yn gyffredinol heb unrhyw is-sgôr yn is na 5.5 (neu gymhwyster cyfatebol).


Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud cais am y cwrs hwn yn uniongyrchol i’r Brifysgol drwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. Am ragor o wybodaeth ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais yn www.metcaerdydd.ac.uk/sutiwneudcais.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd o sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a/neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yn ogystal â gwybodaeth am sut i wneud cais ar y dudalen RPL.


Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gostyngiad i Weithwyr Partner

Mae gostyngiad ffioedd o 25% ar gael i fyfyrwyr rhan-amser sy’n cael eu cyflogi yn un o ysgolion partneriaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon neu gymuned bartneriaeth. Mae meini prawf a thelerau cymhwysedd yn berthnasol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Derbyniadau.

Cysylltwch â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyn ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch directapplications@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs penodol, cysylltwch â Chyfarwyddwyr y Rhaglen isod:

Enw: Hannah Dastgir
Teitl: Cyfarwyddwr y Rhaglen
E-bost: hdastgir@cardiffmet.ac.uk

Enw: Nick Louis
Teitl: Cyfarwyddwr y Rhaglen
E-bost: nlouis@cardiffmet.ac.uk

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Man Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Blwyddyn yn llawn amser; 2-3 blynedd yn rhan amser