Hafan>Newyddion>A ydy'r argyfwng hinsawdd yn ein gorfodi i ailfeddwl am ddiwydiant twristiaeth Cymru?

A ydy'r argyfwng hinsawdd yn ein gorfodi i ailfeddwl am ddiwydiant twristiaeth Cymru?

​Barn | 09 Tachwedd 2021

Dau berson yn sefyll ar y promenâd yn edrych dros y môr

 

Gan
Dr Jeanette Reis (Yr Adran Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau) a Louise Dixey (Prosiect Twristiaeth y Genhedlaeth Nesaf)

Rydyn ni'n gwybod y dylen ni leihau ein hôl troed carbon os ydyn ni am osgoi'r effeithiau gwaethaf a ragwelir gan newid yn yr hinsawdd. Wrth i COP26 gychwyn yn Glasgow, mae'n bryd ystyried ein rolau yn hyn o beth fel twristiaid a darparwyr twristiaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon Cymru i sero net erbyn 2050 – gyda'r gobaith o gyrraedd yno ynghynt. Mae'r ymrwymiad beiddgar hwn wedi'i ymgorffori yn y gyfraith ac mae'n rhan o gyd-destun cymhleth economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, technolegol a gwleidyddol. Mae Cymru yn eithriadol fel cyrchfan twristiaeth yn yr ystyr bod cynaliadwyedd wedi'i ymgorffori yn y gyfraith trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae cael Gweinidog penodol dros Newid Hinsawdd yn gosod ein hamgylchedd yn gadarn ar yr agenda wleidyddol.

Wrth i ddiwydiannau trwm traddodiadol gilio yng Nghymru, mae hyn yn gyfle i dwristiaeth ffynnu a dod yn sylfaen gadarn i'n heconomi werdd yn y dyfodol.

"Yr hyn sydd angen i ni ei wneud nawr ydy gwneud defnydd llawn o'r adnoddau sydd allan yna, addysgu a hyfforddi ein hunain, ceisio rhoi seilwaith ar waith i gefnogi cynaliadwyedd ac, yn y pen draw, ceisio gwneud dewisiadau mwy synhwyrol ynglŷn â ble rydyn ni'n mynd ar wyliau'r flwyddyn nesaf."

Nod Strategaeth Twristiaeth Croeso i Gymru 2020-2025 (Welcome to Wales Tourism Strategy 2020-2025) - sy'n seiliedig ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol - a Chynllun Gweithredu Carbon Isel Llywodraeth Cymru (Welsh Government's Low Carbon Action Plan) ydy disodli'r mwyafrif o deithiau ceir â chludiant cyhoeddus ac actif, annog cerbydau trydan a gweithredu pwyntiau gwefru, fel rhan o'r seilwaith twristiaeth. Felly, dydyn ni ddim yn gwneud yn rhy wael, ond mae cryn dipyn i'w wneud eto i lenwi'r bwlch rhwng y strategaeth a gweithredu actif.

Yn ôl Adroddiad Perfformiad Twristiaeth Cymru, (Wales Tourism Performance Report) yn 2019 (cyn-Covid), cyfrannodd oddeutu 11 miliwn o deithiau dros nos i Gymru tua £6biliwn o bunnau i'r economi. Wrth i dwristiaeth ddomestig gynyddu'n raddol, mae gennym gyfle go iawn i wneud y gorau o'n traethau gwledig helaeth, bywyd gwyllt morol, camlesi, mynyddoedd, llwybr arfordirol, llwybrau beicio a chestyll – sy'n cynnig gweithgareddau twristiaeth carbon isel, yn ogystal â gweithgareddau trefol fel digwyddiadau chwaraeon, bwyd a diod, y celfyddydau a phrofiadau diwylliannol. Nid oes gan bob un o'r gweithgareddau hyn olion traed carbon isel, ond os ydyn ni am osgoi teithio'n bell, ymddengys eu bod nhw'n opsiynau llawer mwy cynaliadwy.

