Skip to main content
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd>Cyrsiau>Gradd Meistr Dylunio Cynnyrch

Gradd Meistr Dylunio Cynnyrch

Mae'r cwrs MSc Dylunio Cynnyrch ym Met Caerdydd yn rhaglen Meistri ymarferol a addysgir gyda chysylltiadau rhagorol â diwydiant a ffocws ar wella cyflogadwyedd ei graddedigion.

Mae'n cydbwyso datblygiad sgiliau dylunio ymarferol uwch gyda thrylwyredd academaidd ac ymchwil gymhwysol yn seiliedig ar weithgareddau ymchwil cyfredol Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd a'r brifysgol ehangach.

Bydd ein Gradd Meistr Dylunio Cynnyrch yn datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth am ddylunio rhyngweithio sy'n canolbwyntio ar bobl, profi defnyddwyr, dylunio gwasanaethau, creadigrwydd, a thechnegau ymchwil ethnograffig.

Byddwch yn archwilio effeithiau cymdeithasol, cyfreithiol, moesegol a chynaliadwyedd amrywiaeth o ddulliau datblygu dylunio hefyd.

Byddwch yn archwilio amrywiaeth o safbwyntiau damcaniaethol a methodolegol cyfredol ac arweiniol, ac yn datblygu dealltwriaeth uwch o egwyddorion corfforol, canfyddiadol a gwybyddol mewn dylunio.

Mae'r MSc Dylunio Cynnyrch wedi'i ddatblygu drwy ymgynghori â'r diwydiant, ac mae'n cynnal cysylltiadau masnachol agos drwy fodiwlau lleoliad gwaith, noddi prosiectau mawr, a briffiau byw. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i raddedigion o arferion y diwydiant, a'r broses o ddatblygu dylunio mewn cyd-destun masnachol cyfannol.

Nod y cwrs hwn yw gwella eich cyflogadwyedd drwy roi'r sgiliau a'r wybodaeth y mae galw amdanynt gan ddiwydiannau gartref ac yn fyd-eang, yn ogystal â darparu cyfleoedd i ddatblygu eich galluoedd fel entrepreneur.


Bydd y rhaglen yn cael ei hadolygu o bryd i'w gilydd yn 2021 er mwyn cadarnhau'r cynnwys cwrs isod. Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am unrhyw newidiadau yn dilyn yr adolygiad.

Cynnwys y Cwrs

Mae myfyrwyr MSc yn dilyn y modiwlau canlynol:

  • ​Canfyddiad, Gwybyddiaeth, Emosiwn a Chyd-destun (20 credyd)
  • Egwyddorion ac Ymarfer Datblygu Cynnyrch (20 credyd)
  • Technegau ac Egwyddorion Ymchwil (20 credyd)
  • Materion Cynaliadwyedd mewn Dylunio ar gyfer Cynhyrchu (20 credyd)
  • Profi a Gwerthuso Defnyddwyr (20 credyd)
  • Lleoliad Gwaith Diwydiannol (20 credyd)
  • Prosiect Mawr (60 credyd)


Pwyntiau Gadael y Rhaglen:

  • I ennill Tystysgrif Ôl-raddedig, rhaid i chi lwyddo yn y modiwl Egwyddorion ac Ymarfer Datblygu Cynnyrch ynghyd â dau fodiwl 20 credyd arall. (60 credyd)
  • I ennill MSc Dylunio Cynnyrch, rhaid i chi lwyddo ym mhob modiwl (180 credyd)
  • I ennill Diploma Ôl-raddedig, rhaid i chi lwyddo ym mhob modiwl ac eithrio Prosiect Mawr (120 credyd)

Dysgu ac Addysgu

Cyflwynir y modiwlau fel arfer drwy:

  • Darlithoedd
  • Seminarau
  • Gweithdai
  • Dysgu rhithwir, e.e. Blackboard neu flogiau myfyrwyr neu wicis.
  • Astudiaeth hunangyfeiriedig.

