Barn | 10 Tachwedd 2021
Gan
Dr Ellen Evans, Cymrawd Ymchwil
Fel cymrawd ymchwil yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE sy'n arbenigo mewn ymchwil i ddiogelwch bwyd ac fel aelod o'r Gymdeithas Ryngwladol Er Amddiffyn Bwyd, mae diddordeb brwd gen i yn ymddygiadau pobl mewn perthynas â bwyd a'u heffaith ar ddiogelwch bwyd. Fodd bynnag, yn y blynyddoedd diwethaf, o ganlyniad i'm pryderon ynglŷn â newid yn yr hinsawdd, rwy wedi dechrau meddwl mwy am sut y gall sicrhau arferion diogelwch bwyd yn y cartref helpu mewn gwirionedd i leihau ein hôl troed carbon ein hun.
Er bod llawer o bobl yn credu mai'r sector gweithgynhyrchu bwyd sy'n bennaf gyfrifol am wastraff bwyd, yn y DU mae tua 70% o wastraff bwyd yn dod o gartrefi pobl (WRAP, 2021).
Fel rhan o'm hymchwil, rwy wedi cwblhau nifer o astudiaethau sy'n canolbwyntio'n benodol ar arferion oeri yn y cartref. Mae canfyddiadau rhai o gyfranogwyr yr ymchwil am oergelloedd wir wedi aros gyda fi. Er enghraifft; esboniodd unigolyn a oedd â llawer llai o incwm gwario ar ôl ymddeol ei fod yn poeni am gost ei fil trydan gan esbonio ei fod yn cadw i oergell "ar y gosodiad lleiaf, fel ei bod yn defnyddio llai o drydan"; a dwedodd un arall wrthyf yn falch am yr oergell 40 mlwydd oed roedd wedi'i hetifeddu, roedd yn teimlo y byddai'n"wastraffus cael gwared arni jest am ei bod yn hen". Felly wrth archwilio'r oergelloedd hyn cefais i eu bod yn gweithredu ar dymereddau uwch na'r 5°C a argymhellir (Asiantaeth Safonau Bwyd, 2020).
Er bod gan bobl agweddau positif tuag at bwysigrwydd oeri, penodd f'ymchwil nad yw'r mwyafrif yn ymwybodol o dymereddau gweithredu sy'n cael eu hargymhell ac yn adrodd"peidio byth â gwirio" tymheredd gweithredu eu hoergell (Evans & Redmond, 2016). Mae ymchwil bellach wedi darganfod bod 91% o oergelloedd yng nghartrefi pobl yn gweithredu ar dymereddau sy'n uwch na'r argymhellion (Evans & Redmond, 2015b).
Rwy wedi cael y fraint o ymweld â llawer o geginau cartref ac archwilio eu hoergelloedd dros y blynyddoedd (Evans & Redmond, 2015a, 2015b), rwy wedi sefydlu nad oes unrhyw gydberthynas rhwng y rhif ar ddeial eich oergell a'r tymheredd gweithredu gwirioneddol. Yr unig ffordd o bennu'r tymheredd gwirioneddol yw defnyddio thermomedr oergell, sydd ar gael yn eang, ac yn bris bach i'w dalu i sicrhau diogelwch y bwyd rydym ni'n ei fwyta a lleihau gwastraff bwyd.
Mae pobl wedi dweud wrthyf fi ar achlysuron di-rif "pan oeddwn i'n ifanc doedd dim oergell gennyn ni" ac wedi holi "pam ydyn ni wedi dod mor ddibynnol ar oergelloedd?" Y dyddiau hyn, mae'r bwyd a brynwn a'n harferion bwyta wedi newid yn aruthrol ers blynyddoedd yn ôl. Mae dyddiau prynu popeth o'r siop leol a'i goginio o'r dechrau un bob dydd wedi diflannu, mae galw defnyddwyr am fwydydd cyfleus, ffres gyda'r isafswm cadwolion wedi arwain at werthiannau uwch o gynhyrchion bwyd wedi'u hoeri, parod i'w bwyta. O ganlyniad, wrth i brosesau cadw ddod yn llai llym (llai o ddefnydd asidau, halen ac ychwanegolion cemegol) i reoli twf bacteria, mae diogelwch cynhyrchion bwyd yn cael ei gynnal twry gyfuniad o becynnu mewn atmosffer wedi'i addasu ac oeri. Gan hynny, mae angen rheoli tymheredd yn llym i atal twf bacteria, i sicrhau diogelwch bwyd ac i atal gwastraff bwyd.
Ond efallai eich bod chi'n meddwl "pa wahaniaeth ydy'n ei wneud os yw f'oergell ychydig o raddau'n rhy gynnes?" Mewn arbrawf labordy (Evans & Redmond, 2019), ymchwilias i beth sy'n digwydd i facteria mewn bwyd o'i storio ar dymereddau gwahanol, a darganfod bod bacteria gwenwyn bwyd a bacteria sbwylio bwyd yn tyfu ar gyfraddau sylweddol gyflymach ar dymereddau oeri sydd ychydig yn uwch na'r argymhellion (7.8°C), o'u cymharu â thymereddau o fewn yr argymhellion (2.5°C), sy'n awgrymu bod tymereddau oeri annigonol yn gallu arwain at fwydydd sydd o bosibl yn anniogel a gwastraff bwyd.
Hyd yn oed os gallwch chi gofio adeg cyn dyddiadau 'defnyddiwch erbyn', mae'r labeli dyddiad ar fwydydd yn bwysig iawn hefyd yn nhermau diogelwch bwyd a gwastraff bwyd. Mae ein hymchwil wedi darganfod bod llawer o bobl yn drysu rhwng dyddiadau 'ar ei orau cyn' a 'defnyddiwch erbyn' (Evans & Redmond, 2016). Felly i egluro, mae 'ar ei orau cyn' yn ddangosydd ansawdd bwyd, bydd rhai pobl efallai'n cael gwared ar fwyd pan fydd tu hwnt i'r dyddiad 'ar ei orau cyn', ond gallwch chi fwyta'r bwyd ar ôl y dyddiad hwn, bydd yn ddiogel ond efallai na fydd o'r ansawdd gorau, er enghraifft efallai na fydd yn teimlo fel a fwriedir. Ar y llaw arall, mae'r dyddiad 'defnyddiwch erbyn' yn ddangosydd diogelwch bwyd, sy'n cael ei gyfrifo ar sail gallu bacteria i dyfu, ni ddylai bwyd sydd tu hwnt i'r dyddiad 'defnyddiwch erbyn' gael ei fwyta – hyd yn oed os yw'r bwyd yn ymddangos yn iawn, gan fod bacteria gwenwyn bwyd yn gallu tyfu i niferoedd uchel heb gael effaith ar flas, arogl a golwg y bwyd. Er na ddylen ni fod yn bwyta bwyd tu hwnt i'r dyddiad 'defnyddiwch erbyn', mae nifer o gamau y gallwn eu cymryd i atal gwatraffu bwyd am ei fod tu hwnt i'r dyddiad 'defnyddiwch erbyn'; fel cynllunio beth ydyn ni'n ei brynu a rhewi cynhyrchion bwyd na fyddan ni eu bwyta cyn y dyddiad 'defnyddiwch erbyn'.
Felly, mae llawer o gamau syml y gallwn i gyd eu cymryd i helpu i leihau gwastraff bwyd yn ein cartrefi sydd hefyd yn helpu i sicrhau bod y bwyd rydyn ni yn ei fwyta'n ddiogel. Yn wir, yn gynharach eleni, lansiodd WRAP yr Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd gyntaf, mewn ymgais i fynd i'r afael â gwastraff bwyd cartrefi gyda'r neges syml bod"Gwastraffu Bwyd yn Bwydo Newid yn yr Hinsawdd". Yn ogystal â sicrhau tymereddau oeri diogel a rhewi bwyd cyn y dyddiad 'defnyddiwch erbyn', mae'r ymgyrch yn ein hannog i gynllunio'n prydau bwyd ac ysgrifennu rhestr siopa hefyd – fel ein bod ond yn prynu beth mae ei wir angen arnon ni.
Rwy'n gwybod bod llawer o bobl wedi newid beth maen nhw'n ei fwyta'n barod er mwyn lleihau eu hôl troed carbon, ond rwy'n credu bod sut awn ati i siopa am fwyd, ei baratoi a'i storio yn gallu bod o fudd hefyd. Gall newidiadau bach – fel sicrhau bod ein hoergell yn gweithredu ar dymereddau islaw 5°C, a gwneud defnydd da o'r rhewgell – wella diogelwch bwyd, lleihau gwastraff bwyd a lleihau ei effaith bosibl ar newid yn yr hinsawdd.
Cyfeiriadau
Evans, E. W., & Redmond, E. C. (2015a). Analysis of Older Adults' Domestic Kitchen Storage Practices in the United Kingdom: Identification of Risk Factors Associated with Listeriosis. J. Food Prot., 78(4), 738-745.
Evans, E. W., & Redmond, E. C. (2015b). Time Temperature Study of UK Consumers' Domestic Refrigerators Time Temperature Study of UK Consumers' Domestic Refrigerators. Yn International Association for Food Protection (IAFP) European Symposium on Food Safety. Caerdydd, DU. 20 - 22 Ebrill 2015.
Evans, E. W., & Redmond, E. C. (2016). Older adult consumer knowledge, attitudes and self-reported storage practices of ready-to-eat food products and risks associated with listeriosis. J. Food Prot., 79(2), 263-272.
Evans, E. W., & Redmond, E. C. (2019). Laboratory re-enactment of storage practices of older adults to determine potential implications for growth of Listeria monocytogenes. Food Protection Trends., 39(3), 225-236.
Food Standards Agency. Food safety and hygiene at home. Chilling. How to chill, freeze and defrost food safely. (2020). Cyrchwyd 27 Ebrill 2021.
WRAP. WASTING FOOD FEEDS CLIMATE CHANGE: Food Waste Action Week launches to help tackle climate emergency. (2021). Cyrchwyd 20 Hydref 2021.