Skip to main content
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>Cyrsiau>Seicoleg Newid Ymddygiad Cymhwysol - MSc

Meistr Seicoleg Newid Ymddygiad Cymhwysol - MSc/PgD/PgC

Mae'r MSc mewn Seicoleg Newid Ymddygiad Cymhwysol ar gyfer graddedigion Seicoleg sy'n dymuno ehangu eu gwybodaeth, eu sgiliau ymchwil a'u profiad o gymhwyso seicoleg. Bydd y rhaglen yn darparu cymorth hyblyg sy'n ymateb i anghenion myfyrwyr, gan gydnabod pwysigrwydd eu profiad wrth ymgysylltu â deunyddiau a chynnwys y rhaglen.

Mae'r rhaglen yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes mewn cyflogaeth ac sydd am wella eu hymarfer a'u sylfaen sgiliau bob dydd, neu raddedigion diweddar sydd am ehangu eu sgiliau a'u gwybodaeth i baratoi ymhellach ar gyfer gyrfa. Mae’r rhaglen wedi’i dylunio i feithrin sgiliau ymchwil (gyda phwyslais ar ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth), ac i gefnogi myfyrwyr i feddwl am ac ennill sgiliau sy’n canolbwyntio ar bwysigrwydd perthnasoedd ystyrlon sy’n cefnogi newid ymddygiad. O'r herwydd, mae'r rhaglen wedi'i hanelu at y rheini sy'n gweithio gydag eraill ac yn eu rheoli.

Gall newidiadau ddigwydd i werthoedd credyd penodol rhai modiwlau oherwydd newid ym Mholisi'r Brifysgol i gyflwyno credydau mewn lluosrifau o 20, a fydd yn cael ei gadarnhau trwy ddigwyddiad addasu. Rhoddir gwybod i ymgeiswyr am unrhyw newidiadau unwaith y bydd yr addasiad wedi'i gadarnhau.

Sylwch: Nid yw MSc Seicoleg Newid Ymddygiad Cymhwysol yn rhedeg ar gyfer mynediad 2023/24 ac felly ni fydd yn derbyn ceisiadau. Byddwn yn adrodd yma pan fyddwn yn agor y cwrs ar gyfer derbyniad newydd.

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Cynnwys y Cwrs

Mae gan y cwrs dri phwynt ymadael diffiniedig:

Tystysgrif Ôl-raddedig (PgC) - bydd myfyrwyr sy'n cwblhau 60 credyd ar lefel 7 (lefel meistr) yn gymwys i gael PgC. Bydd hyn yn cynnwys modiwlau craidd ac un modiwl seicoleg gymhwysol.

Diploma Ôl-raddedig (PgD) – bydd myfyrwyr sy'n cwblhau 120 credyd ar lefel 7 yn gymwys i gael PgD. Bydd hyn yn cynnwys modiwlau craidd, dau fodiwl seicoleg gymhwysol a dau fodiwl dewisol arall.

Meistr mewn Gwyddoniaeth (MSc) - bydd myfyrwyr sy'n cwblhau 180 credyd, gan gynnwys y traethawd hir, yn gymwys i gael MSc.

Cynlluniwyd y rhaglen i fod yn hyblyg ac i ddiwallu anghenion dysgu myfyrwyr unigol. Mae’n bosibl cwblhau rhai modiwlau unigol fel Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), er bod ffi ar wahân am y math hwn o astudiaeth.

Modiwlau:
Elfennau craidd:

  • Dulliau a Dyluniad Ymchwil (30 credyd)
  • Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth (10 credyd)
  • Sgiliau Therapi Seicoleg Gymhwysol (uchafswm o 40 credyd):
  • Sgiliau Craidd ar gyfer Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) (20 credyd)
  • Cyfweld Cymhellol (20 credyd)
  • Gwaith therapiwtig gyda phlant ifanc (20 credyd)

I fod yn gymwys ar gyfer y PgC rhaid i fyfyrwyr gwblhau un o'r modiwlau uchod, ac i fod yn gymwys ar gyfer y PgD a'r MSc rhaid iddynt gwblhau dau o'r modiwlau uchod. Mae'r modiwlau hyn yn fodiwlau seicoleg gymhwysol craidd, sy'n helpu i feithrin sgiliau ymarferol y gellir eu defnyddio mewn amrywiaeth o leoliadau seiliedig ar waith. Bydd y modiwlau hyn hefyd ar gael fel modiwlau DPP annibynnol.

Modiwlau Dewisol:
Rhaid i fyfyrwyr gwblhau dau o'r modiwlau canlynol er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y PgD neu MSc

  • Newid Ymddygiad: Damcaniaethau a Gwerthuso (20 credyd) Dysgu Seiliedig ar Waith (20 credyd)
  • Datblygu Polisi Iechyd y Cyhoedd (20 credyd)
  • Fframweithiau ar gyfer Ymyrraeth Iechyd y Cyhoedd (20 credyd)
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth Strategol (20 credyd)
  • Traethawd hir (60 credyd)

Rhaid i fyfyrwyr gwblhau modiwl y traethawd hir i fod yn gymwys ar gyfer yr MSc. Neilltuir dau oruchwyliwr academaidd ar gyfer pob prosiect ymchwil, gan helpu'r myfyriwr i ddylunio a chynnal yr ymchwil. Disgwylir y bydd myfyrwyr yn cwblhau prosiectau mewn lleoliadau cymhwysol, sy'n adeiladu ar sgiliau a phrofiad.

Dysgu ac Addysgu

Mae'r cyfleoedd addysgu a dysgu ar y rhaglen wedi'u cynllunio i gefnogi ymgysylltiad myfyrwyr trwy sesiynau wyneb yn wyneb a'r defnydd o ddeunyddiau ar-lein. Ar gyfer modiwlau craidd ac opsiynau, defnyddir darlithoedd, seminarau a gweithdai. Anogir gwaith grŵp a thrafodaeth ym mhob sesiwn, a chefnogir hefyd gyda deunyddiau ar-lein gan ddefnyddio Moodle.

Ar gyfer y modiwlau sgiliau Seicoleg Gymhwysol bydd gwaith grŵp bach ac ymarferion grŵp bach yn cael eu defnyddio sy'n annog datblygiad sgiliau seicolegol cymhwysol ac yn darparu profiad ymarferol i gyfranogwyr.

Mae’r traethawd hir hefyd yn caniatáu hyblygrwydd gan y bydd disgwyl i fyfyrwyr wneud eu hymchwil mewn lleoliadau cymhwysol, a allai fod yn y gweithle neu gydag un o bartneriaid lleoliad yr adran.

Neilltuir tiwtor personol i bob myfyriwr a fydd yn cynnig cymorth bugeiliol ac academaidd ac arweiniad ar fodiwlau craidd, cymhwysol a dewisol mewn modd sy’n bodloni eu gofynion dysgu unigol.

Asesu

Defnyddir ystod o ddulliau asesu i gefnogi dysgu myfyrwyr. Bydd y rhain yn cynnwys adroddiadau ar gyfer Dulliau a Dyluniad Ymchwil, ac adolygiad systematig o arfer Seiliedig ar Dystiolaeth. Bydd y rhain yn llywio cynhyrchu'r traethawd hir 60 credyd. Bydd dyddlyfrau dysgu adfyfyriol, asesiadau cymheiriaid a chyflwyniadau yn cael eu defnyddio yn y modiwlau Sgiliau Seicoleg Gymhwysol. Defnyddir traethodau ac astudiaethau achos hefyd.

Mae'r asesiadau wedi'u cynllunio i alluogi myfyrwyr i ddangos ystod o sgiliau cymhwysol, yn barod ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Anogir myfyrwyr i siarad â staff academaidd cyn ac ar ôl cyflwyno gwaith.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae'r rhaglen MSc yn gwella datblygiad proffesiynol y rhai mewn cyflogaeth a'r rhai sy'n edrych i ddilyn gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â seicoleg. Mae’r rhaglen yn addas ar gyfer y rheini sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd, ym maes Adnoddau Dynol lle mae ffocws ar les, a’r rhai sy’n dymuno ymestyn eu sylfaen sgiliau gyda’r nod o gael gyrfa ymchwil.

Sylwch nad yw'r rhaglen hon wedi'i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Gradd anrhydedd dda (2.1 neu uwch fel arfer) mewn Seicoleg, fel arfer o gwrs israddedig achrededig BPS (Cymdeithas Seicolegol Prydain). Mae'n bosibl y bydd y rhai heb radd achrededig BPS yn dal i gael eu hystyried.

Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder hyd at o leiaf safon IELTS 6.0 neu gyfwerth. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg, ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Gweithdrefn Ddethol:
Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen MSc Seicoleg Newid Ymddygiad Cymhwysol gwblhau'r ffurflen gais sydd ar gael ar y wefan a chyflwyno datganiad personol i egluro eu rhesymau dros wneud cais am y cwrs. Ceisir dau eirda a chyfwelir pob ymgeisydd. Os nad yw ymgeiswyr yn bodloni’r meini prawf mynediad arferol yna mae’n bosibl y bydd gwybodaeth ychwanegol yn cael ei chymryd i ystyriaeth e.e. profiad gwaith a thystiolaeth arall o allu i astudio ar lefel Meistr.

Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i'r brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. Am wybodaeth bellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd gan sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a / neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Cyfeiriwch yma.

Ffioedd rhan-amser:
Codir y taliadau fesul Modiwl Sengl oni nodir yn benodol:
Israddedig = 10 Credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd

Yn gyffredinol, gwelwn y bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn cwblhau 60 credyd y flwyddyn ar gyfer astudio Israddedig ac Ôl-raddedig; i gael gwir gost, eglurwch hyn trwy gysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen yn uniongyrchol.

Cysylltwch â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyn ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch directapplications@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â: Daniel Heggs
DHeggs@cardiffmet.ac.uk

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.