Defnyddir darlithoedd i gyflwyno cysyniadau ac egwyddorion sylfaenol. Defnyddir tiwtorialau a seminarau i drafod ac esbonio meysydd problemus penodol. Defnyddir tiwtorialau grŵp cyfoedion i drafod ac esbonio meysydd problemus penodol. Defnyddir astudiaethau achos, ymarferion ac enghreifftiau i roi cyd-destun i broblemau ac ymarfer dylunio realistig. Gellir gwahodd arbenigwyr allanol i gyfrannu a gellid defnyddio ymweliadau safle hefyd. Bydd y lleoliad diwydiannol yn cael ei ddarparu drwy brofiad gwaith priodol, sy'n seiliedig ar brosiect fel arfer.

Bydd holl ddogfennau'r cwrs, gan gynnwys Llawlyfr Astudiaethau Ymchwil Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Canllaw Astudiaeth Ymchwil Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, y Llawlyfr MA Celf a Dylunio gyda disgrifiadau o fodiwlau, canllawiau asesu a meini prawf, ar gael fel copi caled ac yn electronig. Yn ogystal, bydd cyflwyniadau PowerPoint o ddarlithoedd a deunydd a gynhyrchir gan weithdai, er enghraifft, paragraffau a dadansoddiadau testunol neu weledol a gyfansoddwyd yn ystod gweithdai, ar gael ar Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) Prifysgol Metropolitan Caerdydd).

Bydd cyswllt o bell neu electronig â staff ar gael drwy e-bost a/neu VLE. Bydd y tîm goruchwylio'n cyflawni, rheoli a monitro cynnydd pob myfyriwr drwy nifer o gyfarfodydd unigol a thîm. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i ffurfio a chynnal grwpiau dysgu cyfoedion, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein. Cefnogir dysgu drwy ddefnyddio'r amgylchedd dysgu rhithwir, cyfathrebu electronig, a dulliau perthnasol eraill. Cynghorir unrhyw fyfyrwyr sydd angen cymorth dysgu i gysylltu â Chymorth Dysgu yn y Gwasanaethau Myfyrwyr. Drwy gydol y rhaglen, disgwylir i fyfyrwyr gynnal eu Cynllun/Portffolio Datblygiad Personol (CDP) eu hunain, gyda'r bwriad o ddarparu tystiolaeth o'u gwybodaeth a'u dealltwriaeth mewn perthynas â deilliannau dysgu pob modiwl.

Mae pob 20 credyd yn cyfateb i 240 o oriau dysgu (addysgir 80 fel arfer ac mae 160 yn astudio cyfeiriedig neu'n astudiaeth annibynnol).


Cyfleusterau:

Gofod stiwdio pwrpasol. Mae Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o leoedd, gweithdai ac offer, gan greu amgylchedd dysgu bywiog a chreadigol, o fewn adeilad pwrpasol newydd ac estyniad wedi'i adnewyddu'n llawn. Mae'r cyfleusterau gweithdy a thechnegol yn cynnwys ffowndri; a mynediad i weithdai eraill ar draws y casgliad lawn o ddisgyblaethau Celf a Dylunio. Mae aelodaeth o'r Fablab wedi'i chynnwys yn y costau gwaith cwrs dangosol isod. Mae gan Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd amrywiaeth eang o offer a chyfarpar i'w ddefnyddio gan fyfyrwyr; hyfforddiant gweithdy angenrheidiol yn eu defnydd yn cynnwys mynediad at ddeunyddiau a ddefnyddir fel rhan o sesiynau cynefino gweithdai sydd ar yr amserlen. Mae gennych fynediad at ddeunyddiau wedi'u hailgylchu yn yr ardaloedd gweithdy hefyd.


Costau Gwaith Cwrs Dangosol

Bydd angen i chi brynu deunyddiau ar gyfer prosiectau unigol a ddefnyddir yn y stiwdio ac mewn gweithdai fel y bo'n briodol. Sylwch y bydd y costau'n amrywio yn dibynnu ar raddfa a gofynion unigol eich gwaith. Fel arfer, awgrymwn eich bod yn neilltuo cyllideb o £575 ar gyfer eich prosiectau yn ystod y Rhaglen MSc.


