Ynglŷn â Ni>Campysau a Lleoliadau>Parcio Ceir a Reolir

Parcio Ceir a Reolir

​​​Saba Park Services sy’n rheoli meysydd parcio’r Brifysgol ar ei rhan.

Mae’r Brifysgol eisiau cadw cyfleuster diogel, cyfleus a saff er budd yr holl ddefnyddwyr.

Mae’r polisi parcio ceir a reolir yn darparu system deg a chyfiawn ar gyfer gweinyddu’r meysydd parcio.


Meysydd Parcio

  • Campws Llandaf
  • Campws Cyncoed
  • Neuaddau Plas Gwyn
  • Tŷ Alexander, Rhodfa’r Gorllewin


Darllenwch ein Polisi a Rheoliadau Parcio.


Parcio i Staff

Gall staff ymgeisio am drwydded barcio yn y Brifysgol. Dylid cwblhau ceisiadau am drwydded barcio ar-lein.


Dewisiadau Trwydded Barcio i Staff

Trwydded wedi’i Didynnu o’r Cyflog

  • Cyfradd Safonol – £20.00 y mis calendr / 0.76 CALl i Llawnamser.
  • Cyfradd Is – £15.00 y mis calendr / O dan 0.76 CALl.


Trwydded Talu ac Arddangos

  • Tariff Talu ac Arddangos safonol ar gyfer holl ddefnyddwyr Meysydd Parcio Prifysgol Metropolitan Caerdydd.


Gall staff nad ydynt yn derbyn cyflog misol brynu tocynnau Talu ac Arddangos dyddiol, wythnosol, pythefnosol a misol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â carparkmanagement@cardiffmet.ac.uk.


Parcio i Fyfyrwyr – Ceisiadau am Drwydded

Mae’r trwyddedau’n ddilys o 1af Hydref hyd at 30ain Mehefin yn y flwyddyn academaidd bresennol. Nid yw’r trwyddedau’n gwarantu lle parcio i chi.

Gellir rhoi trwyddedau i fyfyrwyr sy’n bodloni unrhyw un o’r amgylchiadau eithriadol isod. Cost flynyddol trwydded rhagdalu i fyfyriwr yw £180 neu gallwch ddewis talu ac arddangos ar y gyfradd a hysbysebir.

  • Amgylchiadau Personol Eithriadol: Rhowch fanylion / gwybodaeth ategol gyda’ch cais.
  • Gweithgareddau Academaidd Allgyrsiol: Rhowch fanylion / gwybodaeth ategol gyda’ch cais.
  • Teithio o Bell i Astudio ar y Campws: Rhowch fanylion / gwybodaeth ategol gyda’ch cais.


Cliciwch yma i gwblhau’r ffurflen gais am drwydded barcio.


​Personau ag Anableddau

Mae deiliaid Bathodynnau Glas wedi’u heithrio rhag talu ym meysydd parcio’r Brifysgol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn parcio yn unrhyw un o’r mannau parcio dynodedig i bobl anabl, ac yn arddangos Bathodyn Glas dilys.


Trwyddedau Anabledd Dros Dro

Mae trwydded â therfyn amser, i alluogi parcio mewn man hygyrchedd dynodedig, ar gael i’r rhai sydd ag analluogrwydd neu anaf dros dro sy’n effeithio ar symudedd. Dim ond wrth ochr trwydded rhagdalu ddilys neu docyn Talu ac Arddangos y mae’r pàs hwn wedi’i gymeradwyo.

I ymgeisio am drwydded anabledd dros dro, e-bostiwch carparkappeals@cardiffmet.ac.uk.


Parcio i Westeion ac Ar Gadw – Wrthi’n cael ei adolygu

Mae gofyn i bob ymwelydd â Met Caerdydd Dalu ac Arddangos ar y gyfradd gywir.

Rhaid i ymwelwyr â Champws Llandaf rhwng 08.00yb a 4.00yp fynd i’r Dderbynfa i gofrestru eu cerbyd ar drwydded barcio rithiol dros dro ochr yn ochr â’u tocyn Talu ac Arddangos. Mae mannau parcio i ymwelwyr yn Llandaf yn gyfyngedig iawn ac felly nid oes gwarant o le parcio.

Ar gyfer parcio adeg digwyddiadau, trafodwch y parcio gyda’r trefnwyr cyn eich ymweliad.

