Llongyfarchiadau ar ennill lle ar un o'n rhaglenni TAR!
Wrth baratoi ar gyfer y rhaglen TAR ym mis Medi, yma y cewch eich
Gwybodaeth am Ymuno.
Yn ogystal â'r wybodaeth isod, cyfeiriwch hefyd at
Fanyleb eich Rhaglen, y byddwch eisoes wedi'i gweld pan gawsoch eich cynnig.
Mae'r gwybodaeth isod yn y broses o gael ei diweddaru ar gyfer mynediad 2024. Bydd gwybodaeth pwysig ac unrhyw ddiweddariadau yn cael eu e-bostio at ymgeiswyr fel mae ar gael. Cysylltwch â askadmissons@cardiffmet.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Dyddiad cychwyn y cwrs - 9fed Medi 2024
Cofrestru
Mae hon yn broses hanfodol sy'n cadarnhau eich statws fel myfyriwr Met Caerdydd. Mae hefyd yn caniatáu mynediad ichi at eich gwybodaeth talu ffioedd, systemau gwybodaeth eich rhaglen, ac yn eich galluogi i gael gafael ar eich MetCard Myfyrwyr.
Er mwyn cwblhau'r
hunan-gofrestru ar-lein, rhaid i'ch statws fod yn ddiamod (UF) a rhaid i'ch DBS Uwch gael ei glirio a'i ddilysu gan yr adran Dderbyniadau.
Sylwch - bydd cofrestru yn agor o 24 Gorffennaf a byddwch yn derbyn e-bost ar sut i gwblhau'r broses.
Cyllid a Chymhellion
Gwybodaeth bellach ar sut i wneud cais trwy Gyllid Myfyrwyr os oes angen cyllid arnoch chi i dalu am eich ffioedd dysgu.
Mwy o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael ar gyfer Hyfforddiant Athrawon yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn talu'r
cymhellion i Met Caerdydd sydd yn ei dro yn talu'r swm perthnasol i fyfyrwyr cymwys yn fisol. Nid oes rhaid i chi wneud cais am y cymhelliant. Os ydych chi'n gymwys, wedi cofrestru a dechrau'ch hyfforddiant yn llwyddiannus, bydd y rhandaliadau yn cael eu talu'n uniongyrchol i chi -
mwy wybodaeth.