Costau Ychwanegol Eraill:

Bydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â phrynu offer a chyfarpar personol untro (yn enwedig unrhyw offer personol sy'n briodol i'ch maes ymarfer neu ymholiad eich hun) a theithiau astudio os byddwch yn cymryd rhan ynddynt. Costau eraill fel argraffu, prynu gwerslyfrau; a bydd angen talu cost lleoliadau dewisol hefyd. Gofynnwch i Gyfarwyddwr eich Rhaglen am ganllawiau penodol pan fyddwch yn derbyn ein cynnig o le.

Asesu

Ar gyfer pob modiwl, mae'r asesu fel a ganlyn:

APD401M Egwyddorion ac Ymarfer Datblygu Cynnyrch (20 Credyd)
Aseiniad sy'n gyfwerth â 6000 gair. Aseiniad ysgrifenedig fydd hwn fel arfer.


APD403M Materion Cynaliadwyedd mewn Dylunio ar gyfer Cynhyrchu (20 Credyd)
Cyfwerth â 6000 gair. Bydd y modiwl hwn yn cael ei asesu drwy brosiect dylunio fel arfer. Fodd bynnag, gellir dyfarnu cyfran o'r aseiniad ar gyfer gwaith ysgrifenedig neu gyflwyniad.


MAA7001 Dulliau Ymchwil mewn Celf a Dylunio (20 Credyd)
Cyflwyniad ysgrifenedig, ynghyd â chyflwyniad seminar, sy'n 3,000 o eiriau fel arfer ynghyd â chyflwyniad 10-20 munud.


ApD405M Profi a Gwerthuso Defnyddwyr (20 Credyd)
Cyfwerth â 6000 gair. Gellir cysylltu'r modiwl hwn ag eraill er mwyn darparu dull ar gyfer prosiect dylunio. Beth bynnag, bydd yn cynnwys ymarferion ymarferol a gellir dyfarnu cyfran os nad y cyfan o'r aseiniad ar gyfer gwaith ysgrifenedig neu gyflwyniad.


ApD406M Ffurf, Siâp a Lliw (20 Credyd)
Cyfwerth â 6000 gair. Mae'r prosiect hwn yn debygol o gael ei asesu drwy weithgarwch dylunio ymarferol, er y gellir dyfarnu cyfran o'r aseiniad ar gyfer gwaith ysgrifenedig neu gyflwyniad.


Prosiect PD407M Mawr (60 credyd)
Cyfwerth â 18,000 gair. Caiff perfformiad ei fesur gan ddefnyddio'r Adroddiad Terfynol, Cyflwyniad Ffurfiol, arholiad Viva Voce a'r cynnyrch terfynol. O'r marciau sydd ar gael ar gyfer y prosiect, mae dyraniad y marciau i bob un o'r mesurau fel a ganlyn:

  • Adroddiad Terfynol: 40%
  • Cynnyrch Terfynol (prototeip): 40%
  • Cyflwyniad Ffurfiol: 5%
  • Viva Voce: 15%

APD408M(A) Lleoliad Diwydiannol (20 Credyd)
Cyfwerth â 6000 gair. Adroddiad 3000 gair (uchafswm) yn myfyrio ar brofiad y myfyriwr yn yr amgylchedd gwaith proffesiynol. Llyfr Log lleoliad myfyriol (neu Flog cyfatebol) sy'n cofnodi myfyrdodau beirniadol ar ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrofiadau. Nodyn Pwysig: Oherwydd anawsterau asesu yn y gweithle a'r potensial ar gyfer gwahaniaeth mewn triniaeth, ni ddyfernir marc i'r modiwl hwn heblaw "Llwyddo" neu "Fethu”.


Bydd cymorth ar gael drwy seminarau grŵp bach wythnosol (dim mwy nag 16 o fyfyrwyr fesul grŵp fel arfer), gan archwilio thema darlithoedd a rhoi cyfle i fyfyrwyr egluro eu dealltwriaeth.

