Astudio>Prentisiaethau Gradd>Gwybodaeth i Gyflogwyr

Gwybodaeth i Gyflogwyr​

Beth yw Prentisiaeth Gradd?

Mae Prentisiaeth Gradd yn ddewis arall yn lle astudiaeth draddodiadol yn y brifysgol sy’n cyfuno elfen brentisiaeth seiliedig ar waith â fframwaith academaidd cymhwyster Addysg Uwch.

Mae Prentisiaeth Gradd yn cynnig cyfle i brentisiaeth/gweithwyr astudio’n rhan amser ar gyfer cymhwyster academaidd tra’n gweithio’n llawn amser gyda chyflogwr, gan ennill profiad byd go iawn yn eu llwybr gyrfa dewisol.

Mae Ysgol Dechnolegau Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnig Prentisiaethau Gradd a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw ffioedd dysgu i’r prentis sy’n ymgymryd â’r radd, a dim ond un diwrnod yr wythnos sydd angen i gyflogwyr ymrwymo i’w cyflogei/prentis astudio ym Met Caerdydd.


Pa Brentisiaethau Sydd ar Gael?

Ar hyn o bryd mae Ysgol Dechnolegau Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnig y cyfleoedd prentisiaeth gradd canlynol:


Manteision

  • Yr opsiwn i uwchsgilio staff presennol sydd wedi dangos potensial ar gyfer datblygu.
  • Yr opsiwn i ddod â thalent newydd i mewn i’r busnes. Mae’r Brifysgol ar hyn o bryd yn derbyn nifer o geisiadau gan ymgeiswyr sy’n chwilio am y cyfleoedd hyn.
  • Mynediad at y meddylfryd a’r datblygiadau diweddaraf yn y maes drwy ddull modern o addysgu wedi’i ysbrydoli gan y diwydiant.
  • Arbediad posibl o £27,000 ar ffioedd dysgu safonol, sef £9,000 y flwyddyn pe byddai’n cael ei dalu’n uniongyrchol i’r Brifysgol.
  • Y cyfle i weithio gyda’r Brifysgol i recriwtio talent newydd i’r busnes.


Cyllid a Chymhwysedd

Mae Prentisiaethau Gradd yn cael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.

I fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen:

  • rhaid i brentisiaid fod yn gyflogedig yng Nghymru am o leiaf 51% o’u hamser
  • rhaid i brentisiaid fod dros 16 oed


Mae gan y Brifysgol nifer o ofynion mynediad i gyrsiau canllaw ond mae’r rhain yn hyblyg oherwydd natur y cwrs a gellir eu trafod fesul achos. Gellir dod o hyd i’r gofynion mynediad ar gyfer rhaglenni o dan yr adran ‘Pa Brentisiaethau Sydd ar Gael’ uchod drwy ddewis y cwrs perthnasol.


Cofrestrwch Eich Diddordeb

I gofrestru eich diddordeb ac i drafod ymhellach gydag aelod o’n tîm, cysylltwch â apprenticeships@cardiffmet.ac.uk.