Yn rhyngwladol, cydnabyddir bod yna frys am weld twristiaeth yn datgarboneiddio. Yn 2020 sefydlwyd mudiad o'r enw 'Tourism Declares a Climate Emergency' gan fusnesau twristiaeth blaenllaw ac yn COP26 bydd Datganiad Glasgow ar gyfer Gweithredu Hinsawdd mewn Twristiaeth (Glasgow Declaration for Climate Action in Tourism) yn nodi ymrwymiad i weithredu ynglŷn â'r hinsawdd ar draws y diwydiant twristiaeth. Y cwestiwn nawr ydy sut i ysgogi cefnogaeth a sut i wireddu datgarboneiddio mewn twristiaeth sydd â chadwyni cyflenwi cymhleth. Mae methodolegau mesur carbon a gwrthbwyso gwyddonol yn dod yn fwy cyffredin yn y diwydiant twristiaeth, ac er y gallen nhw swnio fel pe baen nhw'n datrys llawer o faterion, maen nhw'n parhau i fod yn destun dadl.

Mae gweithredu mesurau lleihau carbon yn dibynnu'n rhannol ar feddu adnoddau i fesur olion traed carbon. Does gan Gymru ar hyn o bryd mo'r fethodoleg safonedig ar gyfer asesu olion traed carbon mewn llety na theithio twristiaeth ond dylai fod ganddi. Yr enw ar un o'r cyfryw adnoddau a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU ar gyfer nodi nwy (UK Government for greenhouse gas reporting)  ydy Hotelfootprints. Mae hwn yn amcangyfrif metrigau defnyddiol ar gyfer darparwyr llety a gwesteion[1].Adnodd arall i amcangyfrif carbon ydy EcoPassenger,  adnodd hawdd ei ddefnyddio ac yn rhad ac am ddim i'w gyrchu. Mae hwn yn cyfrifo olion traed carbon ar gyfer gwahanol ddulliau o gludiant[2]. Gall adnoddau fel hyn fod yn ddefnyddiol iawn ond rhaid eu defnyddio yn fwy helaeth ac yn fwy cyson gan dwristiaid a darparwyr twristiaeth. Yn ogystal, rhaid i ddefnyddwyr fod yn ymwybodol bod pob model yn  symleiddio realiti a bod nifer o ragdybiaethau yn cael eu defnyddio. Er enghraifft, mae'r adnodd EcoPassenger yn cymryd yn ganiataol bod 1.5 o bobl mewn car a bod "lefel arferol o bobl" mewn trenau ac awyrennau. Felly, dydy'r adnoddau ddim yn berffaith ond maen nhw'n darparu man cychwyn ar gyfer mesur ein heffeithiau.

Gall deall yr hyn sy'n digwydd i'r hinsawdd a datblygu sgiliau gwyrdd hefyd helpu i weithredu ein strategaethau cynaliadwy ar gyfer datblygu. Bu ymchwilydd ym Met Caerdydd yn gweithio gyda darpar benderfynwyr a rhai cyfredol – disgyblion ysgol, athrawon, gweithwyr elusennau, perchnogion busnesau bach ac chynghorwyr, i ymchwilio i addysg a hyfforddiant yng Nghymru ym maes newid yn yr hinsawdd. Canfu ymchwil i greu hinsawdd ar gyfer profiad dysgu darpar benderfynwyr a rhai cyfredol am y newid yn yr hinsawdd (Creating climate for learning-experiences of education existing and future decision-makers about climate change) fod yr addysg gyfredol a'r hyfforddiant cyfredol a ddarperir ar gyfer newid yn yr hinsawdd yn wasgarog a di-gyswllt, y wybodaeth ar gael i'r cyhoedd yn or-gymhleth a bod diffyg hwyluso cymorth ar gyfer ddatblygu mesurau lliniaru ac addasu. Hefyd, daeth yr ymchwil i gasgliad bod deall yr hyn sy'n digwydd i'r hinsawdd yn golygu buddsoddi mewn addysg hirdymor a gweithgareddau hyfforddi yn hytrach na digwyddiadau unigol ysbeidiol.