Nid yw myfyrwyr yn cael eu hystyried yn ymwelwyr wrth astudio yn y Brifysgol. Mae angen trwydded ar gyfer parcio ar y campws, oni nodir fel arall.


Mannau Parcio Ar Gadw i Ymwelwyr

Dim ond yn fewnol y gellir archebu mannau parcio ar gadw i ymwelwyr.

Gall Ysgolion ac Unedau archebu mannau ar gyfer eu hymwelwyr yn y bore (08:30-13:00 (£1)), y prynhawn (13:00 – 17:00 (£1)) neu’r diwrnod cyfan (08:30 – 17:00 (£2)).

Dylai’r Ysgol / Uned roi gwybod i’w hymwelydd / hymwelwyr am leoliad a nifer eu man(nau) parcio dynodedig.

Ar ôl cyrraedd, os nad ydych yn siŵr o ran lleoliad eich man parcio ar gadw, ewch i’r dderbynfa ar y safle lle gall rhywun eich cyfeirio chi.


Parcio i Ymwelwyr Allanol – Wrthi’n cael ei adolygu

Nid oes angen i Ddeiliaid Bathodynnau Glas ymgeisio am drwydded ac maent wedi’u heithrio rhag y taliadau.

Rhaid i’r holl ymwelwyr â Llandaf arddangos trwydded yn ystod yr wythnos rhwng 8yb a 4yp. Gallwch gasglu trwydded dros dro o’r dderbynfa.


Cleifion y Clinig

  • Mae’n ofynnol Talu ac Arddangos ar y gyfradd briodol.
  • Mannau Parcio ar gael yn y Parth dynodedig i’r rhai sy’n arddangos “Pàs Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd” wrth ochr tocyn Talu ac Arddangos.
  • Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd i roi pàs dros dro gydag apwyntiadau. Rhaid arddangos y pàs bob amser.


Cynrychiolwyr Cynadleddau

  • Mae’n ofynnol Talu ac Arddangos ar y gyfradd briodol.
  • Mae parcio ar gael yn y Parthau Cyffredinol / Staff ac Ymwelwyr ar Gampws Cyncoed.
  • Rhaid cadw lle parcio ar Gampws Llandaf ymlaen llaw drwy’r Gwasanaethau Cynadledda.


Contractwyr

  • Mae’n ofynnol Talu ac Arddangos ar y gyfradd briodol.
  • Gall contractwyr sy’n mynychu’r safle’n rheolaidd ar fusnes Prifysgol Metropolitan Caerdydd wneud cais i brynu Trwydded Rhagdalu ar y gyfradd flynyddol lawn.
  • Y Pennaeth Uned / Deon Ysgol sy’n gyfrifol am y gwaith neu’r gwasanaeth a wneir i awdurdodi’r Ffurflen Gais am Drwydded.


Ceir Llog

  • Wedi’u heithrio rhag talu: Rhaid parcio ceir sydd ar log at ddibenion busnes Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn y mannau parcio cyffredinol gyda thag adnabod i’w weld yn glir ar y ffenestr flaen. Bydd y ceir llog yn darparu tag hongian ar gyfer y drych ôl.
  • Ar ôl cyrraedd: Cwmni llog i arddangos y tag.
  • Ar ôl dychwelyd i’r aafle: Aelod o staff y llogwyd y cerbyd iddo i arddangos y tag. Rhaid arddangos y tag bob amser.


Cyfleusterau Chwaraeon (Cyncoed) – Aelodau / Defnyddwyr Achlysurol

  • Mae’n ofynnol Talu ac Arddangos ar y gyfradd briodol.
  • Mae parcio ar gael yn y Parthau Cyffredinol / Staff ac Ymwelwyr.
  • Bydd timau chwaraeon sy’n ymweld sy’n teithio ar goetsis / bysiau mini wedi’u heithrio rhag talu.


Tenantiaid / Deiliaid Trwydded

  • Dylech ymgeisio am Drwydded Ddi-dâl a Thalu ac Arddangos ar y gyfradd briodol.
  • Gallwch ymgeisio i brynu Trwydded Rhagdalu ar y gyfradd flynyddol lawn.
  • Penaethiaid Ysgolion / Unedau i awdurdodi’r Ffurflen Gais am Drwydded.


Tariffau

Cyfnodau Gweithredu

  • Cyfradd Frig: Dydd Llun – Dydd Gwener, 08:00 – 16:00.
  • Cyfradd Allfrig: Dydd Llun – Dydd Gwener, 16:00 – 08:00, a holl ddyddiau’r penwythnos.


Cyfraddau Talu

​Tocyn Diwrnod (24 awr ar ôl ei brynu)
​£2.00
​Tocyn Hanner Diwrnod (4½ awr ar ôl ei brynu)
​£1.00
​Tocyn Wythnosol
​£8.00
Tocyn Pythefnosol
​£16.00
Tocyn Misol
​£24.00
Cyfradd Allfrig
​£0.50


Gellir prynu tocynnau trwy unrhyw un o’r peiriannau Talu ac Arddangos yn y meysydd parcio, taliadau cerdyn yn unig, NEU gallwch brynu’ch tocynnau o bell trwy ap Parcio Saba, sydd ar gael i’w lawrlwytho i ddyfeisiau symudol trwy’r Apple App Store a’r Google Play Store.


Cwestiynau Cyffredin

“Rydw i wedi derbyn tocyn rydw i eisiau ei apelio”

Apeliwch eich tocyn yn uniongyrchol gyda Saba Parking. Mae eu manylion cyswllt ar gefn eich hysbysiad parcio.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i apelio tocyn parcio, cysylltwch â carparkappeals@cardiffmet.ac.uk. Ymchwilir i bob apêl, ond ni allwn warantu y bydd eich apêl yn llwyddiannus.


“Rydw i eisiau canslo fy nhrwydded”

Rhaid ichi ganslo eich trwydded yn ysgrifenedig i carparkmanagement@cardiffmet.ac.uk.


“Rwy’n newid car, beth sydd angen i mi ei wneud?”

E-bostiwch carparkingmanagement@cardiffmet.ac.uk gyda manylion y car newydd, a’r car y mae’n cymryd ei le ar y drwydded:

  • Rhif(au) cofrestru, gwneuthuriad, model, lliw.

Caniatewch 2 ddiwrnod gwaith i’r drwydded newydd ddod yn weithredol. Byddwch yn derbyn hysbysiad drwy e-bost o hyn unwaith y bydd y tîm wedi prosesu’r cais.

Mewngofnodwch gyda’r Dderbynfa hyd nes i chi dderbyn cadarnhad o’r newidiadau, oherwydd efallai y byddwch yn cael tocyn fel arall.


“Byddaf yn defnyddio car gwahanol dros dro am rai dyddiau”

Os byddwch yn defnyddio car gwahanol am ddiwrnod yn unig, gallwch fewngofnodi hyn drwy’r naill dderbynfa neu’r llall ar y campysau. Os ydych wedi’ch lleoli yn Nhŷ Alexander neu Blas Gwyn, cysylltwch â thîm Rheoli’r Maes Parcio fel y nodir isod.

Os byddwch yn defnyddio car dros dro am wythnos neu fwy, bydd angen i chi anfon e-bost gyda rhif cofrestru’r car dros dro, ynghyd â pha mor hir y byddwch yn defnyddio’r car gwahanol.


Cysylltwch â Ni

Os oes gennych ymholiad yn ymwneud â Throseddau Parcio, Hysbysiadau Rhybuddio, Gorfodi, Hysbysiad Tâl Gosb (PCN) neu faterion gweithredol eraill, cysylltwch â:

Saba Park Services UK Limited
Canolfan Cymorth Busnes
Cysylltwch â Ni | Saba Park UK (sabaparking.co.uk)
Swyddfa Gofrestredig: Ail Lawr, Adeilad 4, Parc Croxley, Hatters Lane, Watford, Swydd Hertford WD18 8YF

Gall y Ganolfan Cymorth i Gwsmeriaid helpu gydag ymholiadau cwsmeriaid, ffoniwch 0330 123 5247.


Os oes gennych ymholiad ynglŷn â gweinyddu trwyddedau, gan gynnwys ceisiadau, cysylltwch â:

Rheoli Maes Parcio
Campws Llandaf
200 Rhodfa’r Gorllewin
Caerdydd
CF5 2YB

Ffôn: 029 2041 6161
E-bost: carparkmanagement@cardiffmet.ac.uk