Hafan>Newyddion>Ydych chi'n clywed effeithiau newid hinsawdd gartref eto?

Ydych chi'n clywed effeithiau newid hinsawdd gartref eto?

 Barn | 3 Tachwedd 2021

teras traddodiadol ym Mhrydain

 

Gan
Yr Athro Athro Carolyn Hayles, Athro Dylunio Amgylcheddol a Chynaliadwy ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.

Oedd hi'n anoddach ichi gael noson dda o gwsg yn ystod tywydd poeth yr haf hwn?  A wnaethoch chi, fel sawl un arall, gael gwared ar eich cwrlid, prynu ffan drydan neu fatri, neu symud eich hunan neu eich plant/rhieni oedrannus i ystafell oerach i'w helpu nhw i gael noson dda o gwsg?  Os ydych chi wedi dioddef tymheredd ystafell o 26°C neu fwy, mae eich cartref yn profi'r hyn a elwir yn gorboethi haf, ac rydych chi'n dechrau clywed effeithiau newid hinsawdd. 

Pan fyddwn ni'n profi cyfnod cynhesach na'r arfer yn ystod yr haf, rydym yn dal i ymddwyn fel pe bai'n syndod; fodd bynnag, rydym wedi wynebu'r ffenomen orboethi haf hon ers blynyddoedd lawer bellach, ac mae rhagfynegiadau hinsawdd yn dangos mai dim ond gwaethygu bydd hyn.  Er enghraifft, gadewch inni ystyried y cyfnod o chwe wythnos rhwng 22 Gorffennaf a 31 Awst, sy'n cyd-fynd â'n gwyliau ysgol blynyddol.  Dengys setiau data hinsawdd y Swyddfa Dywydd y bydd y tymheredd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd [y cyfnod 2021-2040] yn fwy na 2˚C uwchlaw tymereddau gwaelodlin [a gofnodwyd rhwng 1981-2000], ac erbyn 2070 [2061-2080], bydd hyn 5.5˚C yn uwch na'r gwerthoedd gwaelodlin.  Awgrymir gan hynny mai'r hyn a ystyriwn yn ddiwrnod chwilboeth yw'r norm ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn mewn gwirionedd; a bydd tymheredd yr haf yng Nghaerdydd, ac mewn mannau eraill, yn parhau i godi'n raddol.  Ond beth mae hyn yn ei olygu i'n cartrefi a sut yr ydym yn byw ynddynt?

Fel cymrawd ymchwil hinsawdd yn Llywodraeth Cymru, treuliais y flwyddyn ddiwethaf yn edrych ar ba mor wydn yw adeiladau yn y DU a Chymru i wrthsefyll heriau sy'n gysylltiedig â hinsawdd sy'n newid.  Mae'r ymchwil hon yn cynnwys modelu bregusrwydd i'r hinsawdd, ar y cyd â Resilient Analytics, i ddeall effeithiau newid hinsawdd ar gartrefi pobl yng Nghymru.  Edrychom ar y berthynas rhwng hinsawdd allanol [tymheredd, heulwen, glaw, a lleithder] ac amodau mewnol.  Mae'r canlyniadau'n dangos achosion cynyddol o orboethi haf yn y mwyafrif o gartrefi yng Nghymru.  Yr anheddau sy'n perfformio orau, h.y. y rhai a effeithiwyd arnynt leiaf gan orboethi haf, oedd y rhai y'u hadeiladwyd cyn 1919 a thai â waliau cerrig solet.  Y rhai sy'n perfformio waethaf, lle gall preswylwyr ddisgwyl lefelau lleilai o gysur, oedd y tai y'u hadeiladwyd ar ôl 1990, fflatiau ac eiddo ag insiwleiddio yn y waliau mewnol.  

Ond nid tymheredd a gorboethi yw ei diwedd hi o ran effaith newid hinsawdd ar ein cartrefi. Ydych chi wedi sylwi ar fwy o dwf llwydni, yn enwedig yn eich ystafell ymolchi neu eich cegin?  Ydych chi'n ei chael hi'n anoddach ei reoli/cael gwared arno?  Gall hyn hefyd fod yn arwydd gan eich tŷ fod angen ichi addasu i ddarparu ar gyfer effeithiau newid hinsawdd.  Mae swm y lleithder caeth sydd yn ein cartrefi'n bwysig oherwydd y cynnwys lleithder gorau posibl [lleithder cymharol] er cysur ac iechyd dynol yw rhwng 30-60%.  Gall unrhyw beth uwchlaw hyn arwain at dwf bacteriol a ffwngaidd, gan arwain at rhinitis alergaidd, asthma, a heintiau anadlol eraill.  Dengys ein hymchwil, ar gyfer yr un cyfnod o chwe wythnos, fod potensial ar gyfer ansawdd amgylcheddol mewnol gwaeth oherwydd cynnydd mewn lleithder caeth, a allai fod yn effeithio ar ein hiechyd.  Bydd anheddau arfordirol mewn lleoedd fel Llangefni ar Ynys Môn neu Arberth yn Sir Benfro, yn profi cynnydd annymunol mewn lleithder cymharol, waeth beth fo oed eu tai neu eu gwneuthuriad.  Bydd lleithder cymharol ar ei uchaf mewn anheddau cyn 1919 ac anheddau â waliau cerrig solet waeth beth fo'u lleoliad, gan fod y berthynas rhwng tymheredd a lleithder cymharol mewn cyfrannedd gwrthdro; lle mae'r tymheredd mewnol yn is, bydd yr aer yn wlypach ac felly bydd y lleithder cymharol yn cynyddu.  Wrth gwrs, nid yw hyn yn argoeli'n dda ar gyfer misoedd oerach a gwlypach Hydref hyd at Fawrth.

Felly, beth allwn ni ei wneud i leihau effaith newid hinsawdd ar ein cartrefi?  Wel, mae angen inni addasu ein hymddygiad, ein cynllunio mewnol, a chyfundrefnau cynnal a chadw adeiledd ein hadeiladau.  Er mwyn lleihau gorboethi haf, bydd angen strategaethau lleol a fydd yn cynnwys sicrhau cylchrediad aer priodol [awyru], gwydro a dyfeisiau cysgodi i reoli enillion solar mewnol.  Efallai y bydd angen inni newid y ffordd yr ydym yn trefnu ein mannau mewnol, rheoli ein henillion thermol a gynhyrchir yn fewnol, ac os yn bosibl, gwella ein microhinsawdd allanol uniongyrchol drwy baentio waliau â lliw golau i adlewyrchu goleuni, a phlannu mwy o lystyfiant i amsugno gwres a llygryddion.   Yn sicr, bydd angen strategaethau awyru arnom hefyd i wella'r broses o echdynnu aer llawn lleithder, a llygryddion a gynhyrchir yn fewnol, er mwyn osgoi achosion cynyddol o gyddwysiad, tamprwydd, a thwf llwydni, ac effeithiau andwyol alergenau, gronynnau a llygryddion eraill.  Mae hefyd angen inni ystyried ein cyfundrefnau trwsio a chynnal a chadw, a fydd hefyd yn ein galluogi ni i baratoi ar gyfer effeithiau newid hinsawdd eraill, gan gynnwys tywydd gwlypach, cawodydd trymach, a llifogydd o ganlyniad i hynny.   Er enghraifft, gyda mwy o law, bydd angen inni wirio ein peipiau dŵr a'n cwteri'n amlach ac, ynghyd â lefelau uwch o heulwen, bydd angen inni ail-baentio ein drysau, ffenestri ac estyll tywydd yn amlach er mwyn osgoi pothellu paent yn ogystal â mynediad lleithder. 

Er bod llawer o gartrefi yn y blynyddoedd diwethaf, yn naturiol, wedi canolbwyntio ar liniaru newid hinsawdd, datgarboneiddio, gwella effeithlonrwydd ynni, a lleihau baich tlodi tanwydd gaeaf; mae angen ystyried effeithiau newid hinsawdd yn fwy cyfannol erbyn hyn.  Yn wir, mae'r Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd [CCC] wedi cydnabod y gallai'r angen am oeri yn ystod yr haf arwain at dlodi tanwydd ychwanegol.  Mae'n bwysig felly bod lliniaru ac addasu'n cael eu rheoli ar y cyd er mwyn osgoi camaddasiadau yn y dyfodol.

Bydd newid hinsawdd yn effeithio ar bawb yng Nghymru.  Fel dinasyddion Cymru, gallwn wneud ein rhan tuag at gyflawni cynllun sero net Cymru drwy ddewis diogelu ein cartrefi rhag yr hinsawdd, a sut rydym yn byw ynddynt, mewn ffordd nad yw'n dibynnu ar atebion carbon-ddwys, ond ar newid ymddygiad rhesymol, addasiadau is-dechnoleg, a, lle bo hynny'n bosibl, dulliau gwresogi, oeri ac awyru carbon is ac ynni isel.