Hefyd, amlygodd ymchwil Prosiect Twristiaeth y Genhedlaeth Nesaf - Next Tourism Generation Project a gyllidir gan yr UE fod rhaid mynd i'r afael â bylchau yn y sgiliau cynaliadwy - an imperative to address sustainability skills gaps, waeth beth fo'r math o sector twristiaeth, maint y busnes a lefel swyddi yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae Pecyn adnoddau - NTG Toolkit - ar gyfer addysg a diwydiant yn cael ei dreialu ac yn cynnwys modiwlau agored eu mynediad (open access modules) ar y newid yn yr hinsawdd, twristiaeth cynaliadwy a chyfleu cynaladwyedd. Mae'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru wedi croesawu'r Pecyn Adnoddau, er bod sialensiau iddo gael ei dderbyn yn gyffredinol yn parhau. O gofio hyn oll, gallwn weld bod gwahaniaethau clir rhwng strategaethau uchel eu lefel a'u gweithredu.

Canlyniad anfwriadol Cofid fu i lawer o dwristiaid y DU ddewis gwyliau domestig yn ystod 2020 a 2021 ac felly, drwy hap, leihau ôl traed carbon eu teithio a'u llety. Mae'r Tourism Barometer diweddaraf yn nodi i bob ardal o Gymru fod yn brysurach nag arfer yn 2021 a chafodd tua hanner (48%) o ddarparwyr llety fwy o gwsmeriaid o'i gymharu â'r dyddiau cyn Cofid. Mae adroddiadau yn y cyfryngau yn awgrymu mai canlyniad costau is, cludiant haws a'r amrediad o weithgareddau sydd ar gael i dwristiaid fydd twf parhaus y sector hyd yn oed pan fydd teithio rhyngwladol yn dychwelyd yn llawn. Yn hollbwysig, dengys hyn bod yna awch am dwristiaeth cartref, ac oherwydd ei natur ei fod yn fwy cynaliadwy na thwristiaeth rhyngwladol. 

Fel y gwelwn, mae strategaethau, adnoddau ac enghreifftiau o arferion da yn bodoli y gellir eu defnyddio i gynorthwyo datgarboneiddio a thwristiaeth cynaliadwy a gyda thwristiaeth Cymru ar gynnydd, does dim rhaid i ni hedfan i Glasgow i wneud ein rhan! Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud nawr ydy gwneud defnydd llawn o'r adnoddau sydd allan yna, addysgu a hyfforddi ein hunain, ceisio rhoi seilwaith ar waith i gefnogi cynaliadwyedd, ac yn y pen draw ceisio gwneud dewisiadau mwy synhwyrol ynglŷn â ble rydyn ni'n mynd ar wyliau'r flwyddyn nesaf.

Cyfeiriadau

[1] Er enghraifft, mae Hotelfootprints yn amcangyfrif bod gwestai yn y UK ar gyfartaledd yn defnyddio 14 kg o CO2 fesul ystafell bob nos o'i gymharu â 127 kg o CO2 am yr un peth yn Qatar. Dydyn ni ddim yn gwneud yn rhy ddrwg yn y maes hwn.

[2] Er enghraifft, byddai taith o Gaerdydd i Barcelona yn allyrru 39kg o CO2 fesul teithiwr ar drên ond 110kg wrth deithio mewn awyren a 187kg mewn car. Ar gyfer teithiau byr megis o Gaerdydd i Benfro, amcangyfrifodd EcoPassenger y byddai trên yn allyrru 9.7 kg o CO2 a char yn allyrru 17.1kg o CO2,  ac felly mae hyn yn dangos mai teithio ar y trên ydy'r opsiwn is ei garbon a bod teithiau byrrach yn well na rhai hirach.