Gall y sesiynau hyn fod yn weithdai hefyd lle cynhelir arddangosiadau ymarferol, sy'n cynnwys cyfranogiad myfyrwyr. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, ysgrifennu mewn grŵp neu ddadansoddiad drwy drafodaeth mewn grŵp bach. Bydd tiwtorialau wythnosol ar gael hefyd.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Nod y cwrs yn bennaf yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu gyrfaoedd ym myd dylunio a datblygu cynnyrch proffesiynol. Mantais allweddol wrth gyflawni'r nod hwn yw'r modiwl lleoliad diwydiannol. Rhoddir cymorth i bob myfyriwr gael lleoliad addas naill ai mewn diwydiant neu yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Dylunio a Datblygu Cynnyrch (PDR) sydd wedi'i leoli ar gampws y brifysgol.

Ar ôl cwblhau'r cwrs, gall graddedigion ddisgwyl dod o hyd i waith mewn ymgynghoriaethau dylunio neu gwmnïau gweithgynhyrchu unrhyw le yn y byd.

Mae eich blwyddyn/blynyddoedd astudio gyda ni yn eich galluogi i ddatblygu cysylltiadau proffesiynol, gweld sut mae ymarferwyr llwyddiannus yn gwneud eu bywoliaeth, ac yn mireinio eich sgiliau a'ch syniadau er budd masnachol a phroffesiynol. Bydd cydweithrediadau trawsddisgyblaethol o'r fath yn eich paratoi ar gyfer byd lle y bydd yn anochel y byddwch yn gweithio gyda phobl o bob cefndir. Bydd eich prosiectau a'ch asesiadau byw yn eich helpu i ddod yn gyfarwydd â phwysigrwydd terfynau amser a gweithio i friffiau penodol a manylebau tynn.

Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd yn datblygu cyfleoedd i ddeor cynigion busnes gan ei graddedigion a hyfforddiant ôl-raddedig i roi cyfleoedd busnes ar waith.

Disgwylir i bob myfyriwr gwblhau 'cofnod cyflawniad' cludadwy a defnyddio eu CDP i gefnogi cyflogadwyedd a dysgu gydol oes, ar ffurf blog fel arfer, sy'n integreiddio cyfleoedd ar gyfer hunanfyfyrio mewn rhaglenni er mwyn eu helpu i ddatblygu fel dysgwyr effeithiol a hyderus.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Fel arfer, bydd myfyrwyr wedi ennill gradd gyntaf dosbarth cyntaf neu adran uwch ail ddosbarth (dosbarthiad gradd 1af neu 2.1) mewn pwnc priodol, a/neu brofiad neu statws proffesiynol cyfatebol mewn disgyblaeth Dylunio (yn seiliedig ar Ddysgu Blaenorol Achrededig a aseswyd neu Ddysgu Drwy Brofiad Blaenorol Achrededig a aseswyd), neu ddisgyblaeth sy'n gysylltiedig â'u rhaglen astudio.

Asesir hawliadau am Ddysgu Blaenorol Achrededig (APL) yn unol â Llawlyfr Academaidd Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yn seiliedig naill ai ar dystiolaeth o ddeilliannau dysgu asesedig gyda chyfatebiaeth, neu brofiad cyfatebol lle mae myfyrwyr "wedi dysgu mewn ffyrdd yr un mor uchelgeisiol". Fel arfer, disgwylir i hawliadau APL gael eu cymeradwyo adeg cofrestru.


Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.


​Gweithdrefn Ddethol:
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ôl-raddedig yr Ysgol Celf a Dylunio (CSAD) wneud cais drwy wefan derbyniadau Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a chwblhau gwybodaeth ychwanegol drwy wefan yr Ysgol Celf a Dylunio. Mae'r wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen yn cynnwys: datganiad am eich gwaith a'ch ymarfer cyfredol a'r diddordebau sy'n ei lywio; datganiad cryno yn amlinellu pam yr hoffech ddilyn y cwrs hwn; amlinelliad o'r prosiect proffesiynol neu ymchwil yr hoffech ei ddatblygu ar y cwrs hwn; a phortffolio o'ch gwaith blaenorol (lle bo'n briodol) i gefnogi eich cais. Gellir cyflwyno delweddau o'ch gwaith neu enghreifftiau o waith ysgrifenedig drwy wefan bersonol neu drwy blatfform ar-lein priodol (e.e. Flickr, Tumbr neu Wordpress). Dylid cyfeirio at o leiaf bedair enghraifft wahanol o'ch gwaith. Cyn i gynnig gael ei wneud, efallai y gofynnir i rai ymgeiswyr fynychu cyfweliad, drwy ymweld ag Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd neu drwy Skype neu adnoddau trafod ar-lein tebyg.

Llenwch y ffurflen Datganiad Personol orfodol a'i hatodi i'ch cais. Gellir ei lawrlwytho yma.


Sut i wneud cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn i'r brifysgol yn uniongyrchol drwy ein cyfleuster hunanwasanaeth

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais yma: 

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd o sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a/neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yn ogystal â gwybodaeth am sut i wneud cais ar dudalen Dysgu Blaenorol Achrededig (RPL).

Ni fydd ymgeiswyr ar gyfer yr MSc Dylunio Cynnyrch o gyrsiau nad ydynt yn achrededig gan IED (Sefydliad Dylunwyr Peirianneg), yn derbyn achrediad IED ar ôl cwblhau'r cwrs hwn ym Met Caerdydd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ffioedd Dysgu a Chymorth Ariannol:
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r cymorth ariannol a allai fod ar gael. Cyfeiriwch at www.metcaerdydd.ac.uk/study/finance/Pages/default.aspx.


Ffioedd rhan-amser:
Codir ffioedd fesul modiwl unigol oni nodir yn benodol:
Israddedig = 10 credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd

I gael gwybodaeth am fodiwlau i'w hastudio'n rhan-amser, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen.


Costau astudio ôl-raddedig yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd

Deunyddiau

Byddwch yn derbyn mynediad at ddeunyddiau a ddefnyddir fel rhan o sesiynau cynefino gweithdai sydd ar yr amserlen. Cewch fynediad at ddeunyddiau wedi'u hailgylchu hefyd a chewch eu defnyddio mewn ardaloedd gweithdy lle maent ar gael. Yn gyffredinol, bydd angen i chi brynu deunyddiau ar gyfer prosiectau unigol a ddefnyddir yn y stiwdio a'r gweithdai fel y bo'n briodol. Sylwch y bydd y costau'n amrywio yn dibynnu ar raddfa a gofynion unigol eich gwaith. Yn ogystal, bydd angen cyllidebu ar gyfer prynu offer a chyfarpar personol untro. Costau eraill fel argraffu, prynu gwerslyfrau; a bydd angen i chi dalu cost lleoliadau dewisol hefyd.

Ar y cyfan, ni chodir tâl am ddefnyddio offer, ac eithrio peth offer drud arbenigol fel yr argraffyddion Mimaki a 3D. Mae mynediad i FabLab Caerdydd​ yn amodol ar aelodaeth myfyrwyr; mae'n cynnig ffioedd is i fyfyrwyr ei ddefnyddio.

I gael rhagor o wybodaeth am gostau cwrs ychwanegol, gan gynnwys ffioedd, gofynion cyfarpar a thaliadau eraill ar gyfer pob rhaglen ôl-raddedig, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/additionalcosts.


​Teithiau maes ac ymweliadau

Trefnir Teithiau Astudio yn ystod y flwyddyn a gofynnir i fyfyrwyr rannu'r costau. Cyfrifoldeb y myfyriwr unigol yw costau astudio dramor, gan gynnwys cyfleoedd cyfnewid, lleoliadau a phrosiectau.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch directapplications@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau sy'n benodol i'r cwrs , cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Aidan Taylor ar artaylor@cardiffmet.ac.uk



Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Lleoliad Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gostyngiad o 20% i Gynfyfyrwyr:
Mae Gostyngiad Cynfyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ostyngiad o 20 y cant yn y ffioedd dysgu ar gyfer Cynfyfyrwyr Met Caerdydd sy'n cofrestru ar gyrsiau ôl-raddedig a addysgir.
Edrychwch i weld a ydych yn